North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Anableddau dysgu
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
      • Am asesiad poblogaeth Gogledd Cymru
      • Ymgynghoriad
      • Themâu a phenodau
      • Cynllun Rhanbarthol
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
    • Comisiynu
    • Cymryd rhan
    • Diogelu
    • Gweithlu
    • Gofalwyr
    • Integreiddio
  • Blog
  • Digwyddiadau
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Blog / Fframwaith Iechyd a Lles ar gyfer y Gweithlu Gofal Cymdeithasol

Fframwaith Iechyd a Lles ar gyfer y Gweithlu Gofal Cymdeithasol

30/11/2020

Ydych chi’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru? Hoffai Gofal Cymdeithasol Cymru gael eich barn fel aelod o’r gweithlu gofal cymdeithasol sy’n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi pobl yn y gymuned

Mae cyflenwi gofal cymdeithasol yn dibynnu’n gyfan-gwbl ar bobl fel chi sydd wedi parhau i ddarparu gofal a chymorth o ansawdd yn ystod y cyfnod anodd a heriol iawn hwn. Mae pawb yn deall y pwysau anferth rydych wedi ei brofi a’r gofal, ymroddiad a’r ymrwymiad y mae staff fel chi wedi ei wneud bob dydd. Mae iechyd a lles y gweithlu nawr hyd yn oed yn bwysicach.

Mae Gofal Iechyd Cymru wedi rhoi iechyd a lles ar flaen ei strategaeth gweithlu ac wedi gofyn i Practice Solutions helpu i ddatblygu fframwaith iechyd a lles. Bydd y prosiect hwn yn amlygu iechyd a lles a sut caiff hyn ei fesur. Bydd hefyd yn ystyried yr hyn rydych yn ei ddisgwyl gan eich cyflogwr ac, yn ei dro, beth mae eich cyflogwr yn ei ddisgwyl gennych chi, y blaenoriaethau ar gyfer iechyd a lles da, a’r hyn sydd angen ei wneud i’w wella.

Mae eich barn yn bwysig i sicrhau bod y fframwaith iechyd a lles hwn yn adlewyrchu’r hyn y mae’r gweithlu ei angen, er mwyn eich cefnogi yn briodol.

Rydym yn trefnu nifer o ffyrdd i chi leisio barn ar iechyd a lles a ffactorau eraill sy’n creu amgylchedd a diwylliant gwaith da. Yn yr wythnosau nesaf, bydd cyfle i chi leisio eich barn.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gwaith hwn, neu’r cyfle i chi leisio eich barn, peidiwch â phetruso i gysylltu â ni – wellbeing@practicesolutions-ltd.co.uk neu cysylltwch â mi, Glenda George, yn uniongyrchol ar 01443 742384.

Ffeiliwyd dan: Blog

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Chwilio

Negeseuon Diweddar

Recriwtio gofal

Datganiad i’r Wasg Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru 2019/20.

Ffair swyddi rithiol gofal Gogledd Cymru

Cyfres Gweithdy: Labordai Byw ar gyfer Cymru Iachach

  • Recriwtio gofal
  • Cyfres Gweithdy: Labordai Byw ar gyfer Cymru Iachach
  • Cwestiynau Cyffredin Labordai Byw
  • Mae Hac Iechyd Cymru yn ei ôl!

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

Copyright © 2020 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital