• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
    • Cymryd rhan
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
      • Anableddau dysgu
      • Iechyd meddwl
      • Plant a phobl ifanc
    • Gofalwyr
    • Dementia
    • Comisiynu
    • Gweithlu
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Blog / Yr hyn sy’n bwysig a’r set ddata graidd

Yr hyn sy’n bwysig a’r set ddata graidd

04/09/2017

Yn rhan o’n gwaith rhanbarthol ar y cyd i weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, fe gynhaliwyd digwyddiad yng Nghanolfan OPTIC Prifysgol Glyndŵr ar 21 Gorffennaf 2017 i ddathlu defnyddio’r data craidd a’r hyn sy’n bwysig ar draws rhanbarth Gogledd Cymru o chwe chyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).

Mae’r ffordd rydym ni’n asesu angen a chymhwysedd pobl am ofal a chymorth yn newid. Sgyrsiau ar sail yr hyn sy’n bwysig i’r person yw ein hasesiadau newydd. Rhaid i’r asesiad hefyd gasglu gwybodaeth gyffredin, fel enwau, manylion cyswllt a dewis iaith; gwybodaeth sy’n cael ei galw’n set ddata graidd. Pwrpas hyn yw atal unigolion rhag gorfod ailadrodd yr un manylion sawl gwaith a’n helpu ni i ddarparu gwasanaethau sydd wedi’u cyd-drefnu’n dda.

Yn y digwyddiad, cafwyd anerchiad gan Neil Ayling, Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint, a Gill Harris, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio. Yna, rhoddodd Eleri Evans, Uwch-nyrs yn Ysbyty Gwynedd, gyflwyniadau ar ddefnyddio’r set ddata graidd a’r hyn sy’n bwysig, gan ddarparu enghraifft o Ysbyty Ardal Cyffredinol. Yna, cafwyd enghreifftiau o dri tîm cymunedol gan Gwawr Job, Arweinydd Tîm Ffisiotherapi, BIPBC, Conwy; Paula Curtis, Therapydd Galwedigaethol, Awdurdod Lleol Sir y Fflint, Un Pwynt Mynediad a Kathryn Whitfield a Rhona McCarthy, Awdurdod Lleol Sir Ddinbych o dîm cymunedol Anableddau Dysgu integredig. Mae’r cyflwyniadau ar gael i’w lawrlwytho isod.

Mae’r digwyddiad wedi cadarnhau ein hymrwymiad cydasiantaethol i ddefnyddio’r set ddata graidd a’r hyn sy’n bwysig a’r enghreifftiau arbennig o arferion da a rannwyd yn y digwyddiad. Ein gwaith fydd parhau i sefydlu’r arfer o ddefnyddio data craidd a’r hyn sy’n bwysig yn rhan o’n dull sefydliadol.

Lawrlwythiadau

Sut ydw i’n cael mynediad at Ofal a Chymorth yng Ngogledd Cymru? Newidiadau Pwysig

Cyflwyniad 1 Ysbyty Llym – defnydd o set data craidd a’r hyn sy’n bwysig

Cyflwyniad 2 Manteision mabwysiadu dull “yr hyn sy’n bwysig” fel ffisiotherapydd mewn sefyllfa gofal canolradd

Cyflwyniad 3 Un Pwynt Mynediad (SPOA): Sgwrs am yr hyn sy’n bwysig

Cyflwyniad 4 Tîm anabledd cymhleth “Beth sy’n Bwysig” Mewn Pwyntiau Siarad

 

Ffeiliwyd dan: Blog

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Reader Interactions

Gadael sylw Cancel reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae’r meysydd a nodwyd * yn ofynnol

Primary Sidebar

Chwilio

Negeseuon Diweddar

Gofalwyr – Rydym eisiau clywed gennych!

Cronfa Seibiant Byr Amser

Tai – Problem Pawb … neb yn gyfrifol

  • Fframwaith Iechyd, Lles a Gwytnwch Emosiynol
  • Camu i’r Gwaith
  • Ffocws ar ofalwyr ifanc

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

Co-production Network for Wales

Copyright © 2023 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital