Ydych chi yn gallu recriwtio a chadw staff gyda’r sgiliau iawn ar gyfer eich Busnes? Ydy chi eisiau bod yn rhan o’r broses o newid y tirwedd sgiliau yn rhanbarth Gogledd Cymru? Os felly, dyma gyfle i chi leisio eich barn trwy gwblhau’r arolwg yma.
Fel cyflogwr sydd wedi’i leoli yn ardal Gogledd Cymru, dyma eich cyfle chi fel busnes yn yr ardal i rannu eich barn gyda’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru am yr heriau, materion a chyfleoedd rydych chi a’ch busnes wedi ei brofi yn y maes sgiliau, hyfforddiant a datblygu’r gweithlu dros y 12 mis diwethaf, a beth yw eich anghenion sgiliau i’r dyfodol.
Mae’r Bartneriaeth Sgiliau Gogledd Cymru yn un o dair partneriaeth Sgiliau yng Nghymru sy’n gweithio gyda busnesau i ddeall eu gofynion o safbwynt sgiliau. Caiff y wybodaeth hon wedyn ei ddefnyddio i lywio ein Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth ar gyfer y rhanbarth a ddefnyddir gan Llywodraeth Cymru i lywio’r broses o ariannu addysg bellach a rhaglenni dysgu yn y gwaith.
Holiadur ar-lein byr yw’r arolwg yma, a dylai gymryd dim mwy na 10 munud i’w gwblhau. Bydd yr arolwg yma o gymorth i ni fel Partneriaeth i ddeall y sgiliau sydd eu hangen arnoch nawr, ac i’r dyfodol. Bydd yn galluogi’r Bartneriaeth Sgiliau i ddeall y tirwedd busnes ar draws y rhanbarth, ac i sicrhau bod ein blaenoriaethau yn ymateb i anghenion busnesau ar draws y sectorau.
Os ydych chi angen mwy o wybodaeth, cysylltwch gyda sianlloydroberts@gwynedd.llyw.cymru. Os ydych chi yn cael problemau yn cwblhau’r arolwg arlein, cysylltwch gyda edward4K@gllm.ac.uk neu ffonio 0292084 6735.
Bydd yr arolwg yn agored tan 24 Mai 2019.