Pecyn Cymorth Is-grŵp Plant y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
Lawrlwytho
Crynodeb o Asesiad o Anghenion y Boblogaeth
Mae gan unigolyn anabledd os oes ganddo ef neu ganddi hi nam meddyliol, ac mae’n cael effaith andwyol sylweddol a hir dymor ar eu gallu i gyflawni gweithgareddau dydd i ddydd arferol.
Deddf Cydraddoldeb 2010
Mae nam corfforol neu feddyliol yn cynnwys anableddau corfforol, anawsterau dysgu, cyflyrau iechyd meddwl, cyflyrau meddygol, a nam cudd megis anawsterau dysgu, awtistiaeth, a nam llafaredd, iaith a chyfathrebu. Diffinnir sylweddol fel bod yn fwy na bach neu ddibwys; diffinnir hirdymor fel blwyddyn neu fwy.
Mae’r diffiniad yn eang ac oherwydd hyn rydym wedi ffocysu ar ofal seibiant i blant a phobl ifanc sydd gydag anabledd neu salwch. Hefyd, roedd gofal seibiant yn un o’r blaenoriaethau a nodwyd yn yr Asesiad o Anghenion y Boblogaeth.
Mae gofal seibiant, a elwir hefyd yn egwyl fer, yn ofal dros dro sydd yn gadael i ofalwr gael egwyl i ffwrdd o ofalu am yr unigolyn neu’r unigolion y maent yn gofalu amdano neu amdanynt.
Gwybodaeth allweddol o’r Asesiad o Anghenion y Boblogaeth 2022:
Mae ar rieni a gofalwyr angen mwy o ofal seibiant eu hunain, a soniodd un rhiant,
“Rwy’n flinedig tu hwnt. Bu’n rhaid i mi adael fy swydd fel nyrs arbenigol ar ôl 23 o flynyddoedd i ofalu am fy merch yn llawn amser, gan nad oes unrhyw gefnogaeth iddi.”
Ystadegau
Rydym wedi cynnig diweddariad llawn o’r adran yn yr Asesiad o Anghenion y Boblogaeth 2022 a oedd yn edrych ar blant a phobl ifanc gydag anableddau a/ neu salwch. Mae amlinelliad o’r prif bwyntiau o’r adolygiad hynny yn y pwyntiau bwled hyn, ac mae dadansoddiad llawn ar gael fel atodiad i’r pecyn hwn.
Prif bwyntiau:
- Nid oes cofrestr lawn o anableddau na salwch, felly rydym yn dibynnu ar ystod o ffynonellau data dirprwy.
- Efallai bod niferoedd, cyfraddau a chanrannau edrych yn eithaf gwahanol i’r rhai a ddefnyddiwyd yn Asesiad o Anghenion y Boblogaeth 2022, gan fod amcangyfrifon o boblogaeth a beth rydym yn ddeall am dueddiadau poblogaeth wedi cael eu diwygio yn dilyn cyhoeddiad o Gyfrifiad 2021.
- Mae ystadegau o hawlwyr sy’n blant o Lwfans Byw i’r Anabl yn dangos cynnydd yn y niferoedd o hawlwyr ar draws awdurdodau lleol Gogledd Cymru yn y degawd diwethaf. Er gwaethaf gostyngiad yn y nifer o blant yn y boblogaeth yn yr un cyfnod.
- Mae ystadegau mis Mai 2022 yn rhoi nifer o hawlwyr sy’n blant o lwfans byw i’r anabl yn 6,440, sydd yn gyfradd o 54.4 i bob 1,000 o blant 0 – 15 oed. Mae hyn yn gynnydd o 34.2 i bob 1,000 o blant yn 2012.
- Ar gyfer cyfnod 10 mlynedd, mae awdurdod lleol wedi gweld lleihad yn y nifer y plant ar y mwyafrif o gofrestri sy’n cofnodi anabledd.
- Yn 2021 roedd 660 o blant anabl yn derbyn gofal a chymorth gan wasanaethau cymdeithasol yng Ngogledd Cymru.
- Mae’r nifer o blant anabl yng Ngogledd Cymru sydd yn derbyn gofal a chefnogaeth gan y gwasanaeth cymdeithasol yn gyfystyr i 1 o bob 10 plentyn sydd yn hawlio budd-daliadau Lwfans Byw i’r Anabl.
- Ym mis Mai 2022, roedd y mwyafrif (tua 73%) o lwyth achos Lwfans Byw i’r Anabl yng Ngogledd Cymru un o’r tri brif gyflwr anabl – anawsterau dysgu, anhwylderau ymddygiad a syndrom hypercinetig.
- Mae data o Gyfrifiad Plant sy’n Derbyn Gofal a Chefnogaeth yn awgrymu bod gwasanaethau cymdeithasol yn gweithio gyda mwy o blant gydag anghenion corfforol cymhleth corfforol nag yn 2011, ac maent yn llunio cyfran fwy o blant sy’n derbyn gofal a chymorth.
- Mae pob mesur yn dangos bod mwy o blant gwrywaidd gydag anableddau na merched, gyda chymhareb o ddau fachgen i bob merch.
- Mae’r ffynonellau sydd gennym ynghylch oedran plant gydag anableddau neu salwch, yn dangos bod gwyriad tuag at grwpiau oedran hŷn o’i gymharu â’r boblogaeth ar y cyfan. Mae hyn yn rhannol oherwydd nad yw diagnosis rhai anableddau a salwch yn cael eu gwneud tan mae’r plant yn hŷn. Yn debyg, mae’r angen am ofal a chefnogaeth yn debygol o gynyddu fel mae’r plant yn mynd yn hŷn.
Ymgysylltu
Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd: Gwasanaeth Di-dor ar gyfer Pobl sydd ag Anableddau Dysgu
Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd: Mae Gwasanaeth Di-dor ar gyfer Pobl sydd ag Anableddau Dysgu wedi cynhyrchu ymgynghoriad lle’r oeddynt yn siarad gyda gweithwyr proffesiynol a dinasyddion i gyd-gynhyrchu blaenoriaethau ar gyfer plant ledled Gogledd Cymru, Un o’r blaenoriaethau a nodwyd oedd llety a gofal seibiant. Mewn cyfweliad, dywedodd pobl bod:
- llety lleol cyfyngedig ar gyfer plant gydag anghenion cymhleth
- dim digon o lety seibiant yn y rhan fwyaf o ranbarthau
- dim digon o ofalwyr maeth egwyl fer gyda sgiliau arbenigol
ADSS Cymru
Ar hyn o bryd mae ADSS Cymru yn casglu data ar gyfer eu Rhaglen Gwaith Grant Cyflwyno Trawsnewid – 2022/23 Maent yn casglu gwybodaeth ynghylch cyfleoedd dydd, seibiant preswyl, gwasanaethau egwyl fer i bobl hŷn, gofalwyr di-dâl, pobl gydag anableddau dysgu, pobl anabl (anableddau corfforol a synhwyraidd), pobl gydag awtistiaeth/ cyflyrau niwroddatblygiadol, plant gydag anghenion cymhleth. Ar ôl i’r wybodaeth fod ar gael, byddwn yn ei ychwanegu i’r adnodd i hysbysu ein trafodaethau.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Ym mis Ebrill 2021 comisiynodd Gwasanaethau Cymdeithasol Conwy WELV Consulting Ltd i gynnal adolygiad o’r cymorth sydd ar gael i blant a phobl ifanc ag anableddau a’u teuluoedd yng Nghonwy. Un o’r blaenoriaethau ac anghenion a nodwyd oedd egwyl fer/ gofal seibiant rheolaidd.
Amser Ni
Mae Amser Ni yn brosiect yng Ngwynedd ac Ynys Môn sy’n darparu egwyliau byr i blant a phobl ifanc gydag anableddau a salwch. Mae’n well gan Amser Ni ddefnyddio’r term ‘egwyliau byr’ yn lle ‘gofal seibiant’ oherwydd mae’n swnio’n fwy positif ac yn llai na bod y plant yn faich. Isod fe geir astudiaeth achos gan Amser Ni.
Crynodeb o Astudiaeth Achos Bachgen 14 oed:
Cafodd bachgen 14 oed ei gyfeirio at Amser Ni. Mae wedi cael diagnosis o awtistiaeth gydag anawsterau dysgu cysylltiedig, a hefyd mae wedi cael diagnosis yn ddiweddar o ddiabetes math 1. Mae’n byw gyda’i rieni a’i chwaer hŷn. Yn dilyn y diagnosis o ddiabetes, cynyddodd y gofalu amdano a’i anghenion meddygol ac o ganlyniad i lefelau siwgr ansefydlog roedd yn rhaid i’w rieni fod yn effro yn ystod y nos hefyd. Roedd yn dod yn gynyddol ynysig gartref ac yn gwrthod mynd allan i’w rieni. Roedd ei deulu yn cael trafferth ac eisiau mynediad i gefnogaeth gofal seibiant. Roedd ei deulu yn ei chael yn anodd iawn i ofalu amdano a hefyd yn teimlo’n euog iawn nad oeddent yn gallu treulio amser gyda’i chwaer gan eu bod bob amser yn canolbwyntio ar ofalu am eu mab.
Mae’r bachgen wedi setlo’n dda yng nghartref y gofalwyr maeth. Mae’n hapus ac mae ganddo berthynas dda gyda’i ddau ofalwr maeth. Yn ystod ei arhosiad mae’n cael sylw un i un sydd wedi ei annog i ddatblygu sgiliau newydd. Mae’n dysgu sut i siopa am fwyd a sut i goginio a glanhau ar ei ôl. Hefyd mae’n gallu cael profiadau na fyddai’n gallu eu cael gartref fel teithiau cerdded yn yr awyr agored yn lleol, ymweld â’r traeth, nofio a mynd i’r sinema.
Mae’r bachgen ifanc yn gallu treulio amser gwerthfawr gyda’i ofalwr maeth a chael profiadau newydd ac mae ei deulu yn gallu gorffwys a magu nerth drwy gael egwyl o’u rôl yn gofalu a fydd yn eu galluogi nhw i barhau i ofalu amdano yn y dyfodol. Fe fydd y bachgen ifanc yn parhau i gael cynnig egwyl fer reolaidd o un penwythnos ym mhob 6 wythnos.
Cefndir o ran Polisi
Oherwydd faint o bolisïau a chanllaw sydd ar y pwnc hwn, dyma drosolwg o’r polisïau trosfwaol, gyda chipluniau o rai canllawiau mwy penodol, ac nid yw’r bwriad i fod yn rhestr gyflawn o holl bolisïau/ canllawiau.
Dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a Deddf Pobl Anabl mae dyletswydd i asesu a bodloni anghenion plant sydd angen gofal a chefnogaeth, a’u gofalwyr. Yn ogystal mae deddfwriaeth sydd yn caniatáu plant; yr hawl i Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl, yr hawl i wneud hawliad gwahaniaethu, hawl i blant gydag anghenion addysgol arbennig ac anabledd at addysg prif ffrwd os mai dyma yw dymuniad eu rhieni a bod eu haddysg yn ddigonol.
Mae nifer o bolisïau ynghylch addysg yn cynnwys cod ymarfer anghenion addysgol arbennig sydd yn darparu canllaw ar; adnabod, asesu a darpariaeth i anghenion addysgol arbennig, sy’n cynnwys y rhieni a’r disgyblion ayyb. Mae adran ar wefan Llywodraeth Cymru sydd yn cynnwys gwahanol bolisïau a chanllaw i gefnogi dysgu ychwanegol ac anghenion addysg arbennig gan gynnwys; rheoliadau, cynllunio gweithlu, tribiwnlysoedd, pontio, technoleg gynorthwyol ayyb. Mae canllaw i gefnogi dysgwyr gydag anghenion gofal iechyd sydd yn trafod; trefniadau y dylid eu hystyried, cynlluniau gofal iechyd unigol ac arferion annerbyniol. Yn ogystal, mae canllaw benodol i gefnogi’r rheiny gydag amhariad clyw ac amhariad gweledol mewn lleoliadau addysg, sydd yn edrych ar effeithiolrwydd ymyriadau wrth ddarparu canlyniadau cadarnhaol.
Mae gan Lywodraeth Cymru dudalen yn benodol ar ganllaw a pholisïau ynghylch cyflyrau iechyd unigol, er nad yw’r rhain yn benodol i blant, maent yn cynnwys cyflyrau sydd yn effeithio ar blant; awtistiaeth, cancr, blinder cronig, diabetes, anableddau dysgu a llawer mwy. Mae gan bob cyflwr gysylltiadau i bolisïau, cynlluniau, adroddiadau, safonau a chanllaw perthnasol. Mae rhai polisïau ynghylch cyflyrau penodol sydd yn cyfeirio’n benodol i blant yn cynnwys; cynllun gweithredu strategol anabledd dysgu [13] a chynllun gweithredu strategol cyflwr sbectrwm awtistiaeth.
Cwblhaodd Comisiynydd Plant Cymru: adroddiad yn helpu’r rheiny gydag anableddau dysgu i bontio i fyd oedolion, gan gynnwys; beth sy’n bwysig, pa gefnogaeth sydd ei angen, arferion da ac argymhellion.
Mae Gwasanaeth Diogelu Gogledd Cymru wedi gosod canllaw sydd yn benodol i blant anabl, sydd yn cynnwys pam fod y plant hyn yn fwy diamddiffyn a bod angen camau gweithredu ychwanegol er mwyn eu cadw’n ddiogel.
Mae canllaw ynghylch gofal parhaus i’r plant hynny sydd ag anghenion cymhleth, lle nad yw gwasanaethau presennol yn bodloni eu hanghenion, yn darparu cymorth; adnabod, asesu, gwneud penderfyniad, darparu ac adolygu gwasanaethau.
O ran gofalwyr plant gydag anableddau, mae strategaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl yn blaenoriaethu; canfod a gwerthfawrogi gofalwyr, gwybodaeth/cymorth, seibiant a chymorth mewn addysg/gwaith. Mae canllaw ar gyfer plant anabl a’u teuluoedd yn egluro eu hawliau a’r gyfraith yng Nghymru. Mae rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf gydag ymyrraeth gynnar i atal problemau ddatblygu, ar gyfer y teulu cyfan, gweithio aml-asiantaethol i sicrhau cefnogaeth ar y cyd. Mae’n cynnwys agwedd ffocws ar anabledd i sicrhau bod anghenion y rheiny sydd ag anableddau yn cael eu bodloni.
Mae adolygiad cenedlaethol gan Arolygiaeth Gofal Cymru o’r enw ‘Gadewch i mi Ffynnu’ sy’n amlygu meysydd sydd angen gwella, mae argymhellion yn cynnwys; cefnogaeth lles, dull cyson i wrando ac i gasglu barn plant, sicrhau bod asesiadau o ran angen yn cael eu cwblhau a chynlluniau cefnogi yn cael eu gweithredu.
Enghreifftiau o arfer da
Enghreifftiau a dysgu o ddarpariaethau egwyl fer:
Mae Gofal a Rennir Yr Alban (2022) yn gasgliad o enghreifftiau o egwyliau byr arfer da a gofal seibiant ar gyfer y plant a phobl ifanc yn cynnwys:
- ‘Respitality’ yn darparu egwyl hanfodol fyr i ofalwyr di-dâl yn yr Alban pan maent ei angen fwyaf. Cyflawnir hyn drwy gysylltu sefydliadau gofalwyr gyda busnesau lletygarwch, twristiaeth a hamdden sy’n barod i gyfrannu egwyl am ddim.
- ‘The Outdoors’ sydd yn rhaglen pontio i waith ar gyfer pobl ifanc gydag awtistiaeth.
- ‘Time to Live’ (rhaglen egwyl greadigol) yn rhoi grantiau i ofalwyr fel y gallent drefnu a thalu am egwyl fer sydd yn eu gweddu nhw yn well.
- ‘Better Breaks’ – cyllid i ddarparu egwyl fer o ansawdd wedi’i deilwra i’w anghenion.
Gweledigaeth o egwyliau byr gan Ymddiriedolaeth y Gofalwyr, enghreifftiau o egwyliau i blant a restrwyd yn cynnwys:
- ‘Touch Trust’ – profiadau celfyddydol symudol ar gyfer rheiny gydag anghenion amlsynhwyraidd, anableddau dysgu ac ASD. Yn canolbwyntio ar y person yn dathlu hunaniaeth gwesteion
- ‘Equate Land Base’ – ar gyfer rhieni sy’n ofalwyr a’u plant gael mwynhau marchogaeth ceffyl
- ‘CWTCH Together’ – rhieni sy’n ofalwyr wedi ffurfio cydweithred cymunedol, sy’n cynnwys y rhieni, gofalwyr a gwirfoddolwyr yn darparu cynllun chwarae i blant gydag anableddau a chefnogaeth i gyfoedion
Fe archwiliodd y Cyngor dros Blant Anabl egwyliau byr a dewis 4 fel enghreifftiau dysgu allweddol.
- Gwasanaeth Egwyliau Byr Dwy Fwrdeistref – dau ganolfan mewnol ar gyfer plant anabl
- KIDS – gwasanaeth gofal cartref mawr, gwasanaeth seibiant dros nos, 12 darpariaeth egwyl fer, 1 man chwarae antur Llundain a lleoliadau’r Blynyddoedd Cynnar. Yn darparu gwasanaethau eraill gan gynnwys cyngor/ canllaw.
- Barnado’s Include Me 2 – cyfleoedd cymdeithasol ar gyfer plant anabl sydd methu cael mynediad at wasanaethau cyffredinol (pêl-droed, Guides/ Scouts neu glybiau eraill).
- Charlton Athletic Community Trust – gwasanaethau egwyl fer i bobl ifanc rhwng 12 – 17 oed gydag anghenion addysgol arbennig, hefyd yn gweithio gyda theuluoedd sydd angen cymorth ychwanegol.
Bu i adolygiad o’r Bwrdd Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (2017) yng Ngogledd Iwerddon ganfod bod egwyliau byr yn fwyaf effeithiol os ydynt yn ystyried beth mae pob teulu eisiau a’u hangen. Gallai ymyrraeth ochr yn ochr â seibiant/ egwyliau byr i gefnogi straen rhianta ac ymdopi fod yn fanteisiol. Cyfleoedd i’r unigolyn ifanc gyflawni gweithgareddau newydd drwy ddod yn ffrindiau, cynlluniau haf neu weithgareddau ieuenctid sydd o fantais gadarnhaol i’r unigolyn ifanc a’r teulu. Gall hyn fod yn bwysig i ddatblygu sgiliau ac annibyniaeth bywyd. Nid oedd yr adolygiad hwn yn cynnwys teuluoedd plant gydag anafiadau ymennydd, gofal diwedd bywyd neu anghenion gofal iechyd cymhleth iawn.
Mewn gwerthusiad o wasanaeth peilot egwyl fer wedi’i ddylunio i bwrpas ar gyfer pobl 18- 24 oed, disgrifiodd oedolion ifanc eu bod wedi cael budd gan gyfleuster arbenigol, priodol o ran oedran, clinigol ar safle a chyfleoedd i gymdeithasu gyda chyfoedion. Roedd mamau yn cael budd o gael amser eu hunain neu gydag aelodau o deulu gan wybod bod y gwasanaeth yn bodloni anghenion a dewisiadau eu plentyn fel y maent yn pontio i wasanaethau oedolion. Roedd yr holl famau a staff yn mynegi pryder pan fyddant yn gadael y gwasanaeth yn 24 oed.
Gwerthusiad o’r model teulu Mockingbird (MFM) i gefnogi gofalwyr maeth a’r plant a leolir iddynt, effeithiolrwydd a phroblemau posib, yn cynnwys adran ar seibiant.
Mae’r model Ealing yn ddarpariaeth i deuluoedd a gofalwyr o ymyriadau cefnogi ymddygiad positif ochr yn ochr ag egwyliau byr a therapi. Mae mynediad at y gwasanaeth hwn ar bwynt argyfwng i geisio atal teulu’n chwalu, mae’n amlygu’r angen am ymyrraeth gynnar i atal cyrraedd y pwynt argyfwng.
Mae cyfeiriadur gan Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth lle gallwch chwilio am ofal seibiant yn ôl cod post, gall hyn fod yn adnodd defnyddiol i chwilio am enghreifftiau o ofal seibiant i gael syniadau eraill.
Mae’r Easy Evaluation Toolkit gan Ofal a Rennir yr Alban wedi’i ddylunio i helpu pobl werthuso eu gwasanaethau egwyliau byr neu ofal seibiant.