Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn cydnabod y rôl allweddol mae gofalwyr yn ei chwarae yn yr amgylchedd iechyd a gofal cymdeithasol, a bod angen iddynt gael eu gwerthfawrogi am y cymorth mae nhw’n ei ddarparu.
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn deddfu am rhagor o hawliau i ofalwyr ac sy’n symleiddio a chyfuno’r gyfraith, gan roi hawliau cyfartal iddynt am y tro cyntaf â’r unigolyn maen nhw’n gofalu amdano.
Rydym wedi llunio strategaeth ar gyfer Gofalwyr o bob oedran yng Ngogledd Cymru, sydd yn cydnabod pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth gyda gofalwyr o bob oedran drwy eu cyswllt gyda gwasanaethau.
Mae’r strategaeth yn disgrifio ‘Cynnig Gofalwyr’ a safonau gwasanaethau
- Bod gofynion unigol gofalwyr, yn cynnwys iaith, yn cael ei cwrdd yn y ffordd orau
- Bod gofalwyr yn dod i’r meddwl cyn gynted a’r person sy’n derbyn gofal.
Rydym hefyd eisiau sicrhau bod:
- Gwasanaethau yn cael ei darparu yn gyson
- Ceir gweth ychwanegol trwy weithio ar y cyd
- Gwasanaethau ac arian ddim yn cael ei ddyblygu
- Rydym yn glynu wrth yr arferion gorau
Rydym yn ymrwymedig i:
- Hyrwyddo ymwybyddiaeth gyffredinol o ofalwyr a gofalu am y boblogaeth ehangach ac i’r holl weithwyr perthnasol yn y sector iechyd a gofal
- Meddwl am ofalwyr wrth gomisiynu ac asesu anghenion, gan roi sylw i wledig rwydd a’r rhai sydd bellaf o wasanaethau am resymau eraill
- Cynnwys gofalwyr o bob grŵp a chymuned mewn prosesau gwneud penderfyniadau a chynllunio
- Adnabod gofalwyr yn gynnar ar y cyswllt cyntaf a’r gwasanaethau
Yr hyn mae Gofalwyr wedi ei ddweud wrthym ni
Wrth lunio’r strategaeth, roedd yna ffocws ar edrych trwy lygaid gofalwyr i ddeall beth sy’n bwysig iddynt a beth fydd yn cyfrannu at les ac yn gwella eu hamgylchiadau. Mi wnaeth gofalwyr ddweud wrthym bod:
- Mae cefnogaeth ddibynadwy o ansawdd da i’r rhai sy’n derbyn gofal o’r pwys mwyaf ac mae’n cyfrannu at eu lles fel gofalwyr;
- Maent wir yn gwerthfawrogi’r ystod o gefnogaeth a ddarperir gan sefydliadau’r trydydd sector;
- Maent yn gwerthfawrogi bod pobl sy’n gyfrifol am ddylunio a darparu gwasanaethau ar eu cyfer a’r person y maent yn gofalu amdanynt yn gwrando arnynt, yn cael eu cydnabod, eu parchu a’u clywed.
LLYWODRAETHU AC ATEBOLRWYDD
Mae ein Grŵp Gweithredol Gofalwyr Gogledd Cymru yn cael ei gadeirio gan Cyfarwyddwr Ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; ei fwriad yw:
- Symud mlaen â dull gweithredu sy’n seiliedig ar bartneriaeth er mwyn darparu cyfeiriad gweithredol, cyngor a chydlynu gwasanaethau sy’n cefnogi gofalwyr
- Gweithredu a monitro’r modd y cyflawnir Strategaeth Gofalwyr Gogledd Cymru, gan oruchwylio cynnydd ac adrodd ar hyn trwy strwythurau llywodraethu cytunedig Llywodraeth Cymru
- Goruchwylio’r gwaith o gynllunio a darparu gweithgareddau sy’n cael eu hariannu o’r Grant Gofalwyr Rhanbarthol, gan gynnwys llunio’r adroddiad blynyddol;
- Cyflwyno rhaglen waith y cytunwyd arni gyda’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru;
- Rhanu arfer gorau a dysgu