Rhwydwaith Dementia Gogledd Cymru
Sefydlwyd Rhwydwaith Dementia Gogledd Cymru gyda chefnogaeth gan Gyfrif Cyflymu Effaith ESRC Prifysgol Bangor yn 2016. Nod y Rhwydwaith yw rhannu arfer gorau, gwella cydweithredu, a chynyddu effaith ymchwil dementia ar ymarfer ar draws Gogledd Cymru.
Daeth arbenigwyr mewn dementia ynghyd – gan gynnwys pobl yr effeithiwyd arnynt yn bersonol â dementia ac ystod o bobl sy’n gweithio i gefnogi’r rhai sydd wedi’u diagnosio â dementia i fyw’n dda â dementia yng Ngogledd Cymru. Profodd i fod yn llwyfan ysgogol a defnyddiol ar gyfer rhannu gwybodaeth a gweithio gydag eraill sy’n angerddol am wneud cyfraniad cadarnhaol.
Uchafbwyntiau a chynlluniau adeiladol dementia Prifysgol Bangor
Ar hyn o bryd mae gwerthusiad yn cael ei gynnal o gefnogaeth newydd gan Cruse ar gyfer pobl sydd wedi cael diagnosis o ddementia neu sy’n cynnig cefnogaeth bersonol iddynt.
Mae dau lawlyfr wedi’u rhyddhau eleni sy’n ganlyniad llafur pobl â dementia yn rhannu cyngor ar sut i gynyddu gwytnwch wrth fyw gyda’r cyflwr. Bellach mae grwpiau yn yr Alban ar y cyd â ni.
https://www.dementiavoices.org.uk/deep-resources/resources-by-deep-groups/
Mae Prifysgol Bangor wedi gweithio gyda Merched y Wawr i gyfieithu a chyhoeddi llawlyfr sy’n sôn am heriau i’r synhwyrau mewn Dementia.
Fe gafodd aelodau pwyllgor llywio, sy’n cynnwys pobl sy’n byw gyda dementia y cyfle i gyflwyno sesiwn ymwybyddiaeth ‘Ffrindiau Dementia’ i Weithrediaeth y Brifysgol ym mis Chwefror.
http://dsdc.bangor.ac.uk/dementia-friendly-university.php.en
Rydym hefyd wedi cael ein cydnabod a’n rhoi ar restr fer Gwobrau Amrywiol Dementia Cyfeillgar 2021 (Cymru) yng nghynhadledd y Gymdeithas.