Ydych chi, neu rywun rydych yn gofalu amdanynt wedi cael diagnosis o Ddementia yng Nghymru?
Mae Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia (DSDC) eisiau clywed gennych os ydych chi, neu rywun yr ydych yn gofalu amdanynt:
– Wedi cael diagnosis o unrhyw fath o ddementia; Unrhyw bryd; Yng Ngogledd Cymru.
Gall rhannu eich profiadau (da a drwg) wneud gwahaniaeth i eraill yn y dyfodol. Bydd eich atebion yn ein helpu i nodi beth sy’n gweithio a beth sydd angen ei wella i bobl yng Ngogledd Cymru pryd maent yn derbyn diagnosis.
Cliciwch YMA i fynd i’r holidaur
Os ydych yn adnabod unrhyw un sy’n byw gyda dementia neu’n gofalu am rywun â dementia yng Ngogledd Cymru, a fyddech cystal â gyrru’r manylion ymlaen iddynt. Rydym angen clywed cymaint o straeon â phosib!
Cofion cynnes,
Jen Roberts (Canolfan Ymchwil DSDC, Prifysgol Bangor)