• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
    • Cymryd rhan
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
      • Anableddau dysgu
      • Iechyd meddwl
      • Plant a phobl ifanc
    • Gofalwyr
    • Dementia
    • Comisiynu
    • Gweithlu
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Blog / CRONFA HER ECONOMI SYLFAEN

CRONFA HER ECONOMI SYLFAEN

18/06/2020

Ein prosiect
Datrys heriau drwy recriwtio, cadw a hyfforddi gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol Gogledd Cymru:
• Gall prinder gweithwyr â chymwysterau addas olygu bod yna heriau o ran sicrhau bod pobl yn derbyn y gofal a’r cymorth sydd eu hangen ac sydd eu heisiau arnynt yn y lle iawn ac ar yr adeg iawn.
• Mae’n rhaid i rai Darparwyr Gofal ddefnyddio staff dros dro o asiantaethau staffio i lenwi’r bylchau, ond gall hyn fod yn ddrud ac efallai na fydd yn darparu’r perthnasoedd cyson y mae pobl yn eu gwerthfawrogi.
• Gall dinasyddion sy’n ystyried cyflogi asiantaethau neu gynorthwywyr personol gyda’u harian eu hunain neu sy’n defnyddio taliadau uniongyrchol, ei chael hi’n anodd dod o hyd i’r gweithwyr cywir a’u cadw.

Bydd ein prosiect yn ymchwilio i’r heriau hyn ac yn ystyried atebion amgen iddynt. Mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru (Cronfa Her yr Economi Sylfaenol) a bydd yn rhedeg tan fis Mawrth 2021.

Ein dull o weithio
Rydym am weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol (dinasyddion sydd angen gofal a chymorth, a’u teuluoedd; gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, cyflogwyr a chomisiynwyr) i
 Adeiladu achos dros newid y ffordd y mae gweithwyr yn cael eu cyflogi a
 Datblygu ateb arfaethedig, a allai olygu creu sefydliad newydd.
Mae’r ffocws ar sut y dylid denu staff i’r proffesiwn, eu hyfforddi, eu cyflogi, eu cyflenwi a’u cadw.
Byddwn yn sefydlu grŵp cyfeirio o bobl o gefndiroedd amrywiol, wedi’u tynnu o’r grwpiau rhanddeiliaid hyn ac yn cynrychioli gwahanol siroedd yn ein rhanbarth.

Bydd y grŵp yn ‘cwrdd’ ar-lein / trwy gynhadledd ffôn hyd y gellir rhagweld a bydd yn arwain ac yn cefnogi’r prosiect trwy:
 Ddiffinio’r heriau a’r hyn sy’n gweithio’n dda o safbwyntiau gwahanol bobl;
 Ystyried y manteision o gael opsiynau eraill sydd wedi’u hanelu at ddatrys yr heriau

Deall achos ac effaith prinder staff
Byddwn yn gweithio gyda’r grŵp cyfeirio a’n comisiynwyr i gynllunio a ddylid casglu’r wybodaeth i ateb y cwestiynau a ganlyn a sut y medrwn fynd ati i wneud hynny:
• Beth sy’n gweithio’n dda o ran recriwtio ar gyfer rolau parhaol a dros dro yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol?
• Sut mae cyflogwyr (yn cynnwys y rheini sy’n Derbyn Taliadau Uniongyrchol) yn rheoli prinder staff?
• Faint mae cyflogwyr yn ei wario ar recriwtio, mentrau cadw a staffio dros dro bob blwyddyn?
• A oes gwahanol heriau o ran staffio mewn gwahanol wasanaethau neu ardaloedd yng Ngogledd Cymru?
• A yw rhai rolau’n anoddach o ran recriwtio a chadw staff nag eraill?
Noder: mae ein ffocws ar weithwyr sy’n darparu gofal a chymorth i oedolion a/neu blant ag anableddau (ond nid y rheini sydd yn gweithio mewn gwasanaethau ehangach i blant a theuluoedd).

Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i lunio achos busnes ar gyfer dull gwahanol i fynd i’r afael â’r heriau hyn yng ngogledd Cymru.

Cynnig dull gwahanol
Rydym yn gwybod bod llawer o arfer da eisoes yn mynd rhagddo ar draws y rhanbarth ac rydym yn awyddus i ddysgu o hynny ac adeiladu arno yn ogystal ag edrych ar fodelau o fannau eraill, yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
• Cwmnïau cydweithredol (a allai gynnwys gweithwyr, dinasyddion a / neu gyflogwyr fel aelodau) – neu sefydliad rhanbarthol i gefnogi cwmnïau cydweithredol lleol
• Modelau asiantaethau staffio/banc staffio hyd braich/ di-elw
• Modelau eraill, e.e. mecanweithiau i gronni taliadau uniongyrchol
Byddwn yn nodi, yn gwerthuso ac yn ymgysylltu’n eang ynghylch yr opsiynau hyn. Yna byddwn yn drafftio model busnes, a fydd yn profi hyfywedd masnachol yr opsiwn a ffafrir, ac yn amlinellu’r weledigaeth, strwythur, rheolaeth a’r cynllun strategol a argymhellir ar ei gyfer.

Beth am Coronafirws?
Cytunwyd ar y prosiect cyn i’r argyfwng Coronafirws ddod yn fater sylweddol yn y DU. Mae’r argyfwng yn creu heriau o ran cyflawni’r prosiect hwn: mae llawer o bobl yn brysur, yn sâl neu dan straen, ac ni allwn gwrdd wyneb yn wyneb. Serch hynny, mae’r cyfnod clo hefyd yn creu cyfleoedd i gysylltu mewn ffyrdd newydd ac mae’r pwysau presennol yn hyrwyddo meddwl ac arloesi mewn modd beiddgar, ac rydym yn awyddus i adeiladu ar hyn. Mae Covid-19 wedi dangos faint rydyn ni i gyd yn dibynnu ar y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, sy’n cynyddu anghenraid y prosiect hwn.

Os hoffech wybod mwy am y prosiect neu os hoffech gymryd rhan, a fyddech cystal â chysylltu â:

Rhian: rhian@practicesolutions-ltd.co.uk

neu Imogen: imogen@imogenblood.co.uk

Ffeiliwyd dan: Blog

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Primary Sidebar

Chwilio

Negeseuon Diweddar

YN EISIAU: CYNRYCHIOLYDD TRYDYDD SECTOR CENEDLAETHOL

Cynhwysiant Digidol

Trigolion DINBYCH – rydym eich angen chi!

  • Ffocws ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches
  • Rhagflas i Ofal
  • Gofalwyr – Rydym eisiau clywed gennych!

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

@CoproNetWales Member logo

Copyright © 2023 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital