North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
    • Cymryd rhan
    • Rhaglen drawsnewid
      • Anableddau dysgu
      • Iechyd meddwl
      • Plant a phobl ifanc
      • Gwasanaethau Cymunedol
    • Gofalwyr
    • Dementia
    • Comisiynu
    • Gweithlu
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Engagements / Arolwg Iechyd a Lles Emosiynol Plant i Rieni

Arolwg Iechyd a Lles Emosiynol Plant i Rieni

LnRiLWZpZWxke21hcmdpbi1ib3R0b206MC43NmVtfS50Yi1maWVsZC0tbGVmdHt0ZXh0LWFsaWduOmxlZnR9LnRiLWZpZWxkLS1jZW50ZXJ7dGV4dC1hbGlnbjpjZW50ZXJ9LnRiLWZpZWxkLS1yaWdodHt0ZXh0LWFsaWduOnJpZ2h0fS50Yi1maWVsZF9fc2t5cGVfcHJldmlld3twYWRkaW5nOjEwcHggMjBweDtib3JkZXItcmFkaXVzOjNweDtjb2xvcjojZmZmO2JhY2tncm91bmQ6IzAwYWZlZTtkaXNwbGF5OmlubGluZS1ibG9ja311bC5nbGlkZV9fc2xpZGVze21hcmdpbjowfQ==
ICAgIC50Yi1jb250YWluZXIgLnRiLWNvbnRhaW5lci1pbm5lcnt3aWR0aDoxMDAlO21hcmdpbjowIGF1dG99IC53cC1ibG9jay10b29sc2V0LWJsb2Nrcy1jb250YWluZXIudGItY29udGFpbmVyW2RhdGEtdG9vbHNldC1ibG9ja3MtY29udGFpbmVyPSIzNGJlNjYwZGE5ZjNlMzcxMWY2NGQzYjUwZTQwYTVhNyJdIHsgYmFja2dyb3VuZDpsaW5lYXItZ3JhZGllbnQocmdiYSggMjM5LCAyMzUsIDIzNSwgMCApLHJnYmEoIDIzOSwgMjM1LCAyMzUsIDAgKSksICAgdXJsKCdodHRwczovL3d3dy5ub3J0aHdhbGVzY29sbGFib3JhdGl2ZS53YWxlcy93cC1jb250ZW50L3VwbG9hZHMvMjAyMS8wNi9zZmxfcW9ubXkwMC5qcGcnKSBjZW50ZXIgY2VudGVyIG5vLXJlcGVhdDtiYWNrZ3JvdW5kLXNpemU6YXV0bywgY292ZXI7cGFkZGluZzogMjVweCAwIDAgMDsgfSAudGItY29udGFpbmVyIC50Yi1jb250YWluZXItaW5uZXJ7d2lkdGg6MTAwJTttYXJnaW46MCBhdXRvfSAud3AtYmxvY2stdG9vbHNldC1ibG9ja3MtY29udGFpbmVyLnRiLWNvbnRhaW5lcltkYXRhLXRvb2xzZXQtYmxvY2tzLWNvbnRhaW5lcj0iZjA4YjBhNDRiMThkNTgxYTFlN2FiNWY2ZGM2Y2Q5YjMiXSB7IHBhZGRpbmc6IDA7ZGlzcGxheTptcy1mbGV4Ym94ICFpbXBvcnRhbnQ7ZGlzcGxheTpmbGV4ICFpbXBvcnRhbnQ7LW1zLWZsZXgtZGlyZWN0aW9uOmNvbHVtbjtmbGV4LWRpcmVjdGlvbjpjb2x1bW47LW1zLWZsZXgtcGFjazplbmQ7anVzdGlmeS1jb250ZW50OmZsZXgtZW5kOyB9IC50Yi1maWVsZHMtYW5kLXRleHRbZGF0YS10b29sc2V0LWJsb2Nrcy1maWVsZHMtYW5kLXRleHQ9ImU4Y2E2MDg4MDI4M2Y3MDY2YWQ5NmM5MDliMGEwMmE4Il0geyBiYWNrZ3JvdW5kLWNvbG9yOiByZ2JhKCAyNTUsIDI1NSwgMjU1LCAwLjcxICk7cGFkZGluZy10b3A6IDIwcHg7cGFkZGluZy1yaWdodDogMzBweDtwYWRkaW5nLWxlZnQ6IDMwcHg7IH0gLnRiLWNvbnRhaW5lciAudGItY29udGFpbmVyLWlubmVye3dpZHRoOjEwMCU7bWFyZ2luOjAgYXV0b30gLndwLWJsb2NrLXRvb2xzZXQtYmxvY2tzLWNvbnRhaW5lci50Yi1jb250YWluZXJbZGF0YS10b29sc2V0LWJsb2Nrcy1jb250YWluZXI9ImJhNzBjMTc5ZDUwNDEwNjY0MzhmYzhmZGY5ODgxNmViIl0geyBwYWRkaW5nOiAyNXB4OyB9IC53cC1ibG9jay10b29sc2V0LWJsb2Nrcy1jb250YWluZXIudGItY29udGFpbmVyW2RhdGEtdG9vbHNldC1ibG9ja3MtY29udGFpbmVyPSJiYTcwYzE3OWQ1MDQxMDY2NDM4ZmM4ZmRmOTg4MTZlYiJdID4gLnRiLWNvbnRhaW5lci1pbm5lciB7IG1heC13aWR0aDogODAlOyB9IC50Yi1maWVsZFtkYXRhLXRvb2xzZXQtYmxvY2tzLWZpZWxkPSJkODI4NDdmZTVlYjUyZjU5YmE3NzNhYmE1OTM5YjUzMCJdIHsgZm9udC1zaXplOiAyMHB4O3RleHQtYWxpZ246IGNlbnRlcjtiYWNrZ3JvdW5kLWNvbG9yOiByZ2JhKCAyNTUsIDI1NSwgMjU1LCAxICk7cGFkZGluZzogMTBweDtib3JkZXI6IDRweCBzb2xpZCByZ2JhKCAwLCAwLCAwLCAxICk7IH0gIEBtZWRpYSBvbmx5IHNjcmVlbiBhbmQgKG1heC13aWR0aDogNzgxcHgpIHsgICAgIC50Yi1jb250YWluZXIgLnRiLWNvbnRhaW5lci1pbm5lcnt3aWR0aDoxMDAlO21hcmdpbjowIGF1dG99LnRiLWNvbnRhaW5lciAudGItY29udGFpbmVyLWlubmVye3dpZHRoOjEwMCU7bWFyZ2luOjAgYXV0b30udGItY29udGFpbmVyIC50Yi1jb250YWluZXItaW5uZXJ7d2lkdGg6MTAwJTttYXJnaW46MCBhdXRvfSAgfSBAbWVkaWEgb25seSBzY3JlZW4gYW5kIChtYXgtd2lkdGg6IDU5OXB4KSB7ICAgICAudGItY29udGFpbmVyIC50Yi1jb250YWluZXItaW5uZXJ7d2lkdGg6MTAwJTttYXJnaW46MCBhdXRvfS50Yi1jb250YWluZXIgLnRiLWNvbnRhaW5lci1pbm5lcnt3aWR0aDoxMDAlO21hcmdpbjowIGF1dG99LnRiLWNvbnRhaW5lciAudGItY29udGFpbmVyLWlubmVye3dpZHRoOjEwMCU7bWFyZ2luOjAgYXV0b30gLndwLWJsb2NrLXRvb2xzZXQtYmxvY2tzLWNvbnRhaW5lci50Yi1jb250YWluZXJbZGF0YS10b29sc2V0LWJsb2Nrcy1jb250YWluZXI9ImJhNzBjMTc5ZDUwNDEwNjY0MzhmYzhmZGY5ODgxNmViIl0gPiAudGItY29udGFpbmVyLWlubmVyIHsgbWF4LXdpZHRoOiA2MCU7IH0gICB9IA==
Arolwg o rieni plant yng ngogledd Cymru mewn perthynas ag iechyd a lles emosiynol eu plant a mynediad at gymorth. Arolwg o rieni gyda phlant a phobl ifanc 0-18 oed…

Lead Organisation: Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol


Arolwg o rieni plant yng ngogledd Cymru mewn perthynas ag iechyd a lles emosiynol eu plant a mynediad at gymorth.

Arolwg o rieni gyda phlant a phobl ifanc 0-18 oed yng ngogledd Cymru ynghylch y ffordd orau i gefnogi iechyd a lles emosiynol eu plant.

Mae Rhaglen Drawsnewid Plant a Phobl Ifanc wedi datblygu fframwaith i gefnogi iechyd, lles a gwytnwch emosiynol plant. I gefnogi’r gwaith yma bu iddyn nhw gomisiynu arolwg o rieni plant 8 i 11 oed i ganfod mwy am y gefnogaeth sydd arnyn nhw ei hangen. Roedd hwn yn arolwg prawf a gafodd ei gyflwyno wedyn i rieni grwpiau oedran eraill. Roedd yr arolwg yn cynnwys cwestiynau am y ‘Pum awgrym llesol’ sef cysylltu, bod yn actif, cymryd sylw, rhoi a pharhau i ddysgu.

Cafwyd 5,517 o ymatebion i’r arolwg. Canfyddwyd:

Y 3 math o gefnogaeth y mae ar rieni ei heisiau yw: nyrs ysgol/meddyg teulu, gwefan/podlediad a chymorth yn yr ysgol – roedd hyn yn ymateb cyson ar draws y grwpiau oedran.

Y tri phrif le y mae rhieni yn cysylltu i dderbyn cymorth yw: teulu/ffrindiau, gwasanaethau iechyd a’r ysgol – roedd hyn yn gyson ar draws yr ystod oedran.

Roedd 78% o’r rhieni/gofalwyr yn defnyddio neu’n annog eu plentyn i ddefnyddio adnoddau digidol. Rhieni/gofalwyr plant 0-3 oed oedd leiaf tebygol o ddefnyddio neu annog eu plant i ddefnyddio adnoddau digidol (69%); a rhieni/gofalwyr plant 8-11 oed oedd fwyaf tebygol o ddefnyddio neu annog eu plant i ddefnyddio adnoddau digidol (87%).

Dywedodd 80% o’r rhieni eu bod yn hapus/hapus iawn gyda lles eu plentyn.

O’r 5 awgrym llesol, roedd rhieni/gofalwyr plant 0-11 oed yn teimlo bod eu plant fwyaf tebygol o fod ‘yn actif’ a rhieni/gofalwyr plant 12-18 yn dweud bod eu plant yn fwyaf tebygol o ‘roi’.

O’r 5 awgrym llesol, roedd rhieni plant 0-3 oed yn teimlo mai ‘rhoi’ oedd lleiaf pwysig i’w plant; ‘cymryd sylw’ oedd leiaf pwysig i blant 4-15 oed a ‘bod yn actif’ oedd leiaf pwysig i bobl ifanc 16-18 oed.

Roedd rhieni/gofalwyr plant 0-7 yn teimlo’n fwy hyderus yn cefnogi eu plant i ‘fod yn actif’; rhieni/gofalwyr plant 8-15 yn fwy hyderus yn cefnogi gyda ‘rhoi’ a rhieni/gofalwyr pobl ifanc 16-18 oed fwyaf hyderus yn cefnogi ‘parhau i ddysgu’.

Roedd rhieni/gofalwyr yn llai hyderus yn cefnogi eu plant gyda: bwlio (0-7 oed), colled/gwahanu (8-11 oed) a gorbryder (12-18 oed).

Roedd gan 33% o’r rhieni/gofalwyr bryderon ychwanegol ynghylch lles eu plentyn.*

Roedd cymdeithasu/cyfeillgarwch yn bryder a fynegwyd gan rieni/gofalwyr pob grŵp oedran. Prif bryder rhieni/gofalwyr plant 0-7 oed oedd cymdeithasu/cyfeillgarwch (6%) a phrif bryder rhieni/gofalwyr pobl ifanc 12-18 oed oedd ysgol/addysg (11%).

Pryderon rhieni/gofalwyr o ran adnoddau digidol oedd: amser ar y sgrin, ffafrio dulliau eraill, cynnwys ac effeithiolrwydd. Roedd oedran yn bryder i rieni/gofalwyr plant 0-7 oed.*

Roedd 33% o’r rhieni/gofalwyr yn ymwybodol o adnoddau cymorth/fforymau.*

*Nid oedd data ar gael ar gyfer grŵp oedran 8-11 oed ar gyfer yr ystadegau hyn.


Contact

Karen Evans
karen.evans@wrexham.gov.uk

Date completed

Gorffenaf 2021

Tagged With: Ansawdd Bywyd, boddhad bywyd, emosiynol, glasoed, hapus, hapusrwydd, ieuanc, ieuenctid, ifanc, llanc, Lles, meddyliol, oed ysgol, oedolion ifanc, oedolyn ifanc, person ifanc, person yn ei arddegau, plant, plentyn

Chwilio

Negeseuon Diweddar

Pwy sy’n cael eu ystyried yn ofalwr?

Wythnos Gofalwyr 6 – 12 Mehefin 2022

Dros 55? SBARC yn edrych am gyfranogwyr.

  • Gogledd Cymru gyda’n Gilydd – Mai 2022
  • DIAGNOSIS O DDEMENTIA
  • Diagnosis o Dementia?

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

Copyright © 2022 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital