Caiff y gwaith a wneir i wella iechyd a lles trigolion ei ddathlu mewn adroddiad blynyddol a gyhoeddir gan Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gogledd Cymru

Mae’r Bwrdd, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o gynghorau lleol, y sector iechyd, y trydydd sector a’r sectorau annibynnol wedi gweithio ar ystod eang o feysydd gwaith, gan gynnwys pobl hŷn ag anghenion cymhleth a chyflyrau hirdymor; pobl ag anableddau dysgu; gofalwyr, gwasanaethau cymorth i deuluoedd a phlant ag anghenion cymhleth.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Bwrdd hefyd wedi gweithio mewn partneriaeth i gyflawni’r strategaeth iechyd meddwl ranbarthol ac mae trefniadau wedi’u gwneud i rannu cyllidebau er mwyn symud ymlaen â meysydd gwaith allweddol.
Yn allweddol i’r holl waith hwn yw cynllunio gwasanaethau sy’n diwallu anghenion preswylwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Roberts, Cadeirydd y Bwrdd: “Mae’r adroddiad hwn yn adlewyrchu’r gwaith aruthrol sy’n cael ei wneud ar draws Gogledd Cymru i wella iechyd a lles ein holl drigolion. Ni allwn wneud y gwaith hwn ar ein pennau ein hunain ac rydym yn lwcus i gael ystod eang o sefydliadau sydd wedi ymrwymo i gydweithio, yn awr ac yn y dyfodol.
“Mae mwy i’w wneud ond rwy’n hyderus y gallwn adeiladu ar y sylfeini cryf sydd wedi’u gosod ac y gallwn ddarparu’r math cywir o arweiniad strategol lleol ar iechyd a gofal cymdeithasol.
“Fel Bwrdd rydym yn herio ein hunain yn barhaus ac yn cael ein herio gan ein cynrychiolwyr o’r trydydd sector, unigolion a gofalwyr i fod yn glir ac yn hyderus ein bod yn gwneud y peth iawn i’n poblogaeth, a chredwn y gallwn gyflawni hyn drwy gael yr atebolrwydd dros newid yn agosach at y bobl yr ydym yn eu gwasanaethu.