North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
    • Cymryd rhan
    • Rhaglen drawsnewid
      • Anableddau dysgu
      • Iechyd meddwl
      • Plant a phobl ifanc
      • Gwasanaethau Cymunedol
    • Gofalwyr
    • Dementia
    • Comisiynu
    • Gweithlu
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Blog / Ffair Swyddi Rithiwr Gofal Gogledd Cymru 2021

Ffair Swyddi Rithiwr Gofal Gogledd Cymru 2021

14/09/2021

Mae Ffair Swyddi Rithiwr ar gyfer y sector Gofal Cymdeithasol yn cael ei chynnal i gefnogi y rheiny sydd yn chwilio am waith ynghyd a chefnogi darparwyr, a hynny drwy rannu ac amlygu swyddi a chyfleoedd gwag yn y sector. Nod y diwrnod ydi cael mwy o bobl i fwynhau gyrfa gwobrwyol a boddhaus.

Mae’r digwyddiad dwyieithog yma yn cymryd lle dydd Gwener y 1af o Hydref rhwng 12 – 3yp a hynny drwy blatfform digwyddiadau Facebook. Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal gan dîm Gofalwn Cymru y Gogledd.

Fydd pobl wastad angen gofal. Nod y digwyddiad yma ydi gwarantu bod ni’n darganfod mwy o bobl gyda’r gwerthoedd a’r sgiliau cywir i weithio yn y maes. Mae’r digwyddiad yn agored i unrhyw un; unigolion sydd yn chwilio am waith, y di-waith, unigolion sydd yn gwynebu diwedd ffyrlo a rheiny sydd wedi neu yn ystyried newid llwybr o ganlyniad i’r pandemig. Bydd hefyd yn targedu y rheiny sydd ond megis cychwyn ar eu llwybrau gyrfa.

Mae rhaid i gyflogwyr sydd eisiau cymryd rhan gofrestru a chwblhau profforma erbyn yr 20fed o Fedi. Cyfrifoldeb y cyflogwr ydi gwarantu bod dyddiadau cau y swyddi caiff eu hysbysebu wedi’r 1af o Hydref. Gallwch dderbyn mwy o wybodaeth a derbyn y canllawiau i ddarparwyr drwy gysylltu hefo Gwenno ar;

GwennoAngharadWilliams@gwynedd.llyw.cymru

Dyma ddolen i’r digwyddiad; https://fb.me/e/2DRRIkTGq

Mae’n rhaid cofrestru fel mynychu i dderbyn unrhyw ddiweddariadau ac i rannu swyddi a chyfleon.

Welwn i chi yna.

Ffeiliwyd dan: Blog

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Chwilio

Negeseuon Diweddar

Pwy sy’n cael eu ystyried yn ofalwr?

Wythnos Gofalwyr 6 – 12 Mehefin 2022

Dros 55? SBARC yn edrych am gyfranogwyr.

  • Gogledd Cymru gyda’n Gilydd – Mai 2022
  • DIAGNOSIS O DDEMENTIA
  • Diagnosis o Dementia?

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

Copyright © 2022 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital