Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol (Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig)
Mae canllawiau comisiynu cenedlaethol ar gael ar wefan Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol.
Byd Newydd Cyfan — Ariannu a Chomisiynu mewn cymhlethdod
Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus
Cynhyrchodd Mantell Gwynedd a Gwerth Cymdeithasol Cymru adnodd, Sut i Ddatgloi Potensial Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Cafodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) ei ariannu trwy Gronfa Cyflawni’r Agenda Drawsnewid i ymchwilio i gyfleoedd a rhwystrau i Fforymau Gwerth Cymdeithasol yng Nghymru: cyhoeddwyd ei adroddiad terfynol yn Ebrill 2018.
Mae astudiaethau achos ar gael sydd yn dilyn y daith tuag at datblygu rhai o’r modelau.
Mae CGGC wedi cynhyrchu polisi Gwerth Cymdeithasol ar gyfer cyrff elusennol. Mae CGGC yn bartner ‘Inspiring Impact’ yng Nghymru. Mae ‘Inspiring Impact’ yn raglen a redir ledled y DU gan NPC, ac mae’n cael ei hariannu gan y Loteri Fawr gyda’r nod o helpu sefydliadau i wella eu dulliau monitro, gwerthuso a datblygu tystiolaeth. Maent yn cynnig cyfoeth o adnoddau ac offer defnyddiol, gan gynnwys Measuring Up! sef offeryn asesu ar-lein sy’n eich helpu i wirio pa mor llwyddiannus yr ydych yn mesur eich effaith.
Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru (RhCC)
Mae Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru (RhCC) yn HyrwyddwrInspiring Impact.
Efallai bod gan RhCC adnoddau ariannol i gynorthwyo i ddatblygu fforymau lleol ac efallai y bydd yn gallu cynorthwyo i ddangos tystiolaeth o arferion da.
Anogir arweinyddion llywodraethau lleol i ymaelodi â Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru er mwyn cael mynediad at ffurfiant dysgu ac adnoddau a chefnogaeth.
Canolfan Cydweithredol Cymru
Mae Canolfan Cydweithredol Cymru wedi datblygu canllaw arferion da i Fforymau Gwerth Cymdeithasol.
Mae gan gwefan Busnes Cymdeithasol Cymru llawer o wybodaeth i’r rhai sydd yn dechrau neu gyda busnes cymdeithasol yn barod.
Gofal Cymdeithasol Cymru
Mewn partneriaeth ag Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru cynhaliodd Gofal Cymdeithasol Cymru gweithdy “small is beautiful and wise” yn Nhreffynnon ar 26 Medi 2018 er mwyn nodi cefnogaeth / datrysiadau ar gyfer sefydliadau cymunedol bach sy’n cystadlu yn erbyn sefydliadau mawr o’r trydydd sector sydd â mwy o adnoddau i ymateb i dendrau a dulliau monitro a mesur perfformiad metrigol.
Sut ydym yn adnabod cydweithfeydd, sefydliadau a arweinir gan ddefnyddwyr, mentrau cymdeithasol a sefydliadau’r trydydd sector mewn ardal leol?
Dewis Cymru yw’r lle ar gyfer gwybodaeth am les yng Nghymru sydd hefyd yn cynnwys asiantaethau cymunedol. Mae gan Social Enterprise UK grŵp aelodaeth i gynorthwyo yn nhwf y rhwydwaith menter gymdeithasol
What Works Wellbeing
Mae’r ganolfan hon yn rhwydwaith o ymchwilwyr, melinau trafod, busnesau, adrannau’r llywodraeth a sefydliadau dielw sy’n darparu tystiolaeth, arweiniad a phapurau trafodaeth ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys mesur lles cymunedol. Mae ganddynt amrywiaeth o dystiolaeth, adnoddau a blogiau, gan gynnwys un ar ddefnyddio’r seren ganlyniadau, a ddatblygwyd gan Triangle (sefydliad menter gymdeithasol).
Mantell Gwynedd
Mae Mantell Gwynedd (CGS) yn arwain prosiect Gwerth Cymdeithasol Cymru o’r enw ‘Mesur a Rheoli’ch Gwerth Cymdeithasol’ mewn partneriaeth â chwech CGS ledled gogledd Cymru. Cysylltiadau: Eleri Lloyd ac Adam Richards.