Lead Organisation: Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
Mae 164 o bobl sy’n byw yng Nghaergybi wedi rhannu eu safbwyntiau gyda ni am ofal dementia da, cymuned a’r gefnogaeth a chymorth y mae pobl sy’n byw gyda dementia eu hangen. Dyma beth oedd ganddynt i’w ddweud wrthym.
Beth yw gofal dementia da.
- Pobl yn cael eu trin gyda thrugaredd, dealltwriaeth ac amynedd.
- Mae gofal yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac wedi’i seilio ar yr hyn sydd o bwys i’r unigolyn.
- Gall pobl wneud eu dewisiadau a phenderfyniadau eu hunain am eu gofal.
- Mae gofalwyr di-dâl, teulu a ffrindiau yn cael eu cefnogi hefyd ac yn cael cyfleoedd i gael seibiant o ofalu.
- Gofal a chymorth yn y lle iawn ac mor agos â phosibl i’w cartref.
- Cymorth a gofal ar yr adeg iawn.
- Mynediad at wybodaeth a chyngor
- Gofal ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Mae digonedd o ddewis o ran grwpiau a gweithgareddau i bobl.
- Cymunedau cynhwysol a hygyrch, sy’n deall dementia.
- Pobl yn derbyn y gefnogaeth ymarferol sydd ei hangen arnynt.
- Mynediad gan bobl at ofal iechyd da.
- Dylai gofal gael ei ariannu’n ddigonol.
- Dylai gweithwyr gofal gael eu talu a’u hyfforddi’n dda.
- Gwasanaethau yn cydweithio i ddarparu gofal integredig sy’n bodloni anghenion pobl.
Beth ddylai fod ar gael i bobl sy’n byw gyda dementia
Y math o ofal a ddisgrifir uchod, gan gynnwys mynediad at ystod eang o weithgareddau sy’n addas ar gyfer yr unigolyn; mynediad at ofal a chymorth, cefnogaeth ymarferol ac ariannol a chymorth gyda budd-daliadau, cludiant; anghenion gofal iechyd ehangach; gwybodaeth a chyngor; cymorth i ofalwyr di-dâl; hyfforddiant a mwy o ymwybyddiaeth.
Beth mae’r gymuned yn ei olygu i chi.
Beth yw’r pethau a fydd yn helpu pobl sy’n byw gyda dementia?
- Cael y gofal a’r cymorth maent eu hangen.
- Mynediad at ofal iechyd da.
- Cymorth i ofalwyr di-dâl.
- Cefnogaeth gymunedol a grwpiau lleol.
- Cludiant.
- Creu cymuned sy’n deall dementia.
- Gwasanaethau ac amgylcheddau hygyrch.
- Ei gwneud yn haws cael mynediad at gymorth.
- Cymorth ariannol a chyllid.
- Technoleg a chymhorthion eraill.