• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
    • Cymryd rhan
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
    • Anableddau dysgu
    • Iechyd meddwl
    • Plant a phobl ifanc
    • Gofalwyr
    • Dementia
    • Comisiynu
    • Gweithlu
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Blog / Plant nad ydyn nhw’n mynd i’r ysgol

Plant nad ydyn nhw’n mynd i’r ysgol

28/03/2023

Cynhaliwyd ymchwiliad i archwilio’r pwnc o blant sy’n gwrthod mynd i’r ysgol.  Mae’r ymchwiliad yn edrych ar; sbardunau sy’n golygu bod plant yn gwrthod mynd i’r ysgol, anghenion a lleisiau’r plant hyn ar ffurf dyfyniadau, fideos a lluniau. Mae llawer o’r ymchwil yn awgrymu bod gwrthod mynd i’r ysgol yn fater cymhleth sy’n gofyn am ymchwiliad trylwyr i ganfod y materion y mae’r plentyn yn eu hwynebu ac yna rhoi cefnogaeth i fodloni anghenion y plentyn hwnnw.

Mae adroddiad llawn yr ymchwiliad ar gael i’w lawrlwytho isod.

Sbardunau

Roedd nifer fawr o sbardunau posibl ar gyfer gwrthod mynd i’r ysgol gan gynnwys: gorbryder, anghenion addysgol arbennig ac anableddau, salwch, bwlio, materion cymdeithasol, problemau yn y cartref, amgylchedd yr ysgol, trawma, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, tlodi, a symud i’r ysgol uwchradd.

Anghenion

Gwnaeth y Comisiynydd Plant waith ymchwil ac o ganlyniad i hyn, nododd 6 maes a ddylai ddarparu amodau sy’n ofynnol i fodloni anghenion pob plentyn:

  • Mae angen i benderfyniadau am addysg plant gael eu gwneud gyda phlant a’u teuluoedd.  Gwrando ar blant ac ymchwilio i’r rhesymau dros beidio â mynd i’r ysgol.
  • Cefnogaeth yn yr ysgol.  Mae plant yn methu’r ysgol yn sgil anghenion addysgol arbennig ac anableddau neu anghenion iechyd meddwl, bwlio nad eir i’r afael ag ef neu broblemau yn y cartref.
  • Dylai gwahardd neu ddiarddel disgyblion fod yn sbardun ar gyfer cymorth wedi’i dargedu, gan asesu eu hanghenion, a rhoi cynllun ar waith er mwyn bodloni’r anghenion hynny.
  • Ni ddylai unrhyw blentyn deimlo bod angen iddyn nhw fethu’r ysgol i gefnogi ei deulu, gan gynnwys; gofalu am aelod o’r teulu, gofalu am eu plentyn eu hunain, neu roi cymorth ariannol. Mae angen nodi’r plant hyn a’u cefnogi.
  • Mae gan ysgolion, Awdurdodau Lleol, gofal cymdeithasol, gweithwyr y GIG a phartneriaid cymunedol i gyd gyfrifoldeb i sicrhau bod y plentyn yn mynd i’r ysgol bob dydd, ac i roi cymorth i’r plentyn hwnnw.
  • Mae angen data clir ar Awdurdodau Lleol ac ysgolion i nodi plant nad ydyn nhw’n mynd i’r ysgol yn rheolaidd neu’n colli addysg.

Lleisiau Plant

Themâu cyffredin a gododd o leisiau’r plant oedd:

  • Eu problemau’n cael eu diystyru
  • Teimlo nad oes neb yn gwrando arnynt
  • Cael eu beio
  • Diffyg cefnogaeth
  • Cael eu hanghofio/gorfod aros yn hir
Adroddiad ymchwil llawn – Gwrthod mynd i’r ysgol

Sylwer nad yw’r canlyniadau hyn yn gynhwysfawr ond maent yn darparu trosolwg o destunau.

Ffeiliwyd dan: Blog

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Primary Sidebar

Chwilio

Negeseuon Diweddar

Canolbwynt ar anabledd a salwch

YN EISIAU: Cynrychiolwyr Gofalwyr

Gofalwyr ifanc sy’n gofalu am oedolion â phroblemau iechyd meddwl

  • Plant nad ydyn nhw’n mynd i’r ysgol
  • Cynhwysiant Digidol
  • YN EISIAU: CYNRYCHIOLYDD TRYDYDD SECTOR CENEDLAETHOL

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

@CoproNetWales Member logo

Copyright © 2023 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital