• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
    • Cymryd rhan
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
      • Anableddau dysgu
      • Iechyd meddwl
      • Plant a phobl ifanc
    • Gofalwyr
    • Dementia
    • Comisiynu
    • Gweithlu
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Blog / Gwella iechyd a gofal cymdeithasol: beth sydd angen digwydd

Gwella iechyd a gofal cymdeithasol: beth sydd angen digwydd

09/08/2021

Canfyddiadau arolwg staff iechyd a gofal cymdeithasol ynghylch ymchwil, arloesi a gwelliant yng Ngogledd Cymru.

Cynhaliodd Hwb Cydlynu Ymchwil, Arloesi a Gwelliant Gogledd Cymru arolwg rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2021 i ddarganfod beth oedd staff yn credu sydd angen newid er mwyn cefnogi ymchwil ac arloesi a gwella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Roedd y gwaith hwn yn rhan o brosiect parhaus sydd hefyd yn defnyddio cyfweliadau a gweithdai i ddatblygu’r syniadau hyn ymhellach.

Ymatebodd 20 o bobl i’r arolwg o amrywiaeth o sefydliadau gan gynnwys y GIG, cynghorau lleol, prifysgolion a’r trydydd sector.  Roedd y nifer hwn yn isel o’i gymharu ag arolygon eraill yr ydym yn eu cyhoeddi yn yr un modd. Gall hyn fod oherwydd bod staff yn brysur iawn ar hyn o bryd, ond fe allai hefyd awgrymu nad oedd pobl yn credu ei fod yn berthnasol iddyn nhw, neu efallai nad oedd ganddynt lawer i’w ddweud am y pwnc. Diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran.

Ynglŷn â’r cyfranogwyr

Dywedodd pob un o’r cyfranogwyr eu bod yn cymryd rhan mewn gwaith ymchwil, arloesi neu welliant fel rhan o’u rôl.  Roedd hyn yn cynnwys:

  • Ymgymryd â gwaith ymchwil gan gynnwys ymchwilio i ganser neu ymchwilio i ddulliau gwasanaeth newydd.
  • Cefnogi datblygiad gwaith ymchwil gan gynnwys addysgu, dygyfor gwybodaeth, hyrwyddo gwaith ar y cyd ac arferion yn seiliedig ar dystiolaeth.
  • Dadansoddi data a gwybodaeth fusnes i gefnogi gwelliant gwasanaeth.
  • Ymgysylltu ac ymgynghori ar newid a datblygiad gwasanaethau.
  • Gwerthuso gwasanaethau ac adolygiadau gwasanaeth.
  • Treialu technolegau arloesol.
  • Archwiliadau a phrosiectau gwella ansawdd.

Beth sy’n gweithio’n dda ar hyn o bryd

Rhannodd nifer o gyfranogwyr enghreifftiau o beth sy’n gweithio’n dda ar hyn o bryd. Roedd hyn yn cynnwys:

  • Cefnogaeth ar gyfer ymchwil, arloesi a gwelliant
  • Cyfranogiad a chyfathrebu
  • Amser dynodedig i wneud gwaith ymchwil a gwerthusiadau gyda chefnogaeth gan yr uwch dîm rheoli.
  • Cyllid i roi prosiectau newydd ar waith a darparu cyfleoedd hyfforddiant a datblygu i staff a myfyrwyr.
  • Strwythurau diwylliannol a threfniadol sy’n helpu i sicrhau gwelliant
  • Ymgysylltu a chydgynhyrchu        

Beth sy’n gweithio’n dda?

Adran ymchwil drefnus yn y bwrdd iechyd: trefniadau sefydliadol, nyrsys ymchwil, partneriaid.

Creu’r Hwb Cydlynu Ymchwil, Arloesi a Gwelliant – dyma ble rwy’n mynd i gael cyngor, cyfarwyddyd a chymorth.

Mae defnyddio technoleg ddigidol wedi gwella cyfleoedd cyfathrebu a’r potensial i weithio ar y cyd.

Beth y gellir ei wella?

Roedd digon o le i wella yn y meysydd hyn hefyd. Soniodd cyfranogwyr am y canlynol:

  • Cefnogaeth ar gyfer ymchwil, arloesi a gwelliant gan gynnwys arbenigedd mewn helpu i ysgrifennu ceisiadau grant a chodi ymwybyddiaeth am y gefnogaeth sydd ar gael, megis cynllun Cymuned yr Ysgolorion.
  • Cydweithio a chyfathrebu gan gynnwys cyfeiriad cyffredinol cliriach; cefnogi pobl i gyfarfod a rhwydweithio; gwerthfawrogi, cyhoeddi a rhannu enghreifftiau o ymchwil, arloesi a gwelliant; helpu pobl i ddod o hyd i ddiddordebau a rannir a dysgu gan ei gilydd.
  • Yr angen am ragor o gyllid
  • Diwylliant ac arweinyddiaeth. Rôl ymchwil ac arloesi fel offer i gefnogi canlyniadau gwell i ddinasyddion a’r angen am arweinyddiaeth da i werthfawrogi ymchwil, arloesi a gwelliant a rhoi cyfleoedd a chefnogaeth i staff arbrofi.
  • Ymgysylltu a chyd-gynhyrchu: rhagor o bwyslais ar gyd-gynhyrchu, yn arbennig o ran arloesi a pholisïau, peidio â gwneud addewidion gwag, a sicrhau bod gofalwyr a’r bobl sy’n defnyddio gwasanaethau’n derbyn gwybodaeth.
  • Blaenoriaethau ymchwil ac arloesi mewn gwaith i’r dyfodol.  

Beth y gellir ei wella?

Rhagor o gefnogaeth, cyngor, gweithgorau a hyfforddiant ar gyfer prosiectau bychain i alluogi pobl i ymgyfarwyddo ag ymchwil a magu’r hyder a’r sgiliau i datblygu hyn.

Sut gall yr hwb eich cefnogi chi?

Dywedodd cyfranogwyr y gallai Hwb Cydlynu Ymchwil, Arloesi a Gwelliant Gogledd Cymru helpu â’r canlynol.

  • Cysylltu pobl.
  • Rhannu gwybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth am lwyddiannau a methiannau, cyllid grant a chefnogaeth sydd ar gael, yn arbennig rhwng arbenigaethau gwahanol. Roedd awgrymiadau’n cynnwys diweddariadau misol/chwarterol, sesiynau hyfforddiant, gweithgorau a gweminarau.
  • Darparu swyddogaeth gwella ar gyfer y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.
  • Darparu cymorth gyda cheisiadau grant.
  • Arwain newid diwylliannol mewn perthynas â defnyddio ymchwil ac arloesi i wella gwasanaethau, gan gynnwys canolbwyntio ar welliant a sut gallai ymchwil ac arloesi gefnogi hynny.
  • Helpu i egluro’r gwahaniaeth mewn ystyron a roir i ymchwil ac arloesi yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol a datblygu blaenoriaethau cyffredin.
  • Darparu llwyfan i gynnal prosiectau ymchwil presennol a rhannu adroddiadau.
  • Darparu neu gomisiynu ymchwil annibynnol i bynciau arbennig.
  • Parhau i fod ar gael yn yr hirdymor.
  • Deall rhwystrau i wella systemau a ffyrdd i ddatblygu gwasanaethau sy’n bodloni anghenion pobl yng Ngogledd Cymru.
  • Darparu dull ar gyfer bwydo gwybodaeth allweddol ynghylch heriau a datrysiadau’r rheng flaen i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.

Y Camau Nesaf

Y camau nesaf ar gyfer y gwaith hwn yw casglu canfyddiadau’r arolwg a chanfyddiadau’r cyfweliadau a’r gweithdai ynghyd i ddatblygu datganiad o weledigaeth a siarter ar gyfer ymchwil, arloesi a gwelliant ar draws Gogledd Cymru. Bydd hyn hefyd yn helpu i lywio cynlluniau ar gyfer dyfodol yr Hwb Cydlynu Ymchwil, Arloesi a Gwelliant.

Ffeiliwyd dan: Blog

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Primary Sidebar

Chwilio

Negeseuon Diweddar

Gofalwyr ifanc sy’n gofalu am oedolion â phroblemau iechyd meddwl

Plant nad ydyn nhw’n mynd i’r ysgol

Cynhwysiant Digidol

  • YN EISIAU: CYNRYCHIOLYDD TRYDYDD SECTOR CENEDLAETHOL
  • Trigolion DINBYCH – rydym eich angen chi!
  • Ffocws ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

@CoproNetWales Member logo

Copyright © 2023 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital