North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Anableddau dysgu
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
      • Am asesiad poblogaeth Gogledd Cymru
      • Ymgynghoriad
      • Themâu a phenodau
      • Cynllun Rhanbarthol
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
    • Comisiynu
    • Cymryd rhan
    • Diogelu
    • Gweithlu
    • Gofalwyr
    • Integreiddio
  • Blog
  • Digwyddiadau
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Blog / Gwneud yr hyn sy’n wirioneddol bwysig ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru – sut mae gwneud iddo ddigwydd gyda’n gilydd?

Gwneud yr hyn sy’n wirioneddol bwysig ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru – sut mae gwneud iddo ddigwydd gyda’n gilydd?

04/09/2020

Pymtheg aelod o’r cyhoedd yn ymateb

Rheithgor Dinasyddion 2020 – Gwyliwch Ar-lein – Medi 21ain i 24ain

*** Dilynwch www.facebook.com/MeasuringTheMountain, Trydar – @mtmwales a www.mym.cymru/rheithgor-dinasyddion-2020 i gael y diweddariadau diweddaraf ar y rhaglen a’r ffyrdd i wylio.***

Rhwng Medi 21ain a 24ain bydd siaradwyr ysbrydoledig a meddylgar o bob rhan o’r sector gofal a chymorth yn cwrdd ar-lein i rannu eu profiadau o ddefnyddio, darparu a rheoli gwasanaethau yng Nghymru.

Byddant yn siarad â Rheithwyr Mesur y Mynydd (MyM) – pymtheg aelod o’r cyhoedd a fydd yn gofyn cwestiynau iddynt i fynd at galon yr hyn sy’n wirioneddol bwysig ym maes gofal cymdeithasol a sut y gallwn wneud i hynny ddigwydd gyda’n gilydd.

Ar ddiwedd yr wythnos, bydd y Rheithwyr yn cynhyrchu cyfres o argymhellion a gyflwynir i Lywodraeth Cymru a’u rhannu â sefydliadau ledled Cymru.

Bydd MyM yn ffrydio’r sesiynau yn fyw er mwyn i chi glywed popeth y mae’r Rheithwyr yn ei glywed; bydd yn gyfle anhygoel i ddysgu mwy am:

  • Gwasanaethau arloesol – sut y gwnaethant ddigwydd a pham eu bod yn gweithio
  • Sut mae gwahanol sefydliadau wedi ymateb i’r pandemig
  • Sut beth yw bywyd o ddydd i ddydd i bobl sy’n ofalwyr di-dâl ac i’r rhai sy’n defnyddio gwasanaethau cymorth – darganfyddwch beth sy’n gwneud eu bywydau yn haws neu’n fwy cymhleth
  • Blaenoriaethau’r cyhoedd wrth i’r Rheithwyr ofyn cwestiynau a mynd at wraidd materion

Dyma’r tro cyntaf i Reithgor Dinasyddion gael ei gynnal ar-lein ac mae’n enghraifft anhygoel o gynnwys y cyhoedd mewn materion polisi cymhleth sy’n effeithio ar bobl ledled Cymru.

Bydd MyM yn arddangos egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) gyda rhaglen sy’n cynnwys penaethiaid gwasanaethau, arweinwyr gwaith arloesol yn y trydydd sector, aelodau o Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a phobl sy’n defnyddio gwasanaethau a phobl sy’n yn ofalwyr di-dâl.

Hyd yn oed yng nghanol pandemig, cofrestrodd 125 o bobl eu diddordeb mewn bod yn Rheithiwr, arddangosiad diamwys o ba mor awyddus yw pobl Cymru i gael clywed eu lleisiau. O’r 125 hynny, dewiswyd pymtheg sy’n cynrychioli’r boblogaeth yng Nghymru yn fras. Mae ganddyn nhw gymysgedd o gefndiroedd, profiadau a gwybodaeth ac maen nhw’n cynnwys pobl anabl, gofalwyr di-dâl a phobl sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Gallwch eu gwylio yn ymgysylltu â’n tystion bob dydd rhwng Medi 21ain a 24ain – i ddarganfod mwy a chael diweddariadau diweddaraf y rhaglen wrth iddynt gael eu rhyddhau ewch i www.mym.cymru/rheithgor-dinasyddion-2020 neu dilynwch MyM ar Facebook – www.facebook.com/MeasuringTheMountain neu Trydar – @mtmwales

Ffeiliwyd dan: Blog

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Chwilio

Negeseuon Diweddar

Recriwtio gofal

Fframwaith gwirfoddoli mewn prosiect iechyd a gofal cymdeithasol

Newyddlen Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru – Chwefror 2021

Tystiolaeth, Ymchwil, Arloesi Technolegau Digidol sy’n cefnogi gofal a chefnogaeth yn y cartref

  • Recriwtio gofal
  • Cynrychiolydd Trydydd Sector Cenedlaethol
  • Arolwg ymgysylltu Sgrinio a Brechu COVID-19 Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Fframwaith Iechyd a Lles ar gyfer y Gweithlu Gofal Cymdeithasol

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

Copyright © 2021 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital