• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
    • Cymryd rhan
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
    • Anableddau dysgu
    • Iechyd meddwl
    • Plant a phobl ifanc
    • Gofalwyr
    • Dementia
    • Comisiynu
    • Gweithlu
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Engagements / Effaith Covid-19 ar iechyd meddwl a lles

Effaith Covid-19 ar iechyd meddwl a lles

LnRiLWZpZWxke21hcmdpbi1ib3R0b206MC43NmVtfS50Yi1maWVsZC0tbGVmdHt0ZXh0LWFsaWduOmxlZnR9LnRiLWZpZWxkLS1jZW50ZXJ7dGV4dC1hbGlnbjpjZW50ZXJ9LnRiLWZpZWxkLS1yaWdodHt0ZXh0LWFsaWduOnJpZ2h0fS50Yi1maWVsZF9fc2t5cGVfcHJldmlld3twYWRkaW5nOjEwcHggMjBweDtib3JkZXItcmFkaXVzOjNweDtjb2xvcjojZmZmO2JhY2tncm91bmQ6IzAwYWZlZTtkaXNwbGF5OmlubGluZS1ibG9ja311bC5nbGlkZV9fc2xpZGVze21hcmdpbjowfQ==
ICAgIC50Yi1jb250YWluZXIgLnRiLWNvbnRhaW5lci1pbm5lcnt3aWR0aDoxMDAlO21hcmdpbjowIGF1dG99IC53cC1ibG9jay10b29sc2V0LWJsb2Nrcy1jb250YWluZXIudGItY29udGFpbmVyW2RhdGEtdG9vbHNldC1ibG9ja3MtY29udGFpbmVyPSIzNGJlNjYwZGE5ZjNlMzcxMWY2NGQzYjUwZTQwYTVhNyJdIHsgYmFja2dyb3VuZDpsaW5lYXItZ3JhZGllbnQocmdiYSggMjM5LCAyMzUsIDIzNSwgMCApLHJnYmEoIDIzOSwgMjM1LCAyMzUsIDAgKSksICAgdXJsKCdodHRwczovL3d3dy5ub3J0aHdhbGVzY29sbGFib3JhdGl2ZS53YWxlcy93cC1jb250ZW50L3VwbG9hZHMvMjAyMS8wNi9zZmxfcW9ubXkwMC5qcGcnKSBjZW50ZXIgY2VudGVyIG5vLXJlcGVhdDtiYWNrZ3JvdW5kLXNpemU6YXV0bywgY292ZXI7cGFkZGluZzogMjVweCAwIDAgMDsgfSAudGItY29udGFpbmVyIC50Yi1jb250YWluZXItaW5uZXJ7d2lkdGg6MTAwJTttYXJnaW46MCBhdXRvfSAud3AtYmxvY2stdG9vbHNldC1ibG9ja3MtY29udGFpbmVyLnRiLWNvbnRhaW5lcltkYXRhLXRvb2xzZXQtYmxvY2tzLWNvbnRhaW5lcj0iZjA4YjBhNDRiMThkNTgxYTFlN2FiNWY2ZGM2Y2Q5YjMiXSB7IHBhZGRpbmc6IDA7ZGlzcGxheTptcy1mbGV4Ym94ICFpbXBvcnRhbnQ7ZGlzcGxheTpmbGV4ICFpbXBvcnRhbnQ7LW1zLWZsZXgtZGlyZWN0aW9uOmNvbHVtbjtmbGV4LWRpcmVjdGlvbjpjb2x1bW47LW1zLWZsZXgtcGFjazplbmQ7anVzdGlmeS1jb250ZW50OmZsZXgtZW5kOyB9IC50Yi1maWVsZHMtYW5kLXRleHRbZGF0YS10b29sc2V0LWJsb2Nrcy1maWVsZHMtYW5kLXRleHQ9ImU4Y2E2MDg4MDI4M2Y3MDY2YWQ5NmM5MDliMGEwMmE4Il0geyBiYWNrZ3JvdW5kLWNvbG9yOiByZ2JhKCAyNTUsIDI1NSwgMjU1LCAwLjcxICk7cGFkZGluZy10b3A6IDIwcHg7cGFkZGluZy1yaWdodDogMzBweDtwYWRkaW5nLWxlZnQ6IDMwcHg7IH0gLnRiLWNvbnRhaW5lciAudGItY29udGFpbmVyLWlubmVye3dpZHRoOjEwMCU7bWFyZ2luOjAgYXV0b30gLndwLWJsb2NrLXRvb2xzZXQtYmxvY2tzLWNvbnRhaW5lci50Yi1jb250YWluZXJbZGF0YS10b29sc2V0LWJsb2Nrcy1jb250YWluZXI9ImJhNzBjMTc5ZDUwNDEwNjY0MzhmYzhmZGY5ODgxNmViIl0geyBwYWRkaW5nOiAyNXB4OyB9IC53cC1ibG9jay10b29sc2V0LWJsb2Nrcy1jb250YWluZXIudGItY29udGFpbmVyW2RhdGEtdG9vbHNldC1ibG9ja3MtY29udGFpbmVyPSJiYTcwYzE3OWQ1MDQxMDY2NDM4ZmM4ZmRmOTg4MTZlYiJdID4gLnRiLWNvbnRhaW5lci1pbm5lciB7IG1heC13aWR0aDogODAlOyB9IC50Yi1maWVsZFtkYXRhLXRvb2xzZXQtYmxvY2tzLWZpZWxkPSJkODI4NDdmZTVlYjUyZjU5YmE3NzNhYmE1OTM5YjUzMCJdIHsgZm9udC1zaXplOiAyMHB4O3RleHQtYWxpZ246IGNlbnRlcjtiYWNrZ3JvdW5kLWNvbG9yOiByZ2JhKCAyNTUsIDI1NSwgMjU1LCAxICk7cGFkZGluZzogMTBweDtib3JkZXI6IDRweCBzb2xpZCByZ2JhKCAwLCAwLCAwLCAxICk7IH0gIEBtZWRpYSBvbmx5IHNjcmVlbiBhbmQgKG1heC13aWR0aDogNzgxcHgpIHsgICAgIC50Yi1jb250YWluZXIgLnRiLWNvbnRhaW5lci1pbm5lcnt3aWR0aDoxMDAlO21hcmdpbjowIGF1dG99LnRiLWNvbnRhaW5lciAudGItY29udGFpbmVyLWlubmVye3dpZHRoOjEwMCU7bWFyZ2luOjAgYXV0b30udGItY29udGFpbmVyIC50Yi1jb250YWluZXItaW5uZXJ7d2lkdGg6MTAwJTttYXJnaW46MCBhdXRvfSAgfSBAbWVkaWEgb25seSBzY3JlZW4gYW5kIChtYXgtd2lkdGg6IDU5OXB4KSB7ICAgICAudGItY29udGFpbmVyIC50Yi1jb250YWluZXItaW5uZXJ7d2lkdGg6MTAwJTttYXJnaW46MCBhdXRvfS50Yi1jb250YWluZXIgLnRiLWNvbnRhaW5lci1pbm5lcnt3aWR0aDoxMDAlO21hcmdpbjowIGF1dG99LnRiLWNvbnRhaW5lciAudGItY29udGFpbmVyLWlubmVye3dpZHRoOjEwMCU7bWFyZ2luOjAgYXV0b30gLndwLWJsb2NrLXRvb2xzZXQtYmxvY2tzLWNvbnRhaW5lci50Yi1jb250YWluZXJbZGF0YS10b29sc2V0LWJsb2Nrcy1jb250YWluZXI9ImJhNzBjMTc5ZDUwNDEwNjY0MzhmYzhmZGY5ODgxNmViIl0gPiAudGItY29udGFpbmVyLWlubmVyIHsgbWF4LXdpZHRoOiA2MCU7IH0gICB9IA==
Ymgynghoriad ynghylch yr effaith ar blant a phobl ifanc Wrecsam a Sir y Fflint

Lead Organisation:


Nod yr ymgynghoriad hwn oedd darganfod sut mae Pandemig y Covid wedi effeithio ar bobl ifanc 11 i 24 oed dros y flwyddyn ddiwethaf a pha gefnogaeth sydd ei hangen. Cafwyd oddeutu 290 ymateb, gyda’r mwyafrif o gyfranwyr o Wrecsam ac oddeutu 50 ymateb gan blant a phobl ifanc Sir y Fflint. Roedd y mwyafrif o’r cyfranwyr o fewn oedran ysgol, gydag oddeutu 8% rhwng 19 a 24 oed.

Darganfyddiadau’r arolwg

Roedd y mwyafrif o bobl ifanc, oddeutu 70%, yn gwybod sut i ganfod gwybodaeth ddibynadwy am y coronafeirws. Roeddent yn tueddu i ofyn am gefnogaeth gan deulu a/neu ffrindiau, gan athrawon/yn yr ysgol, ar y we a gan y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Glasoed (CAMHS).

Addysg oedd prif bryder pobl ifanc o ran effaith y coronafeirws ar eu dyfodol. Roedd y cyfranogwyr yn dweud eu bod nhw’n poeni am eu graddau, y gwaith a gollwyd, y blynyddoedd ysgol a gollwyd, eu hopsiynau, dysgu o adref, dyled prifysgol heb gael yr un profiad dysgu, dal i fyny â’r gwaith, diffyg trefn a ddim yn cael eu dysgu o gwbl am yr holl gynnwys sydd ei angen.

Plîs, Plîs, Plîs, dwi’n erfyn arnoch chi i gynnig rhywfaint o gymorth gydag ein TGAU, oherwydd mae’n hollol annheg ein bod ni wedi colli dros flwyddyn o weld ein ffrindiau a’n teuluoedd ac mae wedi cael effaith ar ein hiechyd meddwl.

Yr hyn yr oedd pobl ifanc yn gweld ei eisiau fwyaf oedd teulu a ffrindiau, cymdeithasu a mynd allan. Dywedodd rhai hefyd bod eu perthnasau ag eraill wedi gwella, megis teimlo’n agosach at deulu a’i gweld yn haws siarad â ffrindiau mewn gwahanol ysgolion.  

Mynegodd oddeutu 60% o’r cyfranogwyr bod eu hiechyd meddwl wedi newid mewn modd negyddol a dywedodd 30% eu bod wedi gorfod cael cefnogaeth gyda’u hiechyd meddwl a’u lles dros y flwyddyn ddiwethaf. Nifer fach (30%) o gyfranogwyr oedd o’r farn bod eu hiechyd meddwl wedi gwella.

Ro’n i’n ei gweld hi’n anoddach delio â straen, yn enwedig pan es i’n ôl i’r ysgol.

Mae wedi gwella gan nad oes gennyf gymaint o bethau i boeni amdanynt o ran yr ysgol ac athrawon. Dwi hefyd wedi dod yn fwy hyderus.

Prif bryder 17% o’r atebwyr oed dal neu ledaenu Covid-19 a’r risgiau i’w teuluoedd a’u ffrindiau.

Yr hyn sy’n fy mhryderu fwyaf ar y funud yw fy mod i, aelodau o fy nheulu neu fy ffrindiau yn dal y feirws a chael yn wael iawn a gorfod mynd i’r ysbyty neu hyd yn oed y posibilrwydd o farw.

Ges i’r Covid tra’r oeddwn yn byw gyda fy nhaid. Mae’n debygol iawn ei fod wedi ei ddal gennyf i a bu farw. Nawr, bydd rhaid i mi fyw gyda’r euogrwydd am byth.

Dywedodd nifer fach o gyfranogwyr, oddeutu 3%, fod y pandemig wedi cael effaith ar eu hiechyd corfforol, gan gynnwys arferion bwyta a chysgu, colli apwyntiadau iechyd a ffitrwydd. Dywedodd oddeutu 12% o’r cyfranogwyr eu bod nhw neu’r teulu wedi gorfod cael cymorth ariannol dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys cymorth budd-daliadau. Dywedodd llai na 5 o bobl ifanc eu bod nhw angen cyngor a chefnogaeth ynghylch gamblo.  


Contact

Date completed

Tagged With: Ansawdd Bywyd, boddhad bywyd, coronafeirws, emosiynol, glasoed, hapus, hapusrwydd, ieuanc, ieuenctid, ifanc, llanc, Lles, meddyliol, oed ysgol, oedolion ifanc, oedolyn ifanc, person ifanc, person yn ei arddegau, plant, plentyn, SARS, SARS-CoV-2

Primary Sidebar

Negeseuon Diweddar

Digwyddiad Dweud Straeon

Canolbwyntio ar niwroddatblygiad

Elderly man using RITA

Defnyddwyr RITA yng Ngogledd Cymru yn uno

  • Y Bws Dementia – gofalwyr yn gweld y goleuni
  • Dewch o hyd i Gartrefi Gofal yng Nghymru sy’n diwallu’ch anghenionchi.
  • Canolbwynt ar anabledd a salwch

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

@CoproNetWales Member logo

Copyright © 2023 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital