Lead Organisation: BIPBC
Yn ystod mis Mehefin a mis Gorffennaf 2020 rhannodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) arolwg ar-lein, a bu i oddeutu 560 o bobl gymryd rhan ynddo.
Apwyntiadau wedi’u newid neu’u canslo
Gwelodd yr arolwg fod llawer o’r cyfranogwyr wedi’u heffeithio gan orfod newid eu hapwyntiadau yn ystod yr argyfwng, yn enwedig apwyntiadau deintyddol, meddyg teulu, cleifion allanol ac optegwyr. Dewisodd niferoedd bychain i beidio â mynd i apwyntiadau oherwydd eu bod yn bryderus ynghylch dal y feirws, ddim eisiau cymryd amser gweithwyr iechyd neu oherwydd eu bod yn gwarchod eu hunain. Pan ofynnwyd beth fyddai wedi’u hannog i fynd i apwyntiadau, yr ymatebion mwyaf cyffredin oedd derbyn sicrwydd ynghylch pwysigrwydd yr apwyntiad, cyfarwyddiadau a chyngor clir a derbyn cyfarpar diogelu personol.
Roedd apwyntiadau oddeutu 300 o bobl wedi’u canslo. O’r rhain dywedodd 43% fod canslo’r apwyntiad wedi effeithio ar eu cyflwr a dywedodd traean fod eu symptomau wedi gwaethygu. Bu i lawer o’r cyfranogwyr grybwyll deintyddion.
Dant wedi malu wedi arwain at fwy o boen. Dydi deintyddion ddim yn gwneud llenwadau, dim ond tynnu dannedd.
Cyfranogwr
Ymgynghoriadau dros y ffôn a fideo
Roedd 76% o’r bobl a gymerodd ran yn yr arolwg ac a gafodd ymgynghoriad dros y ffôn neu fideo wedi cael profiadau cadarnhaol.
System dda iawn a ddylai gael ei defnyddio ar ôl y pandemig.
Sydyn a hawdd. Dim o’r oedi hir arferol yn aros yn y feddygfa.
Cyfranogwr
Fodd bynnag, ni chafodd 24% brofiadau da. Mae rhai pobl sy’n defnyddio gwasanaethau wedi cael trafferth gyda thechnoleg; mae gwasanaethau ar-lein yn llai hygyrch i rai pobl; mae rhai yn colli’r cyswllt dynol ac mae’r gagendor digidol yn cynyddu.
Ddim yn bersonol, methu darllen iaith y corff na mynegiad yr wyneb.
Roedd yn anodd ceisio egluro wrth y meddyg teulu dros y ffôn sut oeddwn i’n teimlo gyda symptomau lluosog.
Cyfranogwr
Ymweliadau ysbyty
Ar ddechrau Covid-19 cafodd pobl eu hatal rhag mynd i ymweld â phobl mewn ysbytai. Roedd gan oddeutu 15% o’r cyfranogwyr berthynas yn yr ysbyty gyda hanner y rhain wedi llwyddo i gadw mewn cysylltiad â’r unigolyn yn yr ysbyty. Y prif ffyrdd o gadw mewn cysylltiad oedd ffonau symudol, iPads, anfon negeseuon ymlaen neu dderbyn caniatâd i ymweld.
Mae’r staff nyrsio yn Ysbyty Maelor wedi gwneud eu gorau glas i’m cadw i mewn cysylltiad â’m mam yn yr ysbyty.
Cyfranogwr
Ond pan nad oedd modd cadw mewn cysylltiad roedd hynny’n ofid mawr i deuluoedd.
Roedd y diffyg cyswllt yn annioddefol bron ac roedden nhw’n gwneud i ni deimlo’n niwsans fel teulu bob tro’r oeddem ni’n ffonio.
Cyfranogwr
Gwasanaethau brys
Roedd yna brofiadau da o ddefnyddio’r gwasanaethau brys yn ystod y pandemig, gyda phobl yn gwerthfawrogi’r ymdrechion i drin pobl heb fynd â nhw i’r adran frys. Er enghraifft, drwy ragnodi gwrthfiotigau ar gyfer heintiau yn y glust dros y ffôn a gwneud diagnosis yn seiliedig ar luniau a dderbyniwyd.
Roedd fy nhad yn wael iawn efo UTI. Bu i ni ddefnyddio’r meddyg y tu allan i oriau a awgrymodd ein bod ni’n galw 999. Fe gawsom ni baramedrig a doctor ar ddyletswydd anhygoel a gadwodd fy nhad draw o’r ysbyty gan ei fod mor wael ac na fyddem ni wedi gallu ei weld yn ystod ei ddyddiau olaf. Fe ddaethon nhw â’r ysbyty i’w gartref. Tîm arbennig o nyrsys.
Cyfranogwr
Cymorth emosiynol
Creodd Covid-19 lefel uchel o orbryder a phoen meddwl i lawer o bobl. Dywedodd chwarter o’r cyfranogwyr bod arnyn nhw angen cymorth emosiynol yn ystod y cyfnod hwn. Derbyniodd y rhan fwyaf gymorth gan deulu, ffrindiau neu gymdogion (64%), ond defnyddiwyd adnoddau eraill fel gwybodaeth ymwybyddiaeth ofalgar ar-lein, practisau meddygon teulu, llinellau cymorth, sesiynau cwnsela ar-lein a chymorth cymunedol a gwirfoddol lleol.
Cymorth fferylliaeth
Roedd y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr wedi gallu derbyn y meddyginiaethau yr oedden nhw eu hangen ac yn fodlon ar y gwasanaeth a dderbyniwyd a bu i lawer o bobl ddefnyddio’r fferyllfa leol yn hytrach na meddyg teulu. Roedd yna sylwadau cadarnhaol gan bobl a welodd y gwasanaeth hwn yn ddefnyddiol dros ben ac roedd y sylwadau negyddol yn bennaf yn ymwneud ag amser ciwio neu brinder meddyginiaethau.
Mynediad at wybodaeth
Y 5 prif ffynhonnell wybodaeth a ddefnyddiwyd gan bobl yn ystod y cyfnod clo oedd:
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Llywodraeth Cymru
- Teledu
- Cyfryngau cymdeithasol
- Gwefannau
Roedd ffynonellau gwybodaeth eraill yn cynnwys gwybodaeth ar wefan y bwrdd iechyd, grwpiau cymunedol lleol, sefydliadau trydydd sector, cyflogwyr a gwybodaeth ar dafod leferydd. Dywedodd y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr fod yr wybodaeth gan y bwrdd iechyd yn ddefnyddiol, yn hawdd ei chael ac ar ffurf hygyrch ond roedd rhai wedi cael anawsterau wrth ganfod yr wybodaeth angenrheidiol neu wedi gweld oedi wrth dderbyn gwybodaeth.
Gwelwch hefyd: Sgyrsiau Covid: Sgyrsiau Partneriaid