• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
    • Cymryd rhan
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
    • Anableddau dysgu
    • Iechyd meddwl
    • Plant a phobl ifanc
    • Gofalwyr
    • Dementia
    • Comisiynu
    • Gweithlu
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Blog / Canolbwynt ar anabledd a salwch

Canolbwynt ar anabledd a salwch

24/05/2023

Bu Is-grŵp Plant y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn canolbwyntio ar anableddau a salwch yn eu cyfarfod ar 17 Mawrth 2023.

Mae’r wybodaeth gefndir a gawson nhw ar gael i’w lawrlwytho isod. Mae’n cynnwys pecyn gwybodaeth, cyflwyniad a fideo am ymgyrch yn yr Alban sy’n cyfuno gofal seibiant â lletygarwch a’r diwydiant twristiaeth i greu rhagor o gyfleoedd a seibiannau byr i bobl â salwch ac anableddau, yn ogystal â’u gofalwyr.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ein dulliau, gweler ein blog ‘Ffocws ar blant a phobl ifanc’.

Sylwadau o’r cyfarfod

Mae diffiniad unigolyn â salwch neu anabledd yn eang. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei ddisgrifio fel ‘mae gan unigolyn anabledd os oes ganddo ef neu ganddi hi nam corfforol neu feddyliol, ac mae’n cael effaith andwyol sylweddol a hir dymor ar eu gallu i gyflawni gweithgareddau dydd i ddydd arferol’; oherwydd hyn, mae’r pecyn gwybodaeth yn canolbwyntio ar ofal seibiant i blant a phobl ifanc â salwch neu anabledd. Hefyd, roedd gofal seibiant yn un o’r blaenoriaethau a nodwyd yn yr Asesiad o Anghenion y Boblogaeth.

‘Respitality’, enghraifft arfer da

Yn ystod y cyfarfod, dangoswyd fideo fer wedi’i chreu gan Shared Care Scotland: ‘Respitality’. Mae ‘Respitality’ yn darparu egwyl hanfodol fer i ofalwyr di-dâl yn yr Alban pan maent ei hangen fwyaf. Cyflawnir hyn drwy gysylltu sefydliadau gofalwyr gyda busnesau lletygarwch, twristiaeth a hamdden sy’n barod i gyfrannu egwyl am ddim.

Cymuned ymholi

Ymunodd Gill Toms, Swyddog Datblygu Ymchwil ac Arfer o Brifysgol Bangor, â’r cyfarfod i arwain y grŵp drwy drafodaeth cymuned ymholi. Roedd y grŵp wedi’i rannu i grwpiau i drafod y themâu a phynciau sydd yn effeithio ar blant, pobl ifanc, a’u teuluoedd a gofalwyr yng Ngogledd Cymru, a chreu cwestiwn cysyniadol i archwilio. Mae’r tri chwestiwn a ffurfiwyd i’w gweld isod:

  • Grŵp 1:Ydym ni’n defnyddio’r derminoleg gywir i gefnogi a darlunio beth sydd ar gael a beth ddylai fod ar gael? A yw pawb yn deall?
  • Grŵp 2:Sut gallwn fesur gwerth egwyliau byr i’r gymuned/ gymdeithas ehangach?
  • Grŵp 3:Gydag adnoddau, cyllid a gweithlu cyfyngedig, beth yw’r dewisiadau eraill?

Penderfynodd y grŵp gael trafodaeth bellach am y cwestiwn o Grŵp 1: Ydym ni’n defnyddio’r derminoleg gywir i gefnogi a darlunio beth sydd ar gael a beth ddylai fod ar gael? A yw pawb yn deall?

Roedd y drafodaeth yn canolbwyntio ar derminoleg ac arwyddocâd seibiant neu egwyliau byr. Er enghraifft, gallai’r termau ‘egwyl’ a ‘seibiant’ fod ag arwyddocâd negyddol. Bu’r grŵp yn archwilio a oedd y derminoleg yn disgrifio’n gywir beth sydd ar gael i blant â salwch a/neu anableddau ac i’w teuluoedd a gofalwyr. Gwelwyd y gallai dull sy’n canolbwyntio fwy ar yr unigolyn o ran gofal seibiant fod yn fwy buddiol i deuluoedd yn hytrach na gwasanaeth cyffredinol nad yw’n gweithio i bawb. Rhoddwyd enghraifft sef fod rhai teuluoedd yn cael budd o seibiannau byrrach, mwy rheolaidd, o rai oriau yn unig. Disgrifiodd rhai aelodau’r grŵp fod teuluoedd yn aml yn gofyn am daliadau uniongyrchol a bod mwy o angen am rhain arnynt, er mwyn iddynt allu dewis pa gefnogaeth sydd ei hangen arnynt a phryd. Roedd awgrymiadau eraill yn cynnwys archwilio’r cyfleoedd sydd ar gael o hamdden a thwristiaeth ar draws y rhanbarth ac a fyddai gan staff addysg ar gontractau yn ystod y tymor yn unig ddiddordeb mewn gwaith fel cynorthwy-ydd personol yn ystod gwyliau’r ysgol.

Soniodd y grŵp am bwysigrwydd creu gwasanaethau cynaliadwy a chyson i’r teuluoedd hyn er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn; a sicrhau bod y wybodaeth yn hygyrch fel bod y rhai sydd ei hangen yn gwybod beth sydd ar gael iddynt.

Y camau nesaf

Cyn y sesiwn ffocws hon, mae cyfarfodydd wedi cael eu cynnal gyda rhai o’r rheolwyr anableddau, a gyda’r tîm trawsnewid anableddau dysgu, sydd yn awyddus i adolygu, a symud rhai o’r arsylwadau a’r camau gweithredu a ddatblygwyd trwy’r drafodaeth ymlaen.

Beth ydych chi’n ei feddwl?

Ydych chi’n blentyn â salwch a/neu anabledd neu’n gofalu am blentyn â salwch a/neu anabledd? Ydych chi’n credu bod y rhain yn syniadau da ac a oes unrhyw beth pwysig yr ydym ni wedi’i golli? Oes gennych chi syniadau o ran sut y gallwn ni ddatrys pethau, ac a hoffech chi fod yn rhan o’u datrys nhw?

Cysylltwch â ni os oes unrhyw beth arall yr hoffech chi ei rannu â ni.

Lawrlwytho

Pecyn gwybodaeth anabledd a salwch

Animeiddiad Respitality

Ffeiliwyd dan: Blog, Plant a phobl ifanc

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Primary Sidebar

Chwilio

Negeseuon Diweddar

YN EISIAU: Cynrychiolwyr Gofalwyr

Gofalwyr ifanc sy’n gofalu am oedolion â phroblemau iechyd meddwl

Plant nad ydyn nhw’n mynd i’r ysgol

  • Plant nad ydyn nhw’n mynd i’r ysgol
  • Cynhwysiant Digidol
  • YN EISIAU: CYNRYCHIOLYDD TRYDYDD SECTOR CENEDLAETHOL

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

@CoproNetWales Member logo

Copyright © 2023 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital