• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
    • Cymryd rhan
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
      • Anableddau dysgu
      • Iechyd meddwl
      • Plant a phobl ifanc
    • Gofalwyr
    • Dementia
    • Comisiynu
    • Gweithlu
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Blog / Anabledd dysgu / Diweddariad ar y Strategaeth Anableddau Dysgu

Diweddariad ar y Strategaeth Anableddau Dysgu

09/01/2019

Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu at y Strategaeth Anabledd Dysgu. Roedd dros 300 o bobl wedi helpu i ysgrifennu’r strategaeth ac roedd gwybodaeth amdani wedi cyrraedd llawer mwy.  Mae’r strategaeth nawr yn barod ac yn gwneud ei ffordd drwy’r prosesau cymeradwyo ffurfiol.  Mae adroddiadau ymgynghori ar y strategaeth nawr ar ein gwefan a byddwn yn cyhoeddi’r strategaeth yma gynted ag y caiff ei chadarnhau.

Beth Nesaf?

Er mwyn helpu i roi’r strategaeth ar waith rydym wedi gwneud cais llwyddiannus am £1.7 miliwn o gronfa trawsnewid Llywodraeth Cymru. Bydd y prosiect yn rhedeg tan 2020 ac ymgymerir â’r pump pecyn gwaith yn y strategaeth.

  • Strwythurau integredig: Sicrhau bod gwasanaethau iechyd a chymdeithasol yn gweithio gyda’i gilydd yn well i gefnogi pobl ag anableddau dysgu.
  • Datblygu’r gweithlu: Sicrhau fod staff yn gwybod sut i gyfathrebu’n well â phobl ag anableddau dysgu a newid gwasanaethau fel eu bod yn haws i’w defnyddio. Bydd hyn yn helpu pobl i gael y gofal iechyd sydd ei angen arnynt. Sicrhau fod pobl sydd eisiau cefnogaeth yn Gymraeg yn gallu ei chael heb orfod gofyn.
  • Comisiynu a chaffael: Gweithio gyda sefydliadau eraill i wneud yn siŵr bod gennym y mathau o dai a’r gefnogaeth y mae pobl eu hangen.
  • Newid cymunedol a diwylliant: Gweithio gyda’r gymuned leol i sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu yn cael mynediad at lawer o wahanol weithgareddau a chwrdd â phobl newydd os ydynt am wneud hynny. Helpu mwy o bobl ag anableddau dysgu i gael swyddi cyflogedig.
  • Technoleg gynorthwyol: Dod o hyd i ffyrdd o ddefnyddio technoleg fel larymau a ffonau symudol i gynorthwyo pobl i fod yn fwy annibynnol.

Cymryd Rhan

  • Mae swyddi’r tîm prosiect yn cael eu hysbysebu ar wefan Sir y Fflint
  • Cyfleoedd i sefydliad neu gonsortiwm o sefydliadau i werthuso a darparu rôl ‘cyfaill beirniadol’ i gefnogi a herio’r prosiect yn cael eu hysbysebu ar wefan Gwerthwch i Gymru
  • Cyfleoedd i ddarparwyr gyfrannu at y fforwm darparwyr yn cael ei hysbysebu ar ein gwefan.

Llongyfarchiadau i’r Grŵp Cyfranogiad Anableddau Dysgu sydd wedi ennill gwobr!

Cyflwynwyd y wobr i’r grŵp yng Ngwobrau Pobl Yn Gyntaf Cymru 2018 i gydnabod eu cyfraniad eithriadol i fyfyrdod a dysgu. Maent wedi gwneud gwaith gwych yn helpu i ddatblygu’r Strategaeth Anabledd Dysgu a llunio’r strategaeth mewn Cymraeg a Saesneg Hawdd Ei Ddeall. Llongyfarchiadau!

I gael rhagor o wybodaeth

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am y strategaeth a beth sy’n digwydd nesaf ar gael ar ein gwefan.

Bydd unrhyw ddiweddariadau’n cael eu rhannu gyda’r sawl ar ein rhestr bostio Strategaeth Anabledd Dysgu. Os hoffech gael eich ychwanegu at y rhestr bostio hon, cysylltwch â sarah.bartlett@denbighshire.gov.uk

Ffeiliwyd dan: Anabledd dysgu, Blog

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Primary Sidebar

Chwilio

Negeseuon Diweddar

Gofalwyr ifanc sy’n gofalu am oedolion â phroblemau iechyd meddwl

Plant nad ydyn nhw’n mynd i’r ysgol

Cynhwysiant Digidol

  • YN EISIAU: CYNRYCHIOLYDD TRYDYDD SECTOR CENEDLAETHOL
  • Trigolion DINBYCH – rydym eich angen chi!
  • Ffocws ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

@CoproNetWales Member logo

Copyright © 2023 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital