• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
    • Cymryd rhan
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
      • Anableddau dysgu
      • Iechyd meddwl
      • Plant a phobl ifanc
    • Gofalwyr
    • Dementia
    • Comisiynu
    • Gweithlu
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Blog / Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc Gogledd Cymru

Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc Gogledd Cymru

10/06/2021

Her / Problem

Mae nifer y gofalwyr ifanc yn y Deyrnas Gyfunol yn bedair gwaith mwy na’r hyn a gydnabyddir yn swyddogol (BBC, 2010). Ymhob cymuned mae yno arwyr ifanc nad ydynt yn cael y clod haeddiannol.    Mae pob gofalwr ifanc yn wahanol, ond dyma ychydig o enghreifftiau o’r pethau y maen nhw’n gorfod eu gwneud bob dydd:

• Siarad efo rhiant / brawd neu chwaer sydd wedi cynhyrfu a’u helpu i gyfathrebu

• Helpu rhiant / brawd neu chwaer i ddod allan o’r gwely a gwisgo amdanynt

• Nôl presgripsiynau a rhoi moddion

  • Rheoli cyllideb y teulu

• Coginio, gwaith tŷ a siopa.

Ond yn aml iawn yr her fwyaf ydi poeni am y rhiant / brawd neu chwaer sydd yn eu gofal, a phobl eraill ddim yn deall. Coeliwch neu beidio gall gofalwyr ifanc ffynnu gyda chydnabyddiaeth a chefnogaeth. Er eu bod wedi hen arfer â bod yn gyfrifol a chyflawni pethau, yn anffodus mae gormod ohonynt yn methu â chyflawni eu potensial ac maen nhw’n gallu teimlo’n unig iawn.

Ymyrraeth

Roedd gofalwyr ifanc wedi gofyn am gerdyn adnabod fel bod athrawon, gweithwyr iechyd proffesiynol a siopwyr yn gwybod fod ganddyn nhw gyfrifoldebau pwysig.

Mewn ymateb i’r cais mynegodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, ei hymrwymiad i’r fenter hon i ddosbarthu cerdyn adnabod cenedlaethol i ofalwyr ifanc yn dilyn Ymchwiliad Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 a’i heffaith ar ofalwyr, yn ogystal â mynd i’r afael â’r tair blaenoriaeth genedlaethol ar gyfer gofalwyr yng Nghymru.

Yma yng ngogledd Cymru ffurfiwyd partneriaeth ranbarthol i ddatblygu a lansio’r cerdyn adnabod, gyda’r nod o fedru cynnig mwy i ofalwyr ifanc, rhoi gwell cydnabyddiaeth iddynt a’u galluogi i ddefnyddio’r cerdyn ledled y chwe sir.  Daeth yr awdurdodau lleol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, y darparwyr Gweithredu dros Blant, Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd-ddwyrain Cymru a Credu/Gofalwyr Ifanc WCD at ei gilydd i weithio â chriw o ofalwyr ifanc wrth gyflwyno’r cynllun cenedlaethol yn lleol.

Lansiwyd Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc Gogledd Cymru yn swyddogol ar 16 Mawrth 2021, ar Ddiwrnod Gweithredu ar gyfer Gofalwyr Ifanc.  Yn bresennol yn y lansiad roedd gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol, darparwyr a gofalwyr ifanc, yn ogystal â Chlwb Pêl-droed Wrecsam a fu’n ddigon caredig i noddi’r digwyddiad a chodi ymwybyddiaeth o’r cerdyn adnabod. Ymrwymodd y clwb hefyd i godi arian ar gyfer gofalwyr ifanc gydol y flwyddyn.

Canlyniad

Datblygwyd Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc Gogledd Cymru er mwyn:

  • Adnabod gofalwyr ifanc – plentyn neu unigolyn ifanc deunaw oed neu iau sy’n byw yng Nghymru
  • Cydnabod mor bwysig yw eu rôl a’r effaith y gall ei gael ar eu bywydau a’u llesiant
  • Codi ymwybyddiaeth o ofalwyr ifanc yn eu cymunedau lleol, ymysg eu cyfoedion ac ymhlith y gweithwyr proffesiynol y gallent ddod mewn cysylltiad â hwy, fel meddygon teulu, Nyrsys Ardal, fferyllfeydd, ysgolion, sefydliadau addysg bellach ac yn y blaen
  • Helpu gofalwyr ifanc i gael y gefnogaeth iawn ar yr adeg iawn, gan gynnwys eu cyfeirio at wasanaethau cynnal.

Bydd y cerdyn adnabod yn ffordd syml a rhwydd o roi gwybod i athrawon, fferyllwyr a meddygon teulu, staff mewn siopau a gwasanaethau cymunedol fel canolfannau hamdden a chludiant cyhoeddus eu bod yn gofalu am rywun.  Bydd hefyd yn eu helpu i arfer eu hawliau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, gan gynnwys yr hawl i gael asesiad o anghenion fel gofalwyr.

Gall gofalwyr ifanc ddewis cael y cerdyn ar sawl gwahanol ffurf, gan gynnwys un plastig maint cerdyn credyd, strapen i’w rhoi o amgylch eu harddwrn, a fersiwn digidol ar ffurf ap ffôn symudol.  Bydd y gofalwyr yn rhydd i ddewis beth bynnag sydd fwyaf hwylus iddynt ar sail eu hoedran ac ati.

Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc Gogledd Cymru

Os ydych chi’n adnabod rhywun a fyddai’n elwa ar gael Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc, neu sydd eisiau siarad â rhywun am eu swyddogaeth ofalu, cysylltwch â:

Gweithredu dros Blant (Ynys Môn a Gwynedd) –  (01248) 364614 /
gwyneddyoungcarers@actionforchildren.org.uk
ynysmonyoungcarers@actionforchildren.org.uk

Credu (Conwy, Sir Ddinbych a Wrecsam) – (01597) 823800 / info@wcdyc.org.uk

Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd-ddwyrain Cymru (Sir y Fflint) – (01352) 752525 / nyc@newcis.org.uk

Ffeiliwyd dan: Blog, Casgliad o syniadau da, CGI Carers, CSD Plant a phobl ifanc, Casgliad o syniadau da, CSD Plant a phobl ifanc Tagged With: dull adnabod, gofal, gofalu, Gofalwr, Gofalwyr Ifanc, hunaniaeth, llythyr cyflwyno, person ifanc sy’n rhoi gofal, pobl ifanc sy’n rhoi gofal, tyst

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Primary Sidebar

Chwilio

Negeseuon Diweddar

Gofalwyr ifanc sy’n gofalu am oedolion â phroblemau iechyd meddwl

Plant nad ydyn nhw’n mynd i’r ysgol

Cynhwysiant Digidol

  • YN EISIAU: CYNRYCHIOLYDD TRYDYDD SECTOR CENEDLAETHOL
  • Trigolion DINBYCH – rydym eich angen chi!
  • Ffocws ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

@CoproNetWales Member logo

Copyright © 2023 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital