Fel rhan o Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru, lluniodd Gwasanaeth Tystiolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar gais Tîm Iechyd Cyhoeddus Prifysgol Betsi Cadwaladr, fap o’r dystiolaeth sydd ar gael ar gyfer rhestr o wasanaethau ataliol a ddefnyddir yn aml ledled y rhanbarth.
Yr oedd rhai o’r canlyniadau’n peri syndod. Nid oedd gwerth o dystiolaeth, neu ddim tystiolaeth o gwbl, bod llawer o’r gweithgareddau y teimlid y dylent weithio wedi llwyddo i wneud hynny. I rai, y rheswm dros hyn oedd nad oes digon o dystiolaeth o safon ar gael, felly y mae’n bosibl y bydd angen eu gwerthuso’n fwy trylwyr.
Ceir isod grynodeb o’r hyn yr oedd tystiolaeth dda amdano, a’r hyn nad oedd llawer o dystiolaeth amdano – neu ddim tystiolaeth o gwbl. Ceir hefyd restr o bynciau y mae sefydliadau megis NICE wedi gwneud argymhellion manwl amdanynt.
Nod y crynodeb hwn yw amlygu’n gyflym y prif ganfyddiadau er mwyn annog pobl i ddarllen yr adroddiad llawn ac i ymchwilio ymhellach. Nid yw’n amcanu i roi canllaw pendant i’r ymyriadau y dylem eu darparu a’r rhai na ddylem eu darparu.
Os ydych yn sylwi ar rywbeth annisgwyl a allai effeithio ar eich gwaith, edrychwch ar y map tystiolaeth a’r ffynhonnell wreiddiol, lle ceir llawer mwy o wybodaeth ynglŷn â chyfyngiadau’r adolygiad, yr astudiaethau a’u cynlluniau. Nid oes llawer o dystiolaeth ar gael ar gyfer niweidiau a chanlyniadau anfwriadol yr ymyriadau hyn, ac y mae rhai o’r adroddiadau yn argymell y dylid gwneud mwy yn y maes hwn. Dylid hefyd ystyried y dystiolaeth ynghyd â’r cyd-destun yr ydych yn gweithio ynddo, a’r hyn sy’n bwysig i’r bobl sy’n defnyddio eich gwasanaethau.
Os ydych angen mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Hwb Cydlynu Ymchwil, Arloesi a Gwelliant.
Yr hyn sy’n gweithio (tystiolaeth dda)
- Tai yn Gyntaf, sy’n gwella sefydlogrwydd tai ac iechyd corfforol yn y byrdymor.
- Ymarfer corff yn lleihau’r canlyniadau a ddaw o syrthio.
- Ymyriadau eiriolaeth ar gyfer menywod sydd wedi eu cam-drin, sy’n ystyried yr hyn sy’n eu gwneud yn ddiamddiffyn ynghyd â’u croestoriadedd, a chyfnewidiadau’r penderfyniadau sy’n ymwneud â chamdriniaeth yng nghyd-destun bywydau menywod unigol. Dylai penderfyniadau ystyried y risgiau i ddiogelwch y menywod o ganlyniad i’r gamdriniaeth.
- Mae prosiectau a arweinir gan y gymuned, neu brosiectau cydweithio gyda’r gymuned, sy’n cynllunio, darparu a gwerthuso ymyriadau iechyd, yn gysylltiedig â chanlyniadau ymddygiadol mwy.
- Mae cefnogaeth bwydo ar y fron yn lleihau’r nifer o famau sy’n rhoi’r gorau i fwydo ar y fron cyn pedair i chwe wythnos.
Beth all weithio (ychydig o dystiolaeth)
Pobl hŷn
- Mae gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, sgiliau cyfathrebu a Mapio Gofal Dementia (DCM) (y cyfan gyda goruchwyliaeth), gweithgareddau therapi synhwyraidd, a therapïau cerddoriaeth sydd wedi eu strwythuro yn lleihau aflonyddwch ymhlith preswylwyr cartrefi gofal sy’n dioddef o ddementia.
- Gwasanaethau cyfeillgarwch ar gyfer pobl hŷn, pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl cyffredin, pobl sydd wedi cael strôc, plant a phobl ifanc sydd ag anhwylderau ar yr ymennydd sydd ddim yn rhai cynyddol.
- Gall Teleofal hybu diogelwch a diogeledd ar gyfer heneiddio yn y cartref, ond mae’n rhaid i systemau addasu i anghenion unigolion.
Plant a phobl ifanc
- Gall darparu brecwast am ddim wella ansawdd deietegol brecwast a lleihau’r nifer o blant sydd ddim yn bwyta brecwast, a chreu buddion economaidd hirdymor.
- Addysg o safon uchel yn y blynyddoedd cynnar yn cynyddu canlyniadau’n ymwneud â llythrennedd.
- Pan y’u darperir mewn ffordd ddwys, gall NDP-3 a ReST gael effaith ar wella cywirdeb geiriau ymhlith plant 4-12 mlwydd oed sydd ag Apracsia Lleferydd Plentyndod. Mesurir hyn drwy gywirdeb ynganu geiriau sydd wedi eu trin a geiriau sydd heb eu trin, cysondeb ynganu llafar a chywirdeb lleferydd cysylltiedig.
- Ymddengys fod ymyriadau hybu diogelwch gyda theuluoedd incwm isel sydd â phlant bach yn cael yr effaith fwyaf ymhlith aelwydydd sydd mewn mwyaf o risg.
- Y mae’n debygol bod ymyriadau seicogymdeithasol yn lleihau pa mor aml y mae rhieni’n defnyddio alcohol a chyffuriau. Y mae’n bosibl mai ymyriadau seicogymdeithasol integredig, sy’n cyfuno ymyriadau sgiliau rhianta gyda chydran defnyddio sylweddau, sy’n dangos yr addewid mwyaf. Mae’n bosibl nad yw ymyriadau’n ymwneud â phlant yn fuddiol, ond nid oes tystiolaeth o ansawdd.
- Camddefnyddio sylweddau ymhlith pobl ifanc yn eu glasoed: ymddengys fod cyf-weld ysgogiadol yn lleihau’r nifer o ddyddiau y camddefnyddir alcohol a sylweddau, ond nid canabis. Gall therapi sy’n canolbwyntio ar deuluoedd fod fwyaf effeithiol wrth leihau defnydd isel o alcohol.
- Ni chafodd Partneriaeth Nyrsys Teulu effaith ar ganlyniadau camdriniaeth na chanlyniadau mamol, ond y mae’n creu manteision o ran parodrwydd ar gyfer yr ysgol a chyrhaeddiad yng Nghyfnod Allweddol 1.
- Rhaglenni rhianta mewn grŵp er mwyn gwella addasiad cyffredinol yn emosiwn ac ymddygiad plant yn y byrdymor.
- Gall adborth fideo wella sensitifrwydd rhieni plant sydd mewn risg tuag at ganlyniadau ymlyniad gwael sy’n deillio o ystod o anawsterau, ac eithrio diogeledd ymlyniad, straen rhieni a gorbryder.
Cyflogaeth
- Cyflogaeth wedi ei gefnogi a chyflogaeth wedi ei gefnogi’n estynedig oedd y ffyrdd mwyaf effeithiol o gynorthwyo pobl sydd â salwch meddwl difrifol i gael swydd a’i chadw.
- Mae tystiolaeth yn dod i’r amlwg bod ymyriadau cyflogaeth o gymorth i wella canlyniadau cyflogaeth ar gyfer pobl awtistig.
Iechyd meddwl a lles
- Mae darparu ymyriadau hunan-reoli ochr yn ochr â gofal safonol yn gwella canlyniadau ar gyfer pobl sydd â salwch meddwl difrifol.
Gwella iechyd
- Bu ymyriadau ‘Health at Every Size’ (HAES®) yn gyfrifol am wella rhai canlyniadau cardiofasgwlaidd, defnydd ocsigen, gweithgarwch corfforol, ansawdd bywyd, straen ac iselder. Mae angen mwy o dystiolaeth ynglŷn â chanlyniadau eraill megis triglyseridau, lefelau glwcos ar stumog wag a phwysedd gwaed.
- Mae’n ymddangos fod llythyrau annog o gymorth i gynyddu’r nifer o bobl sy’n mynd am brofion sgrinio serfigol, ond nid oes digon o dystiolaeth ynglŷn ag ymyriadau eraill i gynyddu’r nifer.
- Gall dull Ysgolion Hybu Iechyd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) fod o gymorth i gynyddu gweithgarwch corfforol, cynyddu faint o ffrwythau a llysiau a fwyteir, gostwng lefelau ysmygu, a gostwng nifer yr adroddiadau o fwlio. Nid oes tystiolaeth o effeithiolrwydd ar fwyta braster, defnyddio alcohol a chyffuriau, iechyd meddwl, trais, a bwlio eraill. Nifer fach o astudiaethau a drafododd a allai’r gweithgareddau hybu iechyd, neu gasglu data’n ymwneud â hwy, fod wedi achosi niwed i’r myfyrwyr a gyfranogodd.
Teleiechyd
- Ymddengys fod ymgynghoriadau teleiechyd yn effeithiol wrth wella canlyniadau neu ddarparu gwasanaethau, heb fod gwahaniaeth yn y canlyniadau; fodd bynnag, mae’r dystiolaeth yn gryfach ar gyfer rhai cymwysiadau, ac yn llai cryf neu’n annigonol ar gyfer eraill.
Yr hyn efallai na fydd yn gweithio (ychydig neu ddim tystiolaeth)
Pobl hŷn
- Ystafelloedd synhwyraidd ar gyfer pobl â dementia.
- Therapi gan ddefnyddio anifeiliaid ar gyfer pobl â dementia.
- Defnyddio therapi dol ar gyfer pobl â dementia er mwyn rheoli aflonyddwch ac ymddygiad ymosodol (ond nid oes unrhyw sgil-effeithiau, felly argymhellir parhau i wneud hyn os yw’n rhoi cysur).
- Ymyriadau fideoalwad er mwyn lleihau unigrwydd ymhlith oedolion hŷn.
- Gall gweithgareddau lleihau straen drwy ymwybyddiaeth ofalgar fod o gymorth i leihau symptomau iselder a gorbryder ar gyfer gofalwyr teulu pobl â dementia – yn y byrdymor, o leiaf – ond mae ansawdd y dystiolaeth yn isel neu’n isel iawn.
- Ni chynyddwyd faint o amser yr arhosodd cyfranogwyr â dementia yn y gymuned o ganlyniad i becyn llawn o dechnoleg gynorthwyol a theleofal, ac ni leihawyd baich y rhai sy’n rhoi gofal, na’u hiselder neu orbryder – o’i gymharu â phecyn sylfaenol o dechnoleg gynorthwyol a theleofal.
- Cafodd atchwanegiadau fitamin D er mwyn lleihau codymau ganlyniadau cymysg. Yr oedd cysylltiad rhwng dos uchel â chyfraddau uwch o ganlyniadau’n ymwneud â syrthio, ond ni chynhwyswyd pobl heb ddigon o fitamin D yn yr adolygiad.
Plant a phobl ifanc
- Ni chanfuwyd unrhyw dreialon wedi eu gwneud ar hap i effeithiolrwydd ymyriadau therapi lleferydd ac iaith er mwyn gwella lleferydd plant sydd â dysarthria a gafwyd yn gynnar.
- Gall ymyriadau’n seiliedig ar leferydd a chyfathrebu amgen a chynyddol (ACC) wella cyfathrebu ar lafar a chyfathrebu di-eiriau ymhlith plant sydd ag anhwylderau yn y sbectrwm awtistig ac nad oes ganddynt lawer o eirfa, ond mae’r dystiolaeth gyffredinol o ansawdd isel iawn.
- Perthynas rhwng deiet, gweithgarwch corfforol a zBMI plant 2 i 4 mlwydd oed. Yr oedd plant â zBMI uwch yn fwy egnïol yn gorfforol. Cyfran isel o blant a gyrhaeddodd y safonau deietegol neu safonau gweithgarwch corfforol.
- Nid oes digon o dystiolaeth i ddod i’r casgliad y gall rhaglenni rhianta gofalgar wella lles rhieni a phlant.
- Mae ymyriadau cyffredinol mewn ysgolion yn y DU, sydd â’r nod o hybu lles emosiynol neu feddyliol, neu atal anawsterau iechyd meddwl, yn cael effeithiau prin iawn neu effeithiau bychain.
- Gall ymyriadau pontio ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal feithrin canlyniadau gwell o ran byw’n annibynnol pan fônt yn darparu cefnogaeth gydlynol hirdymor, cyson ac integredig, sydd wedi ei theilwra i anghenion unigolion, ond maent yn llai llwyddiannus wrth wella canlyniadau iechyd.
- Gall ymyriadau pontio rhwng gwasanaethau iechyd plant a gwasanaethau iechyd oedolion wella rhai canlyniadau, ond nid oes digon o dystiolaeth i fod yn sicr o hyn.
Iechyd meddwl a lles
- Dim tystiolaeth dda i awgrymu bod rhaglenni sgiliau byw yn effeithiol ar gyfer pobl sydd â salwch meddwl cronig.
- Ychydig o dystiolaeth o fuddion ymyriadau therapi seicogymdeithasol ar gyfer plant, pobl ifanc yn eu glasoed, ac oedolion sy’n hunan-niweidio, ac mae angen mwy o dreialon ar gyfer yr ymyriadau hyn ac ymyriadau eraill.
- Y mae cysylltiad rhwng gwirfoddoli a lles, ond mae’n anodd dweud a yw hyn o ganlyniad i wirfoddoli ynteu a yw gwell lles yn gwneud pobl yn fwy tebygol o wirfoddoli. Gall rhywfaint o wirfoddoli achosi gorbryder, straen neu flinder, ac mae bwlch yn y dystiolaeth ar gyfer yr effeithiau negyddol.
Gwella iechyd
- Ychydig o dystiolaeth i gefnogi defnyddio safleoedd rhwydweithio cymdeithasol i hybu’r defnydd o ddulliau atal cenhedlu ymhlith menywod sydd mewn oed atgenhedlu.
- Y mae’n debygol bod ymyriadau gweithgarwch corfforol mewn ysgolion yn gyfrifol am gynnydd bach iawn neu ddim cynnydd yn yr amser a gymerir i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol cymedrol i egnïol, a gall arwain at ychydig iawn neu ddim lleihad mewn ymddygiad llonydd (tystiolaeth o sicrwydd isel). Gall ymyriadau gweithgarwch corfforol mewn ysgolion wella ffitrwydd corfforol a nodwyd fel y defnydd mwyaf posibl o ocsigen (tystiolaeth o sicrwydd isel). Gall ymyriadau gweithgarwch corfforol mewn ysgolion achosi lleihad bach iawn mewn sgoriau zBMI (tystiolaeth o sicrwydd isel), ac efallai na chaiff effaith ar BMI a fynegir fel kg/m² (tystiolaeth o sicrwydd isel).
- Yr oedd y cyrsiau sgiliau coginio’n atyniadol ac yn ddifyr i’r rheiny a gyfranogodd, ond nid oes tystiolaeth eu bod yn peri i fwy o deuluoedd fwyta deiet cytbwys ac iach yn yr hirdymor.
- Nid oes llawer o dystiolaeth o fuddion meintiol cadarnhaol na negyddol o ran iechyd a lles o ganlyniad i gyfranogi mewn gweithgareddau gwelliant a chadwraeth amgylcheddol, ond dywedodd y cyfranogwyr eu bod yn fuddiol.
Argymhellion
Dyma’r pynciau a restrir yn y map tystiolaeth lle mae argymhellion ar gael ynglŷn â’r ffordd orau o ddarparu gwasanaethau.
- Eiriolaeth: disgwylir y’i cyhoeddir 26 Gorffennaf 2022 (NICE)
- Cefnogi rhentwyr sydd ar incwm isel ar ôl y pandemig (Sefydliad Joseph Rowntree)
- Cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy (Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru)
- Cefnogi annibyniaeth, iechyd a lles pobl hŷn (NICE)
- Dulliau canol oes o atal dechreuad dementia, anabledd a llesgedd ymhlith pobl hŷn (NICE)
- Cael diagnosis o ddementia a’i reoli, ac ymyriadau i hybu gwybyddiaeth, annibyniaeth a lles (NICE)
- Atal, ymyrraeth a gofal dementia (Comisiwn Lancet)
- Deall unigrwydd ymhlith pobl hŷn (Age UK)
- Ymgysylltu â’r gymuned: gwella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau (NICE)
- Gwersi a ddysgwyd gan wasanaethau cyfeillgarwch yng nghyfnod Covid-19 (The Mercers’ Company ac Independent Age)
- Cefnogi gofalwyr sy’n oedolion (NICE)
- Beth sy’n gweithio i wella cyfranogiad mewn gwaith da (Iechyd Cyhoeddus Cymru)
- Crynodeb mapio systematig o ymyriadau a all fod o gymorth i bobl gael swydd ac aros mewn swydd (Iechyd Cyhoeddus Cymru)
- Beth sy’n gweithio wrth gefnogi pobl ifanc 15 i 24 mlwydd oed rhag dod yn bobl ifanc sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) (Y Sefydliad Dysgu a Gwaith)
- Gosod cyfarpar diogelwch yn y cartref er mwyn lleihau’r risg o anafiadau anfwriadol ymhlith plant a phobl ifanc dan 15 mlwydd oed (NICE)
- Cynllun Atal Codymau (Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol a NICE)
- Ymyriadau a gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu (NICE)
- Ysmygu: lleihau niwed (NICE)
- Ysmygu: rhoi’r gorau yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl geni (NICE)
- Atal ysmygu mewn ysgolion (NICE)
- Y wybodaeth ddiweddaraf am atal ysmygu ymhlith plant a phobl ifanc (NICE)
- Ymyriadau ysmygu yn y gweithle (NICE)
- Atal magu pwysau gormodol (NICE)
- Rheoli pwysau cyn beichiogrwydd, yn ystod beichiogrwydd, ac wedyn (NICE)
- Gwasanaethau ffordd o fyw ar gyfer rheoli pwysau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd dros eu pwysau neu’n ordew (NICE)
- Gwasanaethau ffordd o fyw ar gyfer rheoli pwysau ar gyfer oedolion sydd dros eu pwysau neu’n ordew (NICE)
- Gordewdra: gweithio gyda chymunedau lleol (NICE)
- Gweithgarwch corfforol: cynlluniau atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff (NICE)
- Gweithgarwch corfforol ar gyfer plant a phobl ifanc (NICE)
- Gweithgarwch corfforol: cyngor byr ar gyfer oedolion mewn gofal sylfaenol (NICE)
- Gweithgarwch corfforol: cerdded a beicio (NICE)
- Gweithgarwch corfforol a’r amgylchedd (NICE)
- Gweithgarwch corfforol yn y gweithle (NICE)
- Lles meddyliol pobl dros 65 mlwydd oed: ymyriadau therapi galwedigaethol a gweithgarwch corfforol (NICE)
- Atal camddefnyddio cyffuriau: ymyriadau wedi eu targedu (NICE)
- Ymyriadau’n ymwneud ag alcohol mewn addysg uwchradd ac addysg bellach (NICE)
- Atal anhwylderau defnyddio alcohol (NICE)
- Heintiau a drosglwyddir yn rhywiol ac atal beichiogi ymhlith pobl ifanc dan 18 mlwydd oed (NICE)
- Gwasanaethau dulliau atal cenhedlu ar gyfer pobl ifanc dan 25 mlwydd oed (NICE)
- Heintiau a drosglwyddir yn rhywiol: cynlluniau dosbarthu condomau (NICE)
- Pontio rhwng gwasanaethau plant a gwasanaethau oedolion ar gyfer pobl ifanc sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol (NICE)
- Ymyriadau addysgol ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal (CASCADE)
- Trais a cham-drin domestig: gwaith amlasiantaeth (NICE)
- Dull amlasiantaeth ar gyfer y system gyfan i atal trais difrifol (Iechyd Cyhoeddus Lloegr)
- Lles cymdeithasol ac emosiynol: y blynyddoedd cynnar (NICE)
- Lles cymdeithasol ac emosiynol: addysg gynradd (NICE)
- Lles cymdeithasol ac emosiynol: addysg uwchradd (NICE)
- Pobl hŷn: annibyniaeth a lles meddyliol (NICE)
- Hunan-niweidio ymhlith plant dros 8 mlwydd oed (NICE)
- Pobl hŷn: annibyniaeth a lles meddyliol (NICE)