Os nad ydych wedi clywed am y rhaglen hon, mae’n gydweithrediad cyffrous rhwng Iechyd a Gofal Cymdeithasol lle mae pobl sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa mewn Gofal yn ymgymryd ag anwythiad cynhwysfawr a ddarperir gan y GIG i gynnwys modiwlau e-ddysgu gorfodol, pasbortau trin â llaw a sgiliau craidd. Gwneir gwiriadau ar eu hawl i weithio, DBS, Asesiadau Risg Covid ac asesiadau Iechyd Galwedigaethol, gan sicrhau bod y cyfranogwyr yn “barod am waith”.
Ar ddiwedd yr hyfforddiant, bydd y cyfranogwyr yn treulio amser ar leolaid er mwyn cael profiad ymarferol o weithio mewn lleolaid iechyd neu ofal cymdeithasol, yn ddibynnol ar ddewis yr unigolyn. Gofynnir am isafswm o 16 awr yr wythnos, am 6 wythnos ar leoliad gwaith.
Ar ôl i gyfranogwyr orffen eu lleoliad yn llwyddiannus, y gobaith yw y byddant yn cael cyfle i sicrhau cyflogaeth yn eu lleoliad, os oes swyddi gwag. Bydd pob cyfranogwr yn gallu defnyddio eu sgiliau/cymwysterau i wneud cais am gyflogaeth neu fel arall gallent fod yn gymwys i ymuno â Recriwtio Banc y GIG.
Mae Rebecca wedi ymuno â’r tîm, fel Mentor Cyflogaeth Cam i’r Gwaith. Mae ei rôl yn cynnwys cefnogi pobl i gwblhau’r Rhaglen Cam i Waith mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Os yw’r rhaglen hon o ddiddordeb i chi, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau neu gwestiynau yna cysylltwch â Rebecca ar 01824 712 437 neu anfonwch e-bost ati ar Szekely.rebecca@denbighshire.gov.uk