Nod y digwyddiad heddiw yw helpu ysgrifennu strategaeth Ddementia ar gyfer Gogledd Cymru. Mae’r strategaeth yn cael ei hysgrifennu gan chwe chyngor a’r bwrdd iechyd yng Ngogledd Cymru mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill a phobl sy’n cael eu heffeithio gan ddementia.
Dechreuodd y gwaith yn gynharach eleni. Mae hyn wedi cynnwys edrych ar ddata a gwaith ymchwil ynghylch beth sydd ei angen ar bobl, ymgynghoriad i ddatgelu beth mae pobl yn ei feddwl sy’n gweithio’n dda ar hyn o bryd a beth sydd angen ei wella, yn ogystal ag edrych ar wasanaethau sydd ar gael i gefnogi pobl.
Bydd y cyflwyniad hwn yn trafod beth rydym wedi ei ganfod hyd yma, ac yna bydd rhan helaeth o’r diwrnod yn cael ei dreulio mewn gweithdai lle gallwn wirio os ydym wedi methu rhywbeth pwysig a chydweithio i gytuno ar beth y dylwn ei wneud nesaf.
Gwaith ymchwil a data
Rhan gyntaf y prosiect oedd casglu gwaith ymchwil a data ar gael am bobl sy’n byw gyda dementia yng Ngogledd Cymru. Dyma rhai o’r prif ganfyddiadau.
Mae tua 10,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Ngogledd Cymru
Mae Merched yn fwy tebygol i gael dementia na dynion, efallai oherwydd eu bod yn byw’n hirach (63% merched, 37% dynion)
Y ffactor risg pennaf ar gyfer datblygu dementia yw oedran, er nad yw dementia yn rhan anochel o heneiddio. Mae gan oddeutu un mewn 14 person dros 65 mlwydd oed ddementia, sy’n cynyddu i un mewn 6 person dros 80 mlwydd oed. Mae rhai pobl iau yn datblygu dementia hefyd, mae tua 5% o bobl gyda dementia wedi ei ddatblygu dan 65 mlwydd oed. Ac er nad yw’r rhain yn niferoedd uchel (tua 500 o bobl sy’n byw yng Ngogledd Cymru) fe amlygodd yr ymgynghoriad eu bod yn aml yn canfod bod gwasanaethau wedi eu sefydlu ar gyfer pobl llawer hŷn na’u hunain.
Mae disgwyl y bydd y nifer o bobl gyda dementia yn cynyddu yng Ngogledd Cymru, wrth i’r nifer o bobl hŷn gynyddu. Gall hyn olygu 7,000 o bobl ychwanegol yn byw gyda dementia yng Ngogledd Cymru erbyn 2035. Er, hyd yma, nad yw’r nifer o bobl gyda dementia wedi bod gymaint a ragwelwyd, oherwydd bod canran y bobl sy’n datblygu dementia ymhob grŵp oedran wedi gostwng. Mae ymchwilwyr yn credu bod hyn oherwydd gwelliannau i agweddau eraill iechyd, megis llai o ddynion yn ysmygu. Nid oes sicrwydd y bydd y patrwm yn parhau fodd bynnag, a dyma ein hamcangyfrif gorau ar hyn o bryd.
Dim ond hanner y bobl sydd wedi’u hamcangyfrif i gael dementia yng Ngogledd Cymru sydd wedi cofrestru i ddweud eu bod wedi cael diagnosis, ac fe elwir hyn yn gyfradd diagnosis dementia. Mae’r gyfradd llawer llai na’r gyfradd mewn gwledydd eraill yn y DU, er ein bod yn tybio bod hyn yn rhannol oherwydd problemau gyda’r ffordd mae data’n cael ei gasglu.
Mae rhai grwpiau sy’n fwy tebygol o ddatblygu dementia. Mae mwy o risg i bobl ag anableddau dysgu, pobl â Syndrom Down yn enwedig. Hefyd, pobl gyda nam ar eu clyw nad ydynt wedi ei drin, drwy wisgo cymhorthion clyw er enghraifft. Mae tystiolaeth i brofi bod gwahaniaethau rhwng grwpiau ethnig gwahanol hefyd, felly mae angen i ni sicrhau bod ein negeseuon a’n gwasanaethau yn cyrraedd pawb.
Gall dementia effeithio gwahanol grwpiau o bobl sydd angen gwahanol fathau o gefnogaeth efallai. Rydym eisoes wedi crybwyll rhai o’r rhain, megis pobl iau, ond mae grwpiau eraill megis pobl LGBT sy’n wynebu heriau penodol, megis profiad o wahaniaethu gan wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y gorffennol.
Gallai pobl â dementia fod ag anghenion iechyd corfforol eraill sydd angen yr un mynediad at ddiagnosis, triniaeth a gofal â phobl heb ddementia. Felly mae angen i ni sicrhau bod pawb wedi eu cynnwys yn llawn yn y gwasanaethau rydym yn eu darparu.
Beth ddywedodd pobl wrthym ni
Ymatebodd tua 250 o bobl ar draws Gogledd Cymru i’r ymgynghoriad. Daeth llawer o’r ymatebion i’r arolwg ar-lein, ond daeth eraill o drafodaethau gydag Emma o’r Panel Dinasyddion yn unigol neu mewn digwyddiadau. Edrychom ar ganfyddiadau a anfonodd bobl atom ni o ymgynghoriadau eraill maent eisoes wedi eu cynnal.
Roedd llawer o wahanol straeon, rhai yn galonogol, a rhai yn dorcalonnus. Er enghraifft, mae rhai pobl wedi cael profiadau da o gefnogaeth. Siaradodd un person am sut y daeth i wybod am nifer o ddiddordebau newydd ers ei diagnosis, oherwydd roedd ei gweithwyr gofal wedi cydweithio gyda hi i ganfod beth mae hi’n hoffi ei wneud a’i helpu i geisio gweithgareddau newydd. Felly nawr, mae hi yma ac acw llawer mwy, wedi dechrau chwarae dominos, ac yn mwynhau cwrdd â phobl newydd.
Er hynny, dywedodd un arall am ba mor anodd oedd dod o hyd i weithgareddau i’w gŵr gymryd rhan ynddynt, a oedd wrth ei fodd allan yn yr awyr agored, a beicio. Daeth o hyd i sesiwn gweithgaredd oedd yn ei fwynhau, gyda phaned a sgwrs i ddilyn, ond ar ôl ychydig, fe ddaeth y baned i ben, ac nid oedd yn dymuno dychwelyd ar ôl hynny, felly roedd hi’n ei gweld yn anodd dod o hyd i syniadau.
Dywedodd sawl un pa mor bwysig oedd deall ar gyfer pwy oedd y grwpiau yn eu targedu, oherwydd nad oedd rhai gyda dementia cynnar eisiau mynd i ddigwyddiadau gyda phobl oedd yn dioddef o ddementia hwyrach.
Dywedodd nifer bod pethau wedi gwella. Yn enwedig mentrau cyfeillgar i ddementia, sydd wedi gwneud llawer i godi ymwybyddiaeth.
Roedd nifer o wahanol weithgareddau ar gael i bobl mewn cymunedau, er amlygodd rhai bod pawb yn wahanol. Roedd un person yn rhwystredig am y dybiaeth bod pawb yn hoffi canu!
Wrth sôn am bethau sydd angen eu gwella, beth oedd yn cael ei grybwyll fwyaf oedd cefnogaeth i ofalwyr, gan gynnwys cyfleoedd am seibiant neu wyliau wrth ofalu. Eto, roedd pobl yn pwysleisio pa mor bwysig bod hyn yn gweddu’r bobl sy’n cael eu cynnwys. Er enghraifft, mae rhai pobl eisiau rhywun i eistedd gyda’r person y maent yn gofalu amdanynt am ychydig wrth iddynt fynd allan, tra bo eraill yn casáu’r syniad o gael dieithryn yn eu cartref. Roedd yn fater penodol i bobl gyda dementia hwyrach. Roedd enghreifftiau o ofalwyr nad oedd yn cael eu talu (ffrindiau a theulu) yn dweud eu bod wedi canfod eu hunain mewn sefyllfaoedd lle roedd gwasanaethau cynnal wedi eu ffonio i ddweud nad oeddent yn gallu ymdopi â phethau roedd y gofalwr wedi ymdopi â nhw bob dydd heb gefnogaeth na hyfforddiant. Mae hyn yn amlygu sut mae gan wahanol bobl wahanol arbenigedd a sut mae angen i unigolion a phawb sy’n cael eu cynnwys yn eu gofal gydweithio i rannu’r wybodaeth arbenigol honno.
Roedd pobl hefyd eisiau siarad am yr heriau o adnabod arwyddion o ddementia a diddymu’r stigma o ofyn am gymorth. Siaradodd un person am ffrind sydd wedi bod yn ceisio cuddio symptomau am flynyddoedd, oherwydd fod ganddi hanes deuluol o ddementia, ac roedd ofn arni ei bod am gael ei charcharu. Siaradodd bobl am sut y gall gymryd amser hir i gael diagnosis a pha mor gymhleth all hyn fod. Roedd hyn yn cynnwys gorfod adrodd eu hanes dro ar ôl tro i lawer o weithwyr proffesiynol gwahanol.
Wrth sôn am gefnogaeth ar ôl diagnosis, roedd y bobl a gymerodd rhan yn yr arolwg wedi cael gwahanol brofiadau. Bu adborth cadarnhaol iawn am brofiadau pobl o wasanaethau. Er enghraifft, dywedodd un person eu bod wedi cael eu ‘hannog i wneud y mwyaf o bob diwrnod, cyn hired â phosib gan yr ymgynghorydd arbennig’. Er hynny, roedd pobl eraill wedi siarad am eu profiad o gael ffeil llawn gwybodaeth a drysu ynghylch y gwasanaethau gwahanol, nad oeddent yn ymddangos i gyfathrebu gyda’i gilydd o gwbl.
Siaradodd llawer o bobl am bwysigrwydd gwerthfawrogi’r gweithlu gofal a gymaint oedd hyn wedi helpu’r un staff a oedd yn gweithio gyda nhw i ddod i’w hadnabod, gyda amser i sgwrsio. Achoswyd llawer o broblemau o gael gwahanol bobl o gwmpas y hyd. Roedd problemau tebyg mewn ysbytai lle gallai wardiau fod yn swnllyd ac yn ddryslyd, ac mae llawer mwy y gellir ei newid i’w wneud yn gyfeillgar i ddementia.
Roedd llawer o gefnogaeth yn yr arolwg am ganolbwyntio ar y flaenoriaeth ‘byw’n dda, cyn hired ag y bo modd’ a llawer o syniadau am sut i wneud hyn gan gynnwys gweithio gyda grwpiau cymunedol. Roedd trafnidiaeth a chael mynediad i grwpiau yn broblem i rhai, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Roedd pobl gyda rhywun y gallai eu gyrru nhw yn ei gweld hi llawer haws i gael mynediad at weithgareddau nag eraill. Roedd pobl yn crybwyll sut y galli’r amgylchedd adeiledig, tai a thechnoleg i gyd gefnogi pobl gyda dementia.
Thema gyson drwy gydol yr ymgynghoriad oedd pwysigrwydd cael gweithwyr proffesiynol sy’n gwrando ar bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr, a rhannu syniadau am eu gofal.
Pobl yn siarad gyda mi ac nid fy nheulu’n unig – Rydw i am ddewis a lleisio barn ar beth sy’n digwydd.
Dyna oedd rhai o bwyntiau allweddol yr ymgynghoriad. Ceir adroddiad llawn, 70 tudalen o hyd, sy’n cynnwys llawer mwy ac rydym wedi ceisio defnyddio dyfyniadau pobl gymaint â phosib.
Mapio gwasanaeth
Rhan nesaf y gwaith oedd mapio’r gwasanaeth. Rhannom ni restr o’r gwasanaethau roeddem yn ymwybodol ohonynt a gofyn i bobl ychwanegu unrhyw beth oedd ar goll. Mae’r rhestr yn cynnwys gwasanaethau sy’n helpu pobl ddod o hyd i wybodaeth, clinigau cof, eiriolaeth, gwasanaethau cymunedol, gofal dydd, cartrefi gofal a gofal yn y cartref, yn ogystal â chefnogaeth i ofalwyr.
Rydym nawr yn dechrau edrych ar ba mor dda mae’r gwasanaethau hyn yn cyd-fynd â beth rydym ni o’r farn sydd ei angen. Fe luniom ni grynodeb, fel hyn, i ddangos y gwahanol fathau o wasanaethau, ac os oeddent ar gael ymhob sir. Roedd hyn yn anoddach na’r disgwyl, mae ystod dda o wasanaethau ond mewn gwirionedd mae rhestr aros enfawr ar gyfer rhai ohonynt. Neu mae’n ymddangos petai llawer o wasanaethau yn dyblygu ei gilydd, ond pan rydym yn dechrau siarad â gwahanol bobl amdanynt, mae gwahanol bobl wir yn gwerthfawrogi un gwasanaeth dros y llall.
Bydd y digwyddiad heddiw yn rhan ddefnyddiol o’r broses mapio gwasanaethau, gan fod llawer o bobl yma gyda phob math o wahanol brofiadau.
O beth rydym wedi ei gasglu hyd yma, mae’n ymddangos bod gwaith gwych yn cael ei gynnal ar draws Gogledd Cymru. Roedd y mapio wedi nodi oddeutu 160 o wahanol wasanaethau ar gael i gefnogi pobl sy’n byw gyda dementia. Mae cymunedau cyfeillgar i ddementia yn lledaenu’n gyflym, ac mae llawer o wahanol weithgareddau’n cael eu cynnal.
Rhai o’r problemau rydym wedi eu nodi:
- Mae o leiaf tri chyfarwyddiadur gwasanaeth ar-lein gwahanol sy’n rhestru’n holl gefnogaeth sydd ar gael, ac maent ychydig yn wahanol. Gallwn fynd ati i wneud cysylltiadau â nhw ac annog sefydliadau i ddiweddaru eu manylion.
- Mae llawer o wahanol wasanaethau sy’n cael eu rhedeg gan wahanol sefydliadau gwahanol ac yn cael eu noddi gan wahanol leoedd. Mae angen i ni sicrhau bod y sefydliadau sy’n noddi’r gwasanaethau yn cydweithio fel nad ydynt yn creu cymysgedd cymhleth o wasanaethau, yn ogystal â sicrhau ein bod yn cynnal digon o amrywiaeth a hyblygrwydd i fodloni anghenion pob unigolyn a gofalwr.
- Dim ond i bobl sydd wedi cael diagnosis y mae nifer o wasanaethau ar gael, ac nid i bobl sydd â rhywfaint o nam gwybyddol ac/neu sy’n mynd drwy’r broses o gael asesiad a diagnosis.
- Mae rhai pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig yn cael hi’n anodd cael mynediad i wasanaethau, ac er bod y rhan fwyaf o wasanaethau wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, nid yw hyn yn digwydd o hyd.
Os ydych chi’n anghytuno gyda hyn, neu o’r farn ein bod wedi methu rhywbeth, bydd cyfle i ddychwelyd at hyn yn ystod y gweithdai.
Rhoi’r cyfan at ei gilydd
Nawr ein bod wedi casglu’r holl wybodaeth mae angen i ni ei chyfuno i strategaeth a chytuno ar beth rydym angen ei wneud i’w rhoi ar waith.
Cytunodd y rhan fwyaf o bobl yn yr ymgynghoriad i ddefnyddio Cynllun Gweithredu Dementia Llywodraeth Cymru yn y strategaeth gydag ychwanegiad thema penodol ar ofalwyr. Fe wnaeth sawl un grybwyll problemau sydd angen i ni sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys dan bob un o’r themâu yn ogystal â chynnwys gofal diwedd bywyd a’r thema ar yr angen am ragor o gymorth.
Mae’n debygol mai’r blaenoriaethau fydd:
- Lleihau risg ac oedi dechreuad
- Codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth
- Cydnabod a chanfod
- Asesiad a diagnosis
- Byw cystal, cyn hired ag y bo modd
- Rhagor o gefnogaeth
- Cymorth i ofalwyr
Hyd yma, rydym wedi casglu llawer o wybodaeth am ddementia yng Ngogledd Cymru gan gynnwys data ac ystadegau, canfyddiadau o’r ymgynghoriad a gwybodaeth ynghylch y gwasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd. Rydym wedi edrych ar sut y mae’r wybodaeth honno’n berthnasol â Chynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru a chrynodeb ysgrifenedig o beth rydym wedi ei ganfod ar bob thema.
Beth yr hoffem ei wneud nawr yw gwirio’r canfyddiadau gyda chi yn y gweithdai a dechrau datblygu’r argymhellion a’r camau angenrheidiol i roi’r strategaeth ar waith, gan wella cefnogaeth i bobl sy’n byw â dementia, a’u gofalwyr yng Ngogledd Cymru.