Mae yna lawer o ymchwil yn digwydd i geisio deall effaith Covid-19 ar wasanaethau iechyd a gofal a’r bobl sy’n eu rhoi ac yn eu defnyddio. Mae Hwb Ymchwil, Arloesi a Gwelliant Gogledd Cymru’n casglu esiamplau o arloesi a gwersi a ddysgwyd drwy ein harolwg ein hun ond hefyd yn gweithio gyda phrosiectau tebyg i osgoi dyblygu ac i ddysgu o’i gilydd.
Lle bo’n bosibl, rydym eisiau cydlynu fel y gallwn leihau’r galw ar bobl yn cael cais i lenwi holiaduron. Fodd bynnag, mae sawl arolwg yn cyd-fynd â’i gilydd ac yn werth amser pobl, i helpu i sicrhau ein bod yn dysgu cymaint â phosibl o’r argyfwng hwn. Rydym wedi cynnwys rhestr o’r rhai hynny rydym yn ymwybodol ohonynt isod. Rhowch wybod i ni os ydych yn ymwybodol o unrhyw rai eraill neu eisiau gweithio gyda ni.
Hysbysu gwaith Grŵp Adferiad Iechyd a Gofal Gogledd Cymru a’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yw ein gwaith ni, a byddwn hefyd yn rhannu ein canfyddiadau ar y wefan hon a gyda Llywodraeth Cymru. Cysylltwch os hoffech ragor o wybodaeth yn y cyfamser.
Sgyrsiau Covid
Mae BIPBC yn rhedeg arolwg i aelodau o’r cyhoedd am eu profiadau iechyd yn ystod yr argyfwng Coronafeirws, y byddwn yn dysgu ohono fel rhan o’n hadolygiad. Llenwch yr arolwg Sgyrsiau Covid yma.
Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Lles ac Ymdopi
Ydych chi’n nyrs, bydwraig, AHP, gweithiwr cymdeithasol neu’n weithwyr cymdeithasol sydd ar hyn o bryd yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig (gweithwyr asiantaeth), o fewn unrhyw faes gofal iechyd yn y DU. Rydym eisiau deall mwy am eich ansawdd o fywyd gwaith ac ymdopi mewn perthynas â’r Pandemig Covid-19
Mae’r arolwg hwn wedi’i anelu at nyrsys a bydwragedd, AHPs, gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol. Byddwn yn casglu llais cyfunol y staff rheng-flaen yma ac yn cyhoeddi’r canfyddiadau. Mae gennym ddiddordeb mewn ansawdd proffesiynol bywyd gweithio, lles cymdeithasol ac emosiynol a dulliau o ymdopi yn ystod y cyfnod hwn.
Cymerwch ran yn yr arolwg am ansawdd bywyd gwaith mewn gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol yn ystod Pandemig Covid-19
Cipolwg ar arferion newydd ac arloesol o bandemig Covid-19 ar draws Gogledd Cymru
Mae’r arolwg hwn yn cael ei gynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar ran GIG Cymru.
Cwblhewch yr arolwg Aneurin Bevan yma.
Archwilio Cymru
Mae Archwilio Cymru’n casglu esiamplau o arferion da ac yn rhannu’r rhain ar flog Archwilio Cymru a’r cyfrif Twitter
Lleisiau Cartrefi Gofal: Cipolwg ar fywyd mewn cartrefi gofal yng Nghymru yn ystod Covid-19
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi cyhoeddi adroddiad sy’n rhoi llais i bobl sy’n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal, ac yn rhoi cipolwg ar eu profiadau yn ystod pandemig Covid-19.
Mae’r adroddiad yn seiliedig ar dros 120 o ymatebion (a ddaeth i law rhwng 14 Mai a 5 Mehefin), gan bobl hŷn, eu teuluoedd a’u ffrindiau a staff cartrefi gofal, i gyfres o gwestiynau am eu profiadau yn ystod y cyfnod clo, y materion a’r heriau maent wedi’u hwynebu, a’r newidiadau a’r gwelliannau yr hoffent eu gweld.
Arolwg Lles Cymru
Arolwg Lles Cymru yn cael ei redeg gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd, gyda’r nod o werthuso’r effaith ar iechyd meddwl a’r lles emosiynol a achosir gan bandemig Covid-19 ar boblogaeth Cymru.
Mae’r arolwg wedi’i ddechrau gan y GIG ac yn rhedeg mewn cydweithrediad â’r 7 Bwrdd Iechyd yng Nghymru, gyda Phen Ymchwilwyr ym mhob Bwrdd Iechyd.
Caiff y canfyddiadau eu defnyddio i hysbysu’r GIG a’r partneriaid trydydd sector o ran pa gefnogaeth lles sy’n ofynnol gan wahanol sectorau o’r boblogaeth yng Nghymru, mewn ymateb i’r pandemig. Mae felly’n hanfodol y gallwn sicrhau trawstoriad o gynrychiolaeth o’r wlad, a’r gwahanol sectorau a’r ddemograffeg ynddi.
Roedd yr arolwg yn rhedeg rhwng 9 Mehefin 2020 ac yn cau hanner nos 5 Gorffennaf (i gyd-fynd â llacio’r cyfnod clo yng Nghymru).
Safbwyntiau pobl â dementia yn byw mewn cartrefi gofal
Mae rhywfaint o ymchwil yn ymwneud â Covid-19 wedi dechrau mewn cartrefi gofal yng Nghymru. Mae Ian Davies-Abbott, sy’n gweithio i Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia ym Mhrifysgol Bangor, yn arwain prosiect ymchwil i archwilio safbwyntiau’r unigolyn â dementia yn byw mewn cartref gofal, gan ddarparu mewnwelediad unigryw i fywyd bob dydd o dan gyfyngiadau’r cyfnod clo.
Adolygiad cyflym o gefnogaeth a roddir i gartrefi gofal
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu John Bolton i gynnal adolygiad cyflym o’r gefnogaeth a roddwyd i gartrefi gofal ar draws Cymru, a’r camau bwriedig i gefnogi cynaliadwyedd wrth symud ymlaen i’r Hydref. Bydd hyn yn cynnwys sgyrsiau gyda’r chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru a’r bwrdd iechyd.
TUC Cymru
Ydych chi’n weithiwr BME yng Nghymru? Rydym eisiau clywed am eich profiad o’r gweithle yng Nghymru. Rydym eisiau cynnwys eich llais wrth wraidd trafodaethau am effaith Covid-19 a sut y dylid mynd i’r afael â hiliaeth yn y gweithle. Cymerwch ein harolwg gweithwyr BME
BMA Cymru Wales
Meddygon Teulu Cymreig! Beth yw eich profiadau o weithio yn ystod Covid-19? Hoffem glywed eich safbwyntiau, i’n helpu i’n hysbysu o ran sut y gall gofal sylfaenol weithio’n ddiogel wrth symud ymlaen. Bydd hefyd yn siapio ein blaenoriaethau mewn trafodaethau contract. Llenwch ein harolwg sydyn i mewn heddiw.://twitter.com/SWU_UK
Profiadau COVID-19 Undeb y Gweithwyr Cymdeithasol
Mae’r arolwg wedi cau, ond mae canfyddiadau’n cael eu cyhoeddi ar ffrwd Twitter @SWU_UK.
Cyngor Iechyd Cymuned: Bwrdd Cymru
Rhannwch eich adborth ar ofal y GIG yn ystod argyfwng Coronavirus.
Coronafeirws a Fi – Canlyniadau (Comisiynydd Plant Cymru)
Rhannodd dros 23,700 o blant a phobl ifanc eu barn trwy’r holiadur Coronafeirws a Fi.
Darllenwch yr adroddiad Coronafeirws a Fi
Rhannu eich profiad – Arolwg Gofal yn ystod y Pandemig
Mae’r Gymdeithas Alzheimer’s eisiau deall yr effaith mae’r pandemig coronafeirws wedi’i gael ar deuluoedd sy’n darparu gofal anffurfiol i anwylyd gyda dementia. Rydym yn gwybod y gall gofalu gynnig llawer o foddhad a’r peth cywir i lawer o deuluoedd, ond rydym yn gwybod bod y pandemig a’r cyfnod clo wedi cyflwyno heriau.
Hoffem wahodd holl ofalwyr i rannu eu profiadau yn ein Harolwg Gofal yn ystod y Pandemig diweddaraf sydd bellach yn fyw, i ddeall sut rydych wedi ymdopi yn ystod y cyfnod clo a thu hwnt, bydd y canlyniadau yn ein helpu i wthio ar gyfer newid ar y lefel uchaf a dylanwadu ar y llywodraeth i roi anghenion y bobl yr effeithir arnynt gan ddementia yn gyntaf. Cwblhewch ran yn anhysbys yma. Mae’r arolwg yn cau ar 27 Awst 2020.
Y Gymraeg a’r cyfnod clo
Fel rhan o raglen ARFer, mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor yn ymddiddori yn yr effaith y mae’r norm newydd o weithio o bell wedi ei gael ar sut mae gweithwyr yn defnyddio Cymraeg yn y gwaith. Er mwyn ymchwilio i hyn, maent wedi llunio holiadur syml a byr. Os ydych chi wedi symud i weithio o’r cartref ac yn gallu siarad Cymraeg ar unrhyw lefel, llenwch yr holiadur os gwelwch yn dda.
Mae fersiwn Gymraeg a Saesneg ar gael: