Mae awdiolegwyr wedi gwybod ers blynyddoedd bod colli clyw a dementia yn aml yn digwydd gyda’i gilydd ac yn effeithio ar ei gilydd. Mae tystiolaeth yn dangos inni y gall colli clyw heb ei ddiagnosio a heb ei reoli ddyblu, treblu, a hyd yn oed chwintio’r risg o ddatblygu dementia yn dibynnu ar ddifrifoldeb colli clyw.
Cafwyd ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i fod yn genedl sy’n gyfeillgar i ddementia, cynnal hawliau pobl â dementia a diwallu anghenion amrywiol fel rhai pobl Fyddar a phobl â cholled clyw.
Byddem yn ddiolchgar tu hwnt os fuasech mor garedig a rhannu’r holidaur isod â’ch cydweithwyr, timau, drwy eich safle wê; Intranet; cyfryngau cymdeithasol, neu unrhyw sefydliadau ac unrhyw unigolyn sydd â diddordeb.
I gwblhau’r holiadur, cliciwch YMA
Gyda diolch am eich cyd-weithrediad a gyda’n gilydd gallwn sicrhau y bydd Cymru’n genedl dementia gyfeillgar.
