Yr ymdrechion i wella gofal cymdeithasol, iechyd a lles trigolion ar draws Gogledd Cymru oedd un o’r eitemau allweddol ar yr agenda ar gyfer ymweliad gan Weinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca Davies AC yn ddiweddar.

Gwahoddwyd Mr Davies i gyfarfod Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gogledd Cymru yn Llanelwy, lle clywodd sut mae awdurdodau lleol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Beti Cadwaladr a phartneriaid i gyd yn cydweithio ar fentrau ar y cyd sy’n cael effaith uniongyrchol ar iechyd, lles pobl ac annibyniaeth.
Clywodd Mr Davies am rai o gyflawniadau’r Bwrdd hyd yn hyn, gan gynnwys cwblhau asesiad anghenion poblogaeth a chreu cynllun ardal; lansio gwefan ranbarthol; datblygu strategaeth gweithlu; cydweithio gyda’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gweithio tuag at ofalwyr. Gwnaed gwaith hefyd ar dreialu cyfuno cyllidebau i mewn i un gronfa a gwneud y defnydd gorau o’r arian sydd ar gael ar draws rhanbarth Gogledd Cymru, er mwyn sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu hintegreiddio.
Meddai’r Cynghorydd Gareth Roberts, Cadeirydd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol: “Roeddem wrth ein bodd bod Mr Davies yn gallu ymuno â ni, i glywed am y gwaith gwych sy’n digwydd yn ein rhanbarth. Mae gennym uchelgais mawr yng Ngogledd Cymru ac mae’n ymwneud â rhoi pobl yn gyntaf, gan gynllunio ein gwasanaethau o amgylch anghenion trigolion.
“Mewn rhanbarth fel un ni, mae rhannu adnoddau, profiadau a sgiliau yn hanfodol. Mae gan bob un ohonom nod gyffredin ac mae ymrwymiad cadarn gan yr holl sefydliadau sy’n gysylltiedig â gwneud y freuddwyd hwnnw’n realiti.
“Wrth gwrs, mae gwaith ar ôl i’w wneud ac mae gennym gynllun clir ar gyfer symud ymlaen. Rydym yn cydweithio mewn ystod o wahanol feysydd, gan gynnwys pobl hŷn a phlant ag anghenion cymhleth; pobl ag anableddau dysgu; gofalwyr ac iechyd meddwl.
“Mae sicrhau bod gan ein staff yr hyfforddiant a’r sgiliau cywir hefyd yn rhan hanfodol o’n cynlluniau yn y dyfodol”.
Dywedodd Huw Irranca-Davies: “Roeddwn yn falch iawn o fynychu cyfarfod Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru i glywed am eu cynnydd wrth ddarparu gwasanaethau gofal integredig a chynaliadwy sy’n gwella lles pobl. Mae’r ddogfen Cymru Iachach- Ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi’n glir uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau di-dor. Roedd yn ofynnol i fyrddau partneriaeth rhanbarthol sefydlu cronfeydd cyfun mewn perthynas â darparu llety cartrefi gofal i oedolion o fis Ebrill. Roeddwn yn arbennig o falch o ddysgu am y gronfa gyfun a sefydlwyd yng Ngogledd Cymru ac i drafod manteision yr ymagwedd hon i gefnogi comisiynu gwirioneddol ar y cyd. “