Beth yw’r Rhaglen Blas ar Ofal:
Mae Blas ar Ofal yn ceisio mynd i’r afael â’r angen am staff proffesiynol cynaliadwy â chymwysterau da yn y Sector Gofal.
Nodir cyfranogwyr sydd â diddordeb mewn dechrau eu gyrfa ym maes Gofal Cymdeithasol. Maent yn derbyn gwybodaeth am gyfleoedd am swyddi, manylion hyfforddiant gorfodol a beth a ddisgwylir ganddynt wrth ddechrau yn y gweithle.
Unwaith y bydd y rhaglen orfodol wedi’i chwblhau ac mae’r cyfranogwyr yn “barod am swyddi”, ceir lleoliadau (yn amodol ar gyfweliad anffurfiol llwyddiannus) am o leiaf 8 awr yr wythnos am 4 wythnos i ddarparu profiad ymarferol.
Pwy sy’n gymwys ar gyfer y rhaglen?
- Rhai sy’n ddi-waith ac yn hawlio budd-daliadau
- Ddim mewn addysg neu hyfforddiant
- Yn dod i ddiwedd cwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Unrhyw un sy’n chwilio am gyfle i dderbyn cymwysterau a chyflogaeth yn y Sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
- Rhai sydd â diddordeb mewn dysgu am y gwahanol gyfleoedd a derbyn profiad gwaith gwerthfawr.
Beth sydd dan sylw:
- Mynychu 2 sesiwn rhithiol sy’n darparu gwybodaeth am Ofal Cymdeithasol, manylion y rhaglen a sut i chwilio a gwneud cais am swyddi gwag.
- Llenwi dogfennau perthnasol i gynnwys ffurflen datganiad DBS ac iechyd
- Sicrhau geirda
- Cwblhau modiwlau e-ddysgu gorfodol trwy borth
- Mynychu lleoliad 4 wythnos o 8 awr yr wythnos naill ai mewn lleoliad iechyd neu ofal cymdeithasol
Tasgau y gellir eu cyflawni yn ystod y lleoliad:
- Sicrhau bod lles corfforol ac emosiynol y trigolion yn cael eu diwallu
- Cymorth gyda gweithgareddau fel garddio, darllen, gwylio ffilmiau a hel atgofion
- Cefnogi y trigolion drwy gynnal amgylchedd cartref glân a chyfforddus
- Cynorthwyo trigolion drwy weini prydau bwyd a chefnogi gyda maeth a hydradu lle bo angen.
- Help gyda dyletswyddau glanhau a golchi dillad yn unol ag anghenion y cartref.
Cefnogi:
Bydd cymorth ar gael gan Fentor Cyflogaeth tra ar leoliad i sicrhau bod unrhyw gwestiynau neu faterion yn cael eu datrys.
Yn dilyn y lleoliad:
Bydd cyfranogwyr yn gallu defnyddio eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u cymwysterau i wneud cais am nifer o swyddi gwahanol ym maes Gofal Cymdeithasol.
Sut i ymgeisio:
E-bost: cydweithredfagogleddcymru@sirddinbych.gov.uk
Darparu enw a manylion cyswllt
Neu archebwch yn uniongyrchol trwy Eventbrite:
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Rebecca Szekely, Mentor Cyflogaeth : 01824 712 437 szekely.rebecca@denbighshire.gov.uk
