• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
    • Cymryd rhan
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
      • Anableddau dysgu
      • Iechyd meddwl
      • Plant a phobl ifanc
    • Gofalwyr
    • Dementia
    • Comisiynu
    • Gweithlu
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Blog / Dros 55? SBARC yn edrych am gyfranogwyr.

Dros 55? SBARC yn edrych am gyfranogwyr.

20/05/2022

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi Prosiect Stori Bywyd ar-lein o’r enw SBARC ar gyfer unrhyw un dros 55 oed a allai fod yn profi unigedd ac unigrwydd. Mae’r prosiect yn gwella lles…ac yn hwyl!

“Pan ddechreuodd y grŵp gyntaf roedd ysbryd fy nghleient yn isel iawn ac nid oedd ganddi unrhyw beth i ymddiddori ynddo. Fodd bynnag, mae bod yn rhan o SPARK wedi ehangu ei gorwelion yn fawr. Rwy’n ymfalchio’n gweld fy nghleient yn dod allan o’i chragen a chymryd rhan” – Gweithiwr Cymorth Cymunedol 

Grŵp SBARC yn cychwyn ddydd Mawrth 24 Mai
Amser: 11am-12.30pm  

Lleoliad: Zoom

Mae Prosiect SBARC yn gyfres o ddeg sesiwn Stori Bywyd wythnosol ar-lein gyda grŵp o 8 oedolyn i gefnogi iechyd a lles. Mae Gwaith Stori Bywyd yn wahoddiad i rannu straeon, mwynhau gwrando ar straeon pobl eraill a theimlo’n rhan o rywbeth eto. 
 
Gallwn helpu gyda chaledwedd digidol fel tabledi a chysylltedd di-wifr. 
 

Os ydych chi’n teimlo y gallai rhywun rydych chi’n ei gefnogi elwa o gysylltu â SBARC, cysylltwch â Karen Wynne, i drafod sut y gallwn ei wneud yn bosibl. 

Arweinydd Proisect SBARC: Karen Wynne: 07979 547304/ karen@re-live.org.uk

· 10 sesiwn Stori Bywyd wythnosol ar Zoom rhwng 24 Mai a 26 Gorffennaf 2022

· Am ddim i unrhyw un 55+ oed ymuno

· Cyfle gwych i gleientiaid gwrdd â phobl newydd a rhannu straeon

· Yn lleihau arwahanrwydd ac unigrwydd

· Meithrin hyder, cysylltiadau cymdeithasol ac asiantaeth

· Adborth ardderchog gan gyfranogwyr blaenorol SPARK, Cysylltwyr Cymunedol a Gweithwyr Cymorth

Mae’r prosiect hwn yn bosibl drwy gefnogaeth rhaglen Iechyd, y Celfyddydau, Ymchwil, Pobl (HARP), a gyllidir gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Y Lab (Prifysgol Caerdydd a Nesta). 

Ffeiliwyd dan: Blog

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Primary Sidebar

Chwilio

Negeseuon Diweddar

Gofalwyr ifanc sy’n gofalu am oedolion â phroblemau iechyd meddwl

Plant nad ydyn nhw’n mynd i’r ysgol

Cynhwysiant Digidol

  • YN EISIAU: CYNRYCHIOLYDD TRYDYDD SECTOR CENEDLAETHOL
  • Trigolion DINBYCH – rydym eich angen chi!
  • Ffocws ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

@CoproNetWales Member logo

Copyright © 2023 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital