• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Y bobl rydyn ni’n eu cefnogi >
      • Pobl gydag anableddau dysgu
      • Gofalwyr di-dâl
      • Pobl sy’n byw gyda dementia
      • Plant a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth
      • Pobl gydag anghenion emosiynol ac iechyd meddwl
    • Sut rydyn ni’n gweithio >
      • Comisiynu
      • Gweithlu
      • Diogelu
      • Fforwm gwerth cymdeithasol
      • Digidol, data a thechnoleg
      • Mwy na geiriau
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol / Ymchwil ac ystadegau / Canolbwyntio ar… / Canolbwyntio ar niwroddatblygiad

Canolbwyntio ar niwroddatblygiad

Lawrlwythiadau

Canolbwyntio ar blant a phobl ifanc: niwroddatblygiad – adroddiad llawn PDF
Canolbwyntio ar blant a phobl ifanc: niwroddatblygiad – crynodeb PDF

Mae’r pecyn gwybodaeth hwn yn casglu ystod o dystiolaeth am brofiad plant, pobl ifanc a’u teuluoedd gyda chyflyrau niwroddatblygiadol yng Ngogledd Cymru. Mae niwroddatblygiadol yn golygu datblygiad yr ymennydd ac mae ymennydd pawb yn datblygu’n wahanol. Rydym wedi edrych yn bennaf ar gyflyrau niwroddatblygiadol fel awtistiaeth ac ADHD ond hefyd wedi cynnwys gwybodaeth am ddyslecsia, dyspracsia neu Tourette’s a tics. Term arall sy’n cael ei ddefnyddio’n aml yw ‘niwroamrywiaeth’ neu ‘niwroamrywiol’ – dyma syniad sy’n cydnabod fod ymennydd pawb yn datblygu’n wahanol ac nid oes un ffordd “gywir” o feddwl, dysgu ac ymddwyn, a bod gwahaniaethau ddim yn bethau drwg neu negyddol.

Mae’r pecyn wedi cael ei lunio er mwyn hwyluso trafodaethau gyda Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Plant Gogledd Cymru ynglŷn â chydweithio i wella’r gefnogaeth sydd ar gael ar draws y rhanbarth. Cyhoeddwyd gyntaf ym mis Chwefror 2024.

Negeseuon allweddol

  • Mae’r nifer a’r gyfradd o blant gyda chyflyrau niwroddatblygiadol yn cynyddu’n bennaf oherwydd cynnydd mewn ymwybyddiaeth. Mae gan Gonwy a Sir Ddinbych y gyfran uchaf o blant awtistig yng Ngogledd Cymru. Mae’r cynnydd yn digwydd er gwaethaf y ffaith bod y rhif terfynol o blant a phobl ifanc yng Ngogledd Cymru yn lleihau.
  • Rhestrau aros ar gyfer diagnosis yn hir ac yn parhau i dyfu, gydag atgyfeiriadau yn dod yn bennaf o ysgolion gan fod asesiadau ddim yn cael eu cwblhau yn ddigon cyflym i gadw i fyny â’r galw.
  • Mae llawer o rieni eisiau diagnosis i sicrhau cefnogaeth y tu hwnt i’r ysgol, i’w helpu i egluro anghenion eu plant, datblygu strategaethau ac i’w plant allu deall eu hunain yn well.  Nid pob rhiant, gofalwr neu bobl ifanc sydd eisiau diagnosis.
  • Mae Comisiynydd Plant Cymru yn argymell fod angen cwrdd ag anghenion holl blant niwrowahanol a hynny os ydyn nhw gyda diagnosis ffurfiol neu beidio.
  • Mae cyfleoedd i ddarparu cefnogaeth i blant, pobl ifanc a theuluoedd tra eu bod nhw ar y rhestr aros am ddiagnosis.  Gall egwyddorion Nyth ddarparu fframwaith o gefnogaeth: oedolion y gellir ymddiried ynddyn nhw; lles ar draws addysg; arloesedd wedi’i greu ar y cyd; mynediad hawdd i arbenigedd, cymunedau diogel a chefnogol; a dim drws anghywir. Nod Strategaeth Drysau Cywir Gogledd Cymru yw ei gwneud hi’n hawdd dod o hyd ac i gael mynediad i gymorth, ac sy’n rhoi cynnig ar ffyrdd newydd o wneud hyn ar draws y rhanbarth.
  • Mae cyfleoedd i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, ac i addasu cyfathrebu ac amgylcheddau fel eu bod nhw’n cynnwys niwroamrywiaeth. Mewn ysgolion mae plant gyda chyflyrau niwroddatblygiadol yn debygol o gael eu bwlio, gyda phresenoldeb isel yn yr ysgol a lefelau uchel o waharddiad o’r ysgol.  Mae heriau hefyd gyda’r cyfnodau pontio, er enghraifft y ddarpariaeth o flynyddoedd cynnar i ddarpariaeth ysgol.  Mae plant a theuluoedd yn dweud fod rhai ysgolion yn darparu cefnogaeth dda, ond bod rhai ysgolion angen gwella eu cefnogaeth.

Lawrlwythiadau

Canolbwyntio ar blant a phobl ifanc: niwroddatblygiad – adroddiad llawn PDF
Canolbwyntio ar blant a phobl ifanc: niwroddatblygiad – crynodeb PDF

Tudalennau cysylltiedig

Post blog am y sesiwn ‘canolbwyntio ar…’

Asesiad Anghenion y Boblogaeth Gogledd Cymru

Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Plant

Cysyllwtwch a ni

Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol Gogledd Cymru
Ebost: hcargc@sirddinbych.gov.uk
Ffôn: 01824 712432

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni

Bluesky: @hcargc.bsky.social


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

Copyright © 2026 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital

Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi ar ein gwefan.
Gallwch ddysgu mwy am ba gwcis rydym yn eu defnyddio neu eu diffodd yn y .

North Wales Collaborative
Wedi'i bweru gan  GDPR Cookie Compliance
Trosolwg preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn i ni allu rhoi'r profiad defnyddiwr gorau posibl i chi. Mae gwybodaeth cwcis yn cael ei storio yn eich porwr ac yn cyflawni swyddogaethau fel eich adnabod pan fyddwch chi'n dychwelyd i'n gwefan a helpu ein tîm i ddeall pa adrannau o'r wefan rydych chi'n eu cael fwyaf diddorol a defnyddiol.

Strictly Necessary Cookies

Dylai Cwcis Cwbl Angenrheidiol fod wedi'u galluogi bob amser fel y gallwn gadw eich dewisiadau ar gyfer gosodiadau cwcis.

Cwcis Trydydd Parti

Mae'r wefan hon yn defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth ddienw fel nifer yr ymwelwyr â'r safle, a'r tudalennau mwyaf poblogaidd.

Mae cadw'r cwci hwn wedi'i alluogi yn ein helpu i wella ein gwefan.