Ydych chi’n darparu gofal i rywun sydd ag angen gwasanaethau gofal a chymorth
Eisiau chwarae rhan allweddol wrth wneud penderfyniadau am Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Cymru?
Os felly, gallai hyn fod i chi.
Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn recriwtio cynrychiolydd Gofalwyr i’w Fwrdd.
Rydym yn bwriadu recriwtio cynrychiolydd Gofalwyr i ymuno â’r Bwrdd o fis Mawrth 2023 am gyfnod o 2 flynedd.
Er mwyn darparu cyfleoedd i gynrychiolwyr Gofalwyr o’r rhanbarth cyfan ni ddylai cynrychiolwyr Gofalwyr blaenorol ailymgeisio nes bod cyfnod o 3 blynedd wedi mynd heibio o ddiwedd y tymor blaenorol ar y bwrdd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am y cyfle cyffrous hwn cysylltwch â Catrin Roberts Pennaeth Cydweithredu Rhanbarthol (Catrin.Roberts@sirddinbych.gov.uk) 01824712521
Mynegiadau o ddiddordeb i’w cyflwyno i: Catrin.Roberts@denbighshire.gov.uk erbyn Dydd Gwener 24ain o Chwefror 2023.
Catrin Roberts
Pennaeth Cydweithredu Rhanbarthol
Swyddfa’r Sir, Ffordd Wynnstay
Rhuthun, LL15 9AZ
