Dyma fersiwn ymgynghori’r adroddiad. Mae’r ymgynghoriad bellach wedi cau, ond rydym yn cadw’r fersiwn hon ar ein gwefan nes i ni gyhoeddi’r fersiwn derfynol (a ddisgwylir ym mis Tachwedd 2026). Bydd fersiwn derfynol yr adroddiad yn cynnwys newidiadau a wnawn o’r adborth a dderbyniwn, a gwybodaeth am sut y gwnaethom gynnal yr ymgynghoriad.

Mae Asesiad Anghenion y Boblogaeth Gogledd Cymru yn darparu gwybodaeth am anghenion gofal a chymorth pobl yng Ngogledd Cymru ac anghenion cymorth gofalwyr. Rydym yn ei ddefnyddio i helpu i gynllunio ein gwasanaethau a gosod blaenoriaethau ar gyfer y rhanbarth. Mae hyn yn gweithio ochr yn ochr ag asesiadau iechyd, asesiadau lles, ac asesiadau eraill.
Rydym yn cyhoeddi asesiad bob pum mlynedd, cyhoeddwyd y fersiwn ddiwethaf yn 2022. Mae fersiwn 2027 o’r asesiad yn grynodeb o’r prif negeseuon o adborth ymgysylltu, data ac ymchwil, yr ydym yn eu gwirio trwy ymgynghori â phobl sy’n defnyddio ac yn darparu gwasanaethau gofal a chymorth.
Rydym wedi cyhoeddi’r holl ddata ac ymchwil cefndirol a ddefnyddiwyd yn yr Asesiad Anghenion y Boblogaeth ar wahân. Mae’r adroddiadau hyn yn darparu siartiau a thablau manwl ac yn egluro unrhyw broblemau gydag ansawdd neu argaeledd data, ac yn cynnwys gwybodaeth am ffynonellau a methodolegau.
Cwblhewch ein harolwg gofal a chymorth. Mae’r arolwg hwn bob amser ar gael, nid oes dyddiad cau wedi’i gynllunio.
Mae’r ymgynghoriad bellach wedi cau, ond rydym yn cadw’r fersiwn hon ar ein gwefan nes i ni gyhoeddi’r fersiwn derfynol (a ddisgwylir ym mis Tachwedd 2026).
Asesiad Anghenion y Boblogaeth Gogledd Cymru 2027 – prif addroddiad – drafft ymgynghori PDF
Dyma’r prif adroddiad. Mae’n 77 tudalen o hyd, ac mae’n cynnwys penodau ar gyfer yr holl grwpiau poblogaeth y mae’n rhaid i ni edrych arnynt. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth am gyd-destun yr asesiad anghenion, a sut rydym wedi’i dynnu at ei gilydd. Mae wedi’i gynllunio i fod yn hygyrch (felly nid oes ganddo siartiau na lluniau), ac mae’n un o’r fersiynau rydym yn eu hargymell eich bod yn eu defnyddio os ydych chi’n defnyddio darllenydd sgrin.
Asesiad Anghenion y Boblogaeth Gogledd Cymru 2027 – addroddiad cryno – drafft ymgynghori PDF
Fersiwn gryno yw hon, sy’n dangos y prif negeseuon a blaenoriaethau yn unig, a’r argymhellion ar gyfer pob grŵp poblogaeth. Mae’n fersiwn blaen. Mae wedi’i gynllunio i fod yn hygyrch (felly nid oes ganddo siartiau na lluniau), ac mae’n un o’r fersiynau rydym yn argymell eich bod yn eu defnyddio os ydych chi’n defnyddio darllenydd sgrin.
Asesiad Anghenion y Boblogaeth Gogledd Cymru 2027 – crynodeb darluniadol – drafft ymgynghori PDF
Dyma’r fersiwn crynodeb darluniadol sy’n cynnwys siartiau, lluniau a graffeg arall. Nid yw’n gweithio’n dda gyda darllenydd sgrin.
Dyma’r fersiwn Hawdd ei Darllen.
Os oes angen yr adroddiad arnoch mewn fformat arall, rhowch wybod i ni.
A dyma’r penodau unigol o’r prif adroddiad, rhag ofn bod gennych ddiddordeb mewn rhai o’n meysydd gwaith.
Asesiad Anghenion y Boblogaeth Gogledd Cymru 2027 – pennod 02 Pobl hŷn – drafft ymgynghori PDF
Os oes angen yr adroddiad arnoch mewn fformat arall, rhowch wybod i ni.
Mae’r ymgynghoriad bellach wedi cau, ond rydym yn cadw’r fersiwn hon ar ein gwefan nes i ni gyhoeddi’r fersiwn derfynol (a ddisgwylir ym mis Tachwedd 2026).
Chwiliadau am lenyddiaeth a chrynodebau o dystiolaeth – Tystiolaeth wedi’i chyfeirio’n llawn o ymchwil academaidd ac ymchwil arall a ddefnyddiwyd i ysgrifennu’r asesiad drafft. Mae’r adroddiadau hyn yn darparu siartiau a thablau manwl ac yn egluro unrhyw broblemau gydag ansawdd neu argaeledd data, ac yn cynnwys gwybodaeth am ffynonellau a methodolegau.
Bwletinau ymchwil – Y dystiolaeth a’r dadansoddiad ystadegol a ddefnyddiwyd i ysgrifennu’r asesiad drafft.
Cyfeiriadur ymgysylltu – Cronfa ddata o waith ymgynghori ac ymgysylltu rhanbarthol a ddefnyddiwyd i ysgrifennu asesiad drafft.
Fideos Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Crynodeb Asesiad Anghenion y Boblogaeth
Gofal a chymorth yng Ngogledd Cymru – dywedwch wrthym beth sy’n bwysig
Dyma fersiwn ymgynghori’r adroddiad. Mae’r ymgynghoriad bellach wedi cau, ond rydym yn cadw’r fersiwn hon ar ein gwefan nes i ni gyhoeddi’r fersiwn derfynol (a ddisgwylir ym mis Tachwedd 2026). Bydd fersiwn derfynol yr adroddiad yn cynnwys newidiadau a wnawn o’r adborth a dderbyniwn, a gwybodaeth am sut y gwnaethom gynnal yr ymgynghoriad.
Tudalennau cysylltiedig
Asesiad Anghenion y Boblogaeth Gogledd Cymru fersiwn 2022
Ymchwil ac ystadegau eraill rydym wedi’u cynhyrchu
Cysyllwtwch a ni
Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol Gogledd Cymru
Ebost: hcargc@sirddinbych.gov.uk
Ffôn: 01824 712432