Mae’n bwysig iawn i unrhyw un sy’n cael problemau rheolaidd gyda’u cof, neu feddwl, gael eu hasesu gan weithiwr iechyd proffesiynol.
Os mai dementia sy’n gyfrifol am y problemau hyn, mae llawer o fanteision i gael diagnosis cynnar.
Mae’n rhoi esboniad i’r person am ei symptomau, yn rhoi mynediad iddo at driniaeth, cyngor a chefnogaeth, ac yn caniatáu iddo gynllunio ar gyfer y dyfodol.
Mae gwybod y math o ddementia ee Alzheimers neu ddementia fasgwlaidd yn bwysig. Nid oes iachâd ar gyfer dementia eto, ond gall y gofal a’r driniaeth gywir helpu person â dementia i fyw’n dda cyhyd â phosibl.
Gwyliwch sut y gwnaeth diagnosis cynnar Bill a Jo o Ddementia roi rhyddhad iddynt YMA
