Roedd Mrs A wedi bod yn ein cartref gofal ers cryn amser, mae ganddi ddiagnosis o ddementia ac ar brydiau yn ceisio mynd i mewn i ystafelloedd pobl eraill. Mae Mrs A yn effro y rhan fwyaf o’r nos a bydd yn gweiddi allan ac yn rhygnu ei thraed am sylw staff.
Daeth Mrs T i aros gyda ni i gael seibiant ac adferiad yn dilyn arhosiad yn yr ysbyty ac roedd ei hystafell gyferbyn un Mrs T.
Yn gynnar yn ystod ei harhosiad ceisiodd Mrs A fynd i mewn i ystafell Mrs T yn oriau mân y bore. Yn dilyn y profiad hwn, mynegodd Mrs T nad oedd hi’n hoffi Mrs A ac y byddai’n aml yn gadael yr ystafell pe bai Mrs A yn dod i mewn. Mynegodd Mrs T y dylid cadw pobl fel Mrs A ar wahân i weddill y cartref.
Roedd Mrs T yn amlwg yn wyliadwrus ac ar ei hymyl pan oedd Mrs A yn bresennol. Teimlai fod Mrs A yn ‘anodd’ ac yn ‘anghwrtais’ a bod Mrs A yn dewis bod i fyny yn hwyr y nos a’i bod yn mynd i mewn i ystafelloedd pobl eraill yn bwrpasol.
Yn ystod ei harhosiad yn y cartref, dechreuodd staff gael deialog gefnogol gyda Mrs T ynglŷn â hyn i geisio deall pam ei bod yn teimlo fel hyn a beth y gallem ei wneud i wneud iddi deimlo’n ddiogel ac yn gyffyrddus. Dywedodd wrth staff nad oedd hi wedi cael unrhyw brofiad o fod o gwmpas pobl â dementia.
Wedi llawer o sgyrsiau gyda staff, roedd Mrs T yn gallu dod i ddeall nad oedd Mrs A bob amser yn gallu rheoli’r ymddygiadau hyn ac yn eithaf aml roedd Mrs A yn bryderus ac yn ddryslyd ei hun, a dyna pam y byddai’n mynd i chwilio am help.
Wrth i Mrs T ddod i ddiwedd ei hamser gyda ni, diolchodd i ni am y gefnogaeth hon a dweud ei bod wedi dysgu llawer am ddementia a sut y gallai effeithio ar bobl, roedd hi’n teimlo y byddai’n llawer mwy o ddealltwriaeth ac yn amyneddgar o ganlyniad. Cafodd Mrs T wybodaeth am ddod yn ffrind dementia yn ei chymuned.
