• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
    • Cymryd rhan
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
      • Anableddau dysgu
      • Iechyd meddwl
      • Plant a phobl ifanc
    • Gofalwyr
    • Dementia
    • Comisiynu
    • Gweithlu
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Blog / Angen miloedd yn fwy o weithwyr gofal yng Nghymru erbyn 2030

Angen miloedd yn fwy o weithwyr gofal yng Nghymru erbyn 2030

05/03/2019

Bydd angen miloedd yn fwy o bobl i weithio mewn rolau gofalu gydag oedolion a phlant yng Nghymru erbyn 2030 er mwyn bodloni’r galw cynyddol am wasanaethau gofal a darparu cymorth i gymunedau ledled y wlad.

I helpu i ddenu mwy o bobl i weithio mewn gofal, mae ymgyrch genedlaethol o’r enw Gofalwn wedi’i lansio heddiw.

Mae’n rhan o strategaeth hirdymor i ddatblygu’r gweithluoedd yn y sectorau gofal ac iechyd dros y ddegawd nesaf er mwyn cynnig gwasanaeth di-dor o ansawdd uchel i bobl Cymru.

Bydd yr ymgyrch yn tynnu sylw at yr amrywiaeth o gyfleoedd gyrfaol mewn gofal, o warchodwyr plant ac ymarferwyr meithrin i gydlynwyr gofal cartref a rheolwyr cartrefi gofal.

Wrth i fwy o bobl yng Nghymru fyw’n hirach, bydd gan fwy anghenion penodol a bydd angen cymorth arnynt yn eu cartrefi a’r tu allan iddynt. Mae rhagolygon yn nodi y bydd angen o gwmpas 20,000 yn fwy o weithwyr dros y 10 mlynedd nesaf i ateb galw cynyddol y boblogaeth.

Ar hyn o bryd, mae tua un o bob 17 oedolyn yng Nghymru yn gweithio mewn gofal cymdeithasol neu’r blynyddoedd cynnar a gofal plant (tua 113,000 o bobl), sy’n golygu bod y maes yn gyflogwr mwy na’r GIG. Ond mae’r maes gwaith hwn yn tyfu o hyd.

Nod yr ymgyrch Gofalwn yw tynnu sylw at yr amrywiaeth o rolau a chyfleoedd datblygu gyrfa sydd ar gael. Drwy ddefnyddio gweithwyr gofal go iawn, mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar yr heriau y maent yn eu hwynebu, ynghyd â’r hyn sy’n gwneud eu gwaith yn werth chweil.

Mae Aled Burkitt o Sir Fynwy yn gweithio fel gweithiwr gofal a chymorth i bobl sy’n byw gyda dementia. Meddai: “Ro’n i’n arfer gweithio oriau eithaf anghymdeithasol fel cogydd. Ond pan gafodd fy mab ei eni, roedd angen rhywbeth mwy hyblyg arna’ i.

“Roedd gan fy nhad-cu ddementia ac fe welais sut cafodd ei gefnogi gan ei ofalwyr, a’r berthynas oedd rhyngddyn nhw. Ro’n i’n meddwl y basen i’n dda am y gwaith a dwi nawr yn cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia yn y gymuned.

“Mae’n anodd weithiau. Mae’n ymwneud ag adeiladau perthnasau a gweithio allan sut y gallwch adeiladu ffydd. Ond mae cerdded i mewn i ymweliad cynta’r dydd a gweld gwên fawr ar wynebau’r bobl rwy’n eu cefnogi yn amhrisiadwy.”

Mae Amanda Calloway wedi bod yn gweithio fel gwarchodwr plant ers 12 mlynedd. Meddai: “Ro’n i’n arfer gweithio mewn bancio, ac roedd fy rôl yn achosi tipyn o straen, ond ar ôl cael fy mhlant penderfynais fod yn warchodwr plant dros dro.

“Ddeuddeg mlynedd yn ddiweddarach, dwi yma o hyd. Mae wedi fy ngalluogi i astudio ochr yn ochr â rhedeg fy musnes oherwydd dwi’n gweithio o gartref ac mae’n ddigon hyblyg i ffitio o gwmpas fy mywyd.

“Dwi’n mwynhau rhedeg a bod yn yr awyr agored, felly dwi’n mynd â’r plant i’r warchodfa natur, i’r goedwig neu i’r traeth gymaint â phosibl. Mae’n yrfa werth chweil, er ei bod yn waith caled hefyd. Mae’n wych cael y cyfle i siapio dyfodol bywydau plant.”

I gael rhagor o wybodaeth am y rolau sydd ar gael a chyflogwyr lleol yn y sectorau gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant, ewch i Gofalwn.cymru. Bydd y wefan yn cael ei ddiweddaru’n gyson gyda mwy o fanylion a gwybodaeth ddefnyddiol.

Ffeiliwyd dan: Blog

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Primary Sidebar

Chwilio

Negeseuon Diweddar

Gofalwyr ifanc sy’n gofalu am oedolion â phroblemau iechyd meddwl

Plant nad ydyn nhw’n mynd i’r ysgol

Cynhwysiant Digidol

  • YN EISIAU: CYNRYCHIOLYDD TRYDYDD SECTOR CENEDLAETHOL
  • Trigolion DINBYCH – rydym eich angen chi!
  • Ffocws ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

@CoproNetWales Member logo

Copyright © 2023 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital