• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Y bobl rydyn ni’n eu cefnogi >
      • Pobl gydag anableddau dysgu
      • Gofalwyr di-dâl
      • Pobl sy’n byw gyda dementia
      • Plant a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth
      • Pobl gydag anghenion emosiynol ac iechyd meddwl
    • Sut rydyn ni’n gweithio >
      • Comisiynu
      • Gweithlu
      • Diogelu
      • Fforwm gwerth cymdeithasol
      • Digidol, data a thechnoleg
      • Mwy na geiriau
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Plant a phobl ifanc / Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Plant

Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Plant

Sefydlwyd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Plant ym mis Mawrth 2022 i edrych yn benodol ar faterion sy’n effeithio ar blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Ngogledd Cymru

Rydym yn gyfrifol am amrywiaeth eang o faterion sy’n wynebu gwahanol grwpiau oedran, o fabanod i oedolion ifanc. Mae ein blaenoriaethau’n cynnwys iechyd meddwl plant, plant anabl, pobl ifanc sy’n derbyn gofal gan eu hawdurdod lleol ac atal trais yn erbyn plant. I fynd i’r afael â’r rhain gallwn dynnu ar amrywiaeth o brofiadau gan fod ein grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o ofal cymdeithasol plant, iechyd, addysg a’r heddlu.

Bob dau neu dri chyfarfod mae’r bwrdd yn cwrdd yn bersonol ar gyfer sesiwn ddatblygu, ac rydym yn rhannu’r hyn a drafodwyd gennym ar ein blog. Gallwch ddarllen am y cyfarfodydd diweddaraf drwy ddilyn y dolenni isod.

  • Mai 2024: Canolbwyntio ar blant a phobl ifanc: y blynyddoedd cynnar
  • Chwefror 2024: Canolbwyntio ar niwroddatblygu

Datganiad Cenhadaeth

Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Plant Gogledd Cymru

  • gwneud yr hyn sy’n bwysig i blant a’u teuluoedd
  • cydweithredu a gweithio gyda’n gilydd
  • dangos arweinyddiaeth.
  • galluogi newid mewn sefydliadau

Gwerthoedd ac egwyddorion arweiniol

Mae’n bwysig i’r grŵp fod y Bwrdd Partneriaeth Plant Rhanbarthol yn:

  • gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
  • yn cydweithio gan feithrin diwylliant cydweithredol
  • yn gynhwysol, gan ddod â phawb sy’n gweithio i gefnogi pobl ifanc at ei gilydd.
  • yn cyfathrebu’n glir ac yn agored.
  • yn sicrhau mai budd y plentyn sydd wrth wraidd yr hyn y mae’n ei wneud bob amser

Mae ein holl waith yn seiliedig ar hawliau plant fel y’u pennir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae’r hawliau hyn yn cynnwys yr hawl i addysg, iechyd, cyfleoedd chwarae a hamdden, cymryd rhan mewn penderfyniadau amdanyn nhw eu hunain a bod yn ddiogel.

Rydym yn defnyddio egwyddorion arweiniol fframwaith NYTH  ar gyfer gwella iechyd meddwl a lles.  Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod oedolion y mae’r plentyn yn ymddiried ynddynt, y rhai hynny sydd agosaf at y plentyn, yn cael mynediad rhwydd at yr arbenigedd a fydd yn eu cefnogi nhw i ‘ddal gafael’ ar blant lle bynnag bosib yn lle ‘atgyfeirio ymlaen’. A lle bo angen cefnogaeth fwy arbenigol, rydym eisiau sicrhau nad oes unrhyw ‘ddrws anghywir’. Bydd plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn cael eu cynnwys yn ein ffyrdd newydd o weithio a fydd yn seiliedig ar yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw, gyda’u lles yn cael ei gefnogi ar draws addysg a thrwy gymunedau diogel a chefnogol.

Y Drws Cywir

Y Drws Cywir yw ein cynllun ar gyfer gwireddu’r egwyddor o ‘ddim drws anghywir’ i blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Ngogledd Cymru. Lle bynnag yr ewch i chwilio am gefnogaeth –  yr ysgol, gwasanaeth cymunedol, gwasanaeth cymdeithasol neu wasanaeth iechyd, byddwch yn cael cymorth.

Tudalennau cysylltiedig

Plant a phobl ifanc

Primary Sidebar

Negeseuon Diweddar

Cynrychiolydd Gofalwyr BPRh

Arddangosfa ddigidol: yr hyn a ddysgwyd gennym

Arganddosfa Gofal Cymdeithasol Digidol Gogledd Cymru 2025

  • Cynllun Cymunedau sy’n Deall Dementia Gogledd Cymru
  • Llwybr Cymorth Cof Gogledd Cymru – pa gymorth sydd ar gael?
  • Gwobrau Cyfranogiad Cymdeithas Alzheimer – Llwybr Cymorth Cof Gogledd Cymru 2024

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni

Bluesky: @hcargc.bsky.social


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

Copyright © 2025 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital