• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Y bobl rydyn ni’n eu cefnogi >
      • Pobl gydag anableddau dysgu
      • Gofalwyr di-dâl
      • Pobl sy’n byw gyda dementia
      • Plant a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth
      • Pobl gydag anghenion emosiynol ac iechyd meddwl
    • Sut rydyn ni’n gweithio >
      • Comisiynu
      • Gweithlu
      • Diogelu
      • Fforwm gwerth cymdeithasol
      • Digidol, data a thechnoleg
      • Mwy na geiriau
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Engagements / Digwyddiad Plant a Phobl Ifanc gyda Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd

Digwyddiad Plant a Phobl Ifanc gyda Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd

LnRiLWZpZWxke21hcmdpbi1ib3R0b206MC43NmVtfS50Yi1maWVsZC0tbGVmdHt0ZXh0LWFsaWduOmxlZnR9LnRiLWZpZWxkLS1jZW50ZXJ7dGV4dC1hbGlnbjpjZW50ZXJ9LnRiLWZpZWxkLS1yaWdodHt0ZXh0LWFsaWduOnJpZ2h0fS50Yi1maWVsZF9fc2t5cGVfcHJldmlld3twYWRkaW5nOjEwcHggMjBweDtib3JkZXItcmFkaXVzOjNweDtjb2xvcjojZmZmO2JhY2tncm91bmQ6IzAwYWZlZTtkaXNwbGF5OmlubGluZS1ibG9ja311bC5nbGlkZV9fc2xpZGVze21hcmdpbjowfQ==
ICAgIC50Yi1jb250YWluZXIgLnRiLWNvbnRhaW5lci1pbm5lcnt3aWR0aDoxMDAlO21hcmdpbjowIGF1dG99IC53cC1ibG9jay10b29sc2V0LWJsb2Nrcy1jb250YWluZXIudGItY29udGFpbmVyW2RhdGEtdG9vbHNldC1ibG9ja3MtY29udGFpbmVyPSI1YWU2YzZiY2E3YjZiNWYwNDk0NDc1MWFiZDVlZmMwZCJdIHsgYmFja2dyb3VuZDpsaW5lYXItZ3JhZGllbnQocmdiYSggMjM5LCAyMzUsIDIzNSwgMCApLHJnYmEoIDIzOSwgMjM1LCAyMzUsIDAgKSksICAgdXJsKCdodHRwczovL25vcnRod2FsZXNjb2xsYWJvcmF0aXZlLndhbGVzL3dwLWNvbnRlbnQvdXBsb2Fkcy8yMDIxLzA2L3NmbF9xb25teTAwLmpwZycpIGNlbnRlciBjZW50ZXIgbm8tcmVwZWF0O2JhY2tncm91bmQtc2l6ZTphdXRvLCBjb3ZlcjtwYWRkaW5nOiAyNXB4IDBweCAwcHggMHB4OyB9IC50Yi1jb250YWluZXIgLnRiLWNvbnRhaW5lci1pbm5lcnt3aWR0aDoxMDAlO21hcmdpbjowIGF1dG99IC53cC1ibG9jay10b29sc2V0LWJsb2Nrcy1jb250YWluZXIudGItY29udGFpbmVyW2RhdGEtdG9vbHNldC1ibG9ja3MtY29udGFpbmVyPSJmMDhiMGE0NGIxOGQ1ODFhMWU3YWI1ZjZkYzZjZDliMyJdIHsgcGFkZGluZzogMHB4O2Rpc3BsYXk6bXMtZmxleGJveCAhaW1wb3J0YW50O2Rpc3BsYXk6ZmxleCAhaW1wb3J0YW50Oy1tcy1mbGV4LWRpcmVjdGlvbjpjb2x1bW47ZmxleC1kaXJlY3Rpb246Y29sdW1uOy1tcy1mbGV4LXBhY2s6ZW5kO2p1c3RpZnktY29udGVudDpmbGV4LWVuZDsgfSAudGItZmllbGRzLWFuZC10ZXh0W2RhdGEtdG9vbHNldC1ibG9ja3MtZmllbGRzLWFuZC10ZXh0PSJlOGNhNjA4ODAyODNmNzA2NmFkOTZjOTA5YjBhMDJhOCJdIHsgYmFja2dyb3VuZC1jb2xvcjogcmdiYSggMjU1LCAyNTUsIDI1NSwgMC43MSApO3BhZGRpbmctdG9wOiAyMHB4O3BhZGRpbmctcmlnaHQ6IDMwcHg7cGFkZGluZy1sZWZ0OiAzMHB4OyB9IC50Yi1jb250YWluZXIgLnRiLWNvbnRhaW5lci1pbm5lcnt3aWR0aDoxMDAlO21hcmdpbjowIGF1dG99IC53cC1ibG9jay10b29sc2V0LWJsb2Nrcy1jb250YWluZXIudGItY29udGFpbmVyW2RhdGEtdG9vbHNldC1ibG9ja3MtY29udGFpbmVyPSJiYTcwYzE3OWQ1MDQxMDY2NDM4ZmM4ZmRmOTg4MTZlYiJdIHsgcGFkZGluZzogMjVweDsgfSAud3AtYmxvY2stdG9vbHNldC1ibG9ja3MtY29udGFpbmVyLnRiLWNvbnRhaW5lcltkYXRhLXRvb2xzZXQtYmxvY2tzLWNvbnRhaW5lcj0iYmE3MGMxNzlkNTA0MTA2NjQzOGZjOGZkZjk4ODE2ZWIiXSA+IC50Yi1jb250YWluZXItaW5uZXIgeyBtYXgtd2lkdGg6IDgwJTsgfSAudGItZmllbGRbZGF0YS10b29sc2V0LWJsb2Nrcy1maWVsZD0iZDgyODQ3ZmU1ZWI1MmY1OWJhNzczYWJhNTkzOWI1MzAiXSB7IGZvbnQtc2l6ZTogMjBweDt0ZXh0LWFsaWduOiBjZW50ZXI7YmFja2dyb3VuZC1jb2xvcjogcmdiYSggMjU1LCAyNTUsIDI1NSwgMSApO3BhZGRpbmc6IDEwcHg7Ym9yZGVyOiA0cHggc29saWQgcmdiYSggMCwgMCwgMCwgMSApOyB9ICBAbWVkaWEgb25seSBzY3JlZW4gYW5kIChtYXgtd2lkdGg6IDc4MXB4KSB7ICAgICAudGItY29udGFpbmVyIC50Yi1jb250YWluZXItaW5uZXJ7d2lkdGg6MTAwJTttYXJnaW46MCBhdXRvfS50Yi1jb250YWluZXIgLnRiLWNvbnRhaW5lci1pbm5lcnt3aWR0aDoxMDAlO21hcmdpbjowIGF1dG99LnRiLWNvbnRhaW5lciAudGItY29udGFpbmVyLWlubmVye3dpZHRoOjEwMCU7bWFyZ2luOjAgYXV0b30gIH0gQG1lZGlhIG9ubHkgc2NyZWVuIGFuZCAobWF4LXdpZHRoOiA1OTlweCkgeyAgICAgLnRiLWNvbnRhaW5lciAudGItY29udGFpbmVyLWlubmVye3dpZHRoOjEwMCU7bWFyZ2luOjAgYXV0b30udGItY29udGFpbmVyIC50Yi1jb250YWluZXItaW5uZXJ7d2lkdGg6MTAwJTttYXJnaW46MCBhdXRvfS50Yi1jb250YWluZXIgLnRiLWNvbnRhaW5lci1pbm5lcnt3aWR0aDoxMDAlO21hcmdpbjowIGF1dG99IC53cC1ibG9jay10b29sc2V0LWJsb2Nrcy1jb250YWluZXIudGItY29udGFpbmVyW2RhdGEtdG9vbHNldC1ibG9ja3MtY29udGFpbmVyPSJiYTcwYzE3OWQ1MDQxMDY2NDM4ZmM4ZmRmOTg4MTZlYiJdID4gLnRiLWNvbnRhaW5lci1pbm5lciB7IG1heC13aWR0aDogNjAlOyB9ICAgfSA=
Digwyddiad a gynhaliwyd ar gyfer plant, pobl ifanc a’u teuluoedd i ddysgu am a thrafod y Rhaglen Drawsnewid Anabledd Dysgu.

Lead Organisation: Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd


Yn dilyn digwyddiad lansio ar gyfer Rhaglen Drawsnewid Anabledd Dysgu ym Mehefin 2019, cafodd digwyddiad gyda ffocws arbennig ar blant a phobl ifanc gydag anableddau dysgu ei gynnal ar 19 Hydref 2019. Cafodd y digwyddiad ei gyd-gynhyrchu gan y Tîm Trawsnewid Anabledd Dysgu, y Tîm Trawsnewid Plant, Gwasanaethau Plant Sir y Fflint, Gwasanaeth Anabledd Dysgu Plant a Phobl Ifanc Sir Ddinbych a Chonwy a Gwasanaeth Anabledd Plant Ynys Môn. Roedd hyn wedi helpu i sicrhau fod y diwrnod yn cynnwys ‘rhywbeth ar gyfer pawb’, teuluoedd, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol.

Roedd y digwyddiad wedi’i anelu tuag at deuluoedd a’r bobl a gwasanaethau sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd i roi cyfle iddynt ddarganfod mwy am y Rhaglen Drawsnewid Anabledd Dysgu a chymryd rhan mewn trafodaethau, gweithdai a darparu adborth ac argymhellion. Roedd y digwyddiad yn cynnwys y Prosiect Trawsnewid Plant a’r Prosiect Trawsnewid ADY, ac yn rhoi cyfle pellach i gyfranogwyr ddarganfod mwy am y rhaglenni hyn ac i archwilio meysydd synergedd.

Mynychodd 120 o bobl y digwyddiad, gyda chymysgedd dda o blant a phobl ifanc gydag anableddau dysgu, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol addysg, iechyd a gofal cymdeithasol. Cymerodd y mynychwyr ran yn y digwyddiad ac roedd eu presenoldeb wedi ysgogi trafodaethau ar y diwrnod ac amlygu’r pwysigrwydd o fynd i’r afael â’r materion a rhwystrau sy’n atal plant a phobl ifanc gydag anableddau dysgu rhag cyflawni eu potensial yng Ngogledd Cymru. Dyma beth oedd gan rai i’w ddweud ar y diwrnod:

“Roedd fy anghenion, hoff bethau a dewisiadau yn cael eu deall!”

“Cael fy helpu i wneud fy mhenderfyniadau fy hun!”

Ers y digwyddiad mae’r Tîm Rhaglen wedi cytuno i ddarparu blaenoriaethau gyda’i holl bartneriaid. Cafodd yr adborth o’r digwyddiad ei ddefnyddio i lywio’r blaenoriaethau hyn a darparu sail dystiolaeth. Mae’r Tîm Trawsnewid Anabledd Dysgu hefyd wedi bod yn gweithio’n agos gyda Phenaethiaid Gwasanaethau Plant, y Timoedd Trawsnewid ADY a Phlant a Phobl Ifanc i fynd i’r afael a dod o hyd i ddatrysiadau ar gyfer materion trawsbynciol mewn natur, gan gynnwys:

  • Addysg a Chymorth Diagnostig cyn ac ar ôl, ar gyfer teuluoedd yn y gymuned.
  • Gwella’r trosglwyddiad o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion yn gyffredinol, ar gyfer y rhai sydd ag anawsterau dysgu dwys a lluosog, ac ystyried Deddf Tribiwnlys ADY sydd ar y gweill.
  • Gwell ymgysylltiad yn y rhaglen drawsnewid gan addysg.

I gael y newyddion ar wybodaeth ddiweddaraf ewch i wefan Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd.


Contact

North Wales Together
learningdisabilitytransformation@flintshire.gov.uk

Date completed

Hydref 2021

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni

Bluesky: @hcargc.bsky.social


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

Copyright © 2026 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital

Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi ar ein gwefan.
Gallwch ddysgu mwy am ba gwcis rydym yn eu defnyddio neu eu diffodd yn y .

North Wales Collaborative
Wedi'i bweru gan  GDPR Cookie Compliance
Trosolwg preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn i ni allu rhoi'r profiad defnyddiwr gorau posibl i chi. Mae gwybodaeth cwcis yn cael ei storio yn eich porwr ac yn cyflawni swyddogaethau fel eich adnabod pan fyddwch chi'n dychwelyd i'n gwefan a helpu ein tîm i ddeall pa adrannau o'r wefan rydych chi'n eu cael fwyaf diddorol a defnyddiol.

Strictly Necessary Cookies

Dylai Cwcis Cwbl Angenrheidiol fod wedi'u galluogi bob amser fel y gallwn gadw eich dewisiadau ar gyfer gosodiadau cwcis.

Cwcis Trydydd Parti

Mae'r wefan hon yn defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth ddienw fel nifer yr ymwelwyr â'r safle, a'r tudalennau mwyaf poblogaidd.

Mae cadw'r cwci hwn wedi'i alluogi yn ein helpu i wella ein gwefan.