Rhoddodd comisiynwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyfle i ofalwyr o wasanaethau preswyl a dydd i ymweld â’r Bws Dementia i brofi’r daith synhwyraidd o sut y gallai deimlo i fyw â dementia. Ymunodd staff iechyd a gofal eraill sy’n gweithio gyda phobl sy’n byw â dementia â nhw.
Aeth yr Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol draw i ddarganfod mwy.
Rwyf yn Hwb Lles Wrecsam i ymweld â’r Bws Dementia sydd wedi’i barcio y tu allan. Rwyf wedi darllen amdano o’r blaen, profiad hyfforddi rhyngweithiol. Roeddwn wedi dychmygu bws deulawr â thaflenni i’w darllen, ac efallai cael gwahoddiad i fynd am sgwrs ag arbenigwyr dementia. Roeddwn i’n anghywir ….
Rwyf yn adnabod wynebau dau ofalwr o rwydwaith defnyddwyr digidol ychydig wythnosau’n ôl. Maen nhw’n gwerthfawrogi’r cyfle i gael hyfforddiant a gofal i bobl â dementia. Maen nhw’n siarad â chydymdeimlad am y bobl maen nhw’n eu cefnogi ac yn gobeithio deall mwy am y ffordd maen nhw’n teimlo. Maen nhw’n sôn am straeon am ymddygiad nad ydynt yn ei ddeall yn llawn; dywedodd bod un gŵr ond yn cerdded heb ddim byd am ei draed, ‘ni fydd byth yn gwisgo sanau’.
Gelwir fy enw ac rydym yn mynd mewn grwpiau bychan i’r bws y tu allan, bws bychan heb ffenestri. Y tu mewn, rydym yn eistedd ar fainc gyda llen ar gau o’n blaenau ac yn cael ein cyfarwyddiadau. Rydym yn cael nifer o ategolion i’w gwisgo ac yn mynd i mewn fesul un.
Mae’n swnllyd, yn dywyll ac yn ddryslyd, rydw i’n teimlo o gwmpas gyda fy nwylo yn anghyfforddus er mwyn cwblhau cyfres o dasgau nad wyf yn siŵr ohonynt, ni chlywais y cyfarwyddiadau’n iawn. Mae deg munud yn teimlo fel hanner awr. Ar un adeg, rwyf yn teimlo’n fregus iawn yn cael fy annog i eistedd. Pan ydym yn cael ein harwain oddi ar y bws, rydym yn tynnu’r ategolion ac yn edrych ar ein gilydd, rydw i’n teimlo’n fychan ac yn ansicr, mae eraill yn amlwg yn emosiynol, dywedodd rheolwr cartref gofal ei bod yn teimlo’n rhwystredig. Rydym yn sylwi ein bod yn ymateb yn wahanol wrth i ni sgwrsio ar y ffordd yn ôl i ystafell am sesiwn ôl-drafod. Mae’r hyfforddwr yn gyn reolwr cartref gofal ac mae’n dweud ei stori ei hun am pam y mae’n teithio’r wlad yn codi ymwybyddiaeth am Ddementia. Mae’n cyfeirio at astudiaethau ac ymchwil amrywiol megis y Boston Red Plate Study. ‘Rydw i wedi meddwl erioed pam bod y sudd coch yn mynd mor gyflym amser brecwast’ meddai un gofalwr.
Dywed yr hyfforddwr wrthym fod pobl ag Alzheimer yn fwy tebygol o ddatblygu niwropatheg ymylol, gall y symptomau gynnwys poen yn y traed a’r dwylo. “Gall hyn arwain at lusgo’u traed, mae’n bosib y byddwch sylwi ar bobl yn tynnu eu hesgidiau a’u sanau, efallai byddant yn tynnu eu hesgidiau i chwilio am gerrig”. Mae’r gofalwr gyferbyn â mi yn edrych yn benodol arnaf – ‘yr esgidiau’ meddai mewn syndod, ‘yr union beth roeddem yn siarad amdano cynt!’
Rydym yn cytuno ei fod wedi bod yn brofiad sy’n procio’r meddwl ac rydym yn myfyrio ar fyw fel hyn bob dydd a sut rydym yn trin pobl â dementia rydym yn dod i gysylltiad â nhw. Rydw i’n gwneud nodyn i mi fy hun i fod yn fwy tyner ac ystyriol wrth gael fy atgoffa mor ddiamddiffyn yw pobl sy’n byw â dementia.
Mae’r Daith Dementia Rhithiol / Bws Dementia yn sesiwn mor bwysig gan ei bod yn trafod amrywiaeth o emosiynau a phrofiadau, yn ogystal â’r realiti i lawer sy’n byw â dementia neu’n gofalu am rywun â dementia, boed hynny fel gofalwr di-dâl neu yn eu rôl gofalu broffesiynol.
Kate Evans, Cydlynydd Dementia sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn, Tîm Comisiynu a Chontractau CBSW
Roedd yn brofiad da i ddysgu rhywfaint am sut y gall y bobl rydym yn gofalu amdanynt bob dydd deimlo. Gobeithio y gallwn weithio tuag at wneud bywyd yn well i’r rhai rydym yn eu cefnogi.
Gofalwr
Ydych chi’n gweithio neu’n cael iechyd a gofal yng Ngogledd Cymru? Ydych chi’n gwybod am brosiect, tîm, gwasanaeth neu ddigwyddiad iechyd a gofal arloesol yr hoffech ei rannu? Cysylltwch â’r Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol.