Lead Organisation: Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
Casglwyd yr adborth gan Dîm Trawsnewid Anableddau Dysgu Gogledd Cymru gan y bobl y maen nhw’n gweithio gydag ynglŷn â’u profiadau rhwng Mawrth a Gorffennaf 2020.
Newidiadau oherwydd y cyfnod clo
Caeodd sefydliadau gofal dydd a gweithiodd staff gofal cymdeithasol a iechyd cymunedol o gartref. Roedd yn ymddangos bod gwasanaethau mewnol yn addasu yn llai cyflym i’r cyfnod clo er bod gwasanaethau a allgontractwyd, megis HFT, Tyddyn Môn, Co-options yn gallu addasu yn gyflymach a chynnig gweithgareddau ar-lein i’r rhai oedd yn hysbys i’w gwasanaethau. Mae rhai dyfyniadau gan deuluoedd yng Gogledd Cymru yn cael eu rhestru isod;
Roeddem yn teimlo nad oeddem yn cael ein cynnwys i ddechrau, a’n bod wedi cael ein gadael.
A siaradodd y gwasanaethau gyda theuluoedd oherwydd y dylem fod wedi dod at ein gilydd?
Yn sydyn roedd ein byd yn fach iawn.
Roedd dinasyddion yn adrodd am golli cyflogaeth neu golli cyfleoedd gwirfoddoli a bod hynny wedi effeithio’n niweidiol ar eu lles.
Oni bai am Conwy Connect, y tîm Trawsnewid, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan a’r grwpiau cyfranogi, beth fyddem wedi ei gael? Roedd angen i ni fod yn gysylltiedig. Rydym angen i’r gweithgareddau hynny barhau.
Dod allan o’r cyfnod clo/gwarchod
- Mae teuluoedd a darparwyr yn orbryderus ynghylch unigolion yn rhoi’r gorau i hunanynysu, yn arbennig o ystyried breguster eu iechyd corfforol.
- Mae’n rhaid i gymorth fod yn bwrpasol a chanolbwyntio ar yr unigolyn ac mae’n rhaid i ymarferwyr adolygu ac ailddylunio diwrnod pob person yn gyflym, ac mae hynny yn golygu bod angen llawer iawn o fewnbwn er mwyn adolygu cynlluniau cymorth ymddygiad cymhleth ac yn y blaen.
- Mae yna bryderon gan bobl ag anableddau dysgu a’u teuluoedd ynghylch y dulliau a ddefnyddir ar gyfer gwarchod a’r defnydd cyfyngedig o “swigod” mewn sefydliadau byw â chymorth a rennir. Er y bwriad da, gallai rhai o’r arferion yma effeithio’n sylweddol ar hawliau, rhyddid a pherthnasoedd pobl ag anableddau dysgu, nid ydynt bob amser yn cydymffurfio â chanllawiau cenedlaethol ac felly gallent effeithio’n ddraconaidd anghymesur ar bobl ag anableddau dysgu sydd yn byw yn y sefydliadau yma.
Gweithlu ac argaeledd cymorth
- Mae gweithwyr cymorth yn adrodd eu bod yn teimlo’n flinedig iawn. Roedd y gweithlu wedi ei ddisbyddu o ganlyniad i bobl i ffwrdd yn sâl, yn hunanynysu neu ar ffyrlo. Eto mae hyn yn cael ei gefnogi gan Paradigm a phrofiadau lleol. Mae staff gofal cymdeithasol yn teimlo nad ydynt yn cael digon o gyflog na’u gwerthfawrogi’n ddigonol, yn arbennig o’u cymharu â chydweithwyr iechyd.
- Adroddodd Gwynedd bod ganddynt yr adeiladau ar gael er mwyn darparu gwasanaethau seibiant a dydd i bobl. Y broblem oedd diffyg argaeledd staff. Roedd rhaid blaenoriaethu gwasanaethau byw â chymorth 24 awr, oedd yn golygu bod oriau staff wedi eu cymryd oddi wrth opsiynau cymorth preswyl pwrpasol alai fod wedi lleihau’r straen ar deuluoedd.
Cynhwysiant digidol
- Adroddodd un darparwr byw â chymorth lleol am heriau o ran cefnogi pobl ag anableddau dysgu i gael mynediad i Zoom a thechnolegau eraill, oherwydd nid oedd gan staff amser i eistedd gydag unigolion.
- Diffyg sgiliau a gwybodaeth ymysg rhai sydd yn cefnogi pobl ag anableddau dysgu, diffyg mynediad neu fynediad cyfyngedig i’r rhyngrwyd a diffyg mynediad at offer yw’r prif rwystrau i gynhwysiant digidol.
- Mae gwasanaethau sydd statudol wedi nodi y byddent wedi hoffi gallu cynnig mwy o weithgareddau a chyfarfodydd rhithwir, ond nid oedd y seilwaith digidol a’r sgiliau ar gael i alluogi hynny.
- Adroddodd nifer o ddinasyddion ac eiriolwyr am amharodrwydd ymysg darparwyr a gofalwyr i ganiatáu pobl ag anableddau dysgu i gael mynediad i’r rhyngrwyd gan nodi ffactorau risg a chyfrinachedd.
Canllawiau ac argaeledd gwybodaeth hygyrch
- Cyfeiriodd asiantaethau at y pwysau o dderbyn nifer fawr o ganllawiau, fel arfer drwy e-bost gan nifer o awdurdodau ar adeg o bwysau ar eu gwasanaethau. Roedd hynny yn cael ei waethygu yn achos darparwyr cenedlaethol oedd yn gorfod ymgyfarwyddo â chanllawiau yng Nghymru a Lloegr.
- Er bod canllawiau hawdd eu darllen a fideos wedi bod yn fuddiol, nid yw cynhyrchu deunyddiau wedi bod yn amserol bob amser ac mae dosbarthu deunyddiau wedi bod yn ddarniog.