Mae canlyniadau allweddol o’r Cyfrifiadau diweddaraf ar gael yn yr adran hon o’n gwefan.
Heb Gyfrifiad manwl, gallai Gogledd Cymru fod ar ei cholled, gan fod gwybodaeth o’r Cyfrifiad yn gallu ein helpu i:
- ddatblygu polisïau
- cynllunio a rhedeg busnes, megis ysgolion, gwasanaethau iechyd, ffyrdd a llyfrgelloedd
- penderfynu sut i ddyrannu cyllid i sicrhau bod arian y cyhoedd yn cyrraedd lle mae ei angen fwyaf.
Bwletinau Cyfrifiad 2021 ar gyfer Gogledd Cymru
Lawrlwythwch fwletin ganlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2021 ar gyfer Gogledd Cymru
Mae’r bwletin hwn yn edrych ar ganlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr, a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol 28 Mehefin 2022. Mae’r canlyniadau cyntaf hyn yn cynnwys amcangyfrifon poblogaeth ac aelwydydd ar lefel Cymru ac awdurdod lleol.
Prif bwyntiau
- Ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, maint y boblogaeth breswyl arferol yn Gogledd Cymru oedd 687,000.
- Mae’r boblogaeth wedi gostwng o -950 (-0.1%) ers y cyfrifiad diwethaf yn 2011, pan oedd yn 687,950. Gwelodd Cymru gynnydd o 1.4%, a Chymru a Lloegr gynnydd o 6.3%.
- Roedd mwy o bobl nag erioed o’r blaen yn y grwpiau oedran hŷn; cyfran y boblogaeth a oedd yn 65 oed a throsodd oedd 23.5% (i fyny o 20.1% yn 2011), sef cyfanswm o 161,200 o bobl. Y boblogaeth 65+ oed yng Nghymru gyfan = 21.3%; yng Nghymru a Lloegr = 18.6% (i fyny o 18.4% a 16.4% yn y drefn honno).
- Roedd 20,600 o breswylwyr yng Ngogledd Cymru a oedd yn 85 oed a throsodd yn 2021, o gymharu â 18,350 yn 2011 a 15,600 yn 2001. Ar 3.0% o’r boblogaeth roedd hyn yn uwch na chyfartaledd Cymru o 2.7% a chyfartaledd Cymru a Lloegr o 2.4%.
- Roedd nifer y bobl dan 15 oed yn 111,100 neu 16.2% o gyfanswm y boblogaeth (i lawr o 115,100 neu 16.7% yn 2011). Y boblogaeth o dan 15 oed yng Nghymru gyfan = 16.5%; yng Nghymru a Lloegr = 17.4% (i lawr o 16.9% a 17.6% yn y drefn honno).
- Mae gan Bwrdeistref Sirol Conwy strwythur oedran hynaf o awdurdodau unedol Gogledd Cymru, a Wrecsam sydd â’r strwythur oedran ieuengaf.
- Roedd 301,3000 o aelwydydd ag o leiaf un preswylydd arferol yn Gogledd Cymru ar Ddiwrnod y Cyfrifiad; mae hyn yn gynnydd o 5,700 (1.9%) ers 2011, pan oedd 295,600 o aelwydydd. Gwelodd Cymru gynnydd o 3.4%, a Chymru a Lloegr gynnydd o 6.1%.
- Mae chwe awdurdod unedol Gogledd Cymru yn cyfrif am 22.108% o boblogaeth Cymru. Mae hyn ychydig yn is na’r gyfran o 22.173% a fydd wedi’i defnyddio yng nghyfrifiadau cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol (ffigur ar gyfer 2021 o amcanestyniadau is-genedlaethol sail-2018 Llywodraeth Cymru).
- Roedd gan wyth awdurdod lleol boblogaethau is yn 2021 nag yn 2011(yn cynnwys Gwynedd, Ynys Môn a Bwrdeistref Sirol Conwy), a gwelodd pump arall dwf o lai na cyfartaledd Cymru, sef 1.4% (yn cynnwys Wrecsam). Roedd y cyfraddau mwyaf o leihad yn y boblogaeth ers 2011 yng Ngheredigion (5.8%), Blaenau Gwent (4.2%) a Gwynedd (3.7%).
- Roedd cyfradd twf y boblogaeth yng Nghymru yn sylweddol is nag yn Lloegr, lle cynyddodd y boblogaeth 6.6%. Roedd twf y boblogaeth hefyd yn is yng Nghymru nag yn holl ranbarthau Lloegr. Roedd y gyfradd twf yng Nghymru bron chwe gwaith yn is nag yn Nwyrain Lloegr, sef y rhanbarth yn Lloegr â’r newid canrannol mwyaf ym maint y boblogaeth (8.3%). Roedd hefyd yn is na’r rhanbarth yn Lloegr â’r twf lleiaf yn y boblogaeth, sef Gogledd-ddwyrain Lloegr (1.9%).
Lawrlwythwch fwletin ganlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2021 ar gyfer Gogledd Cymru
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd wedi cyhoeddi Y canlyniadau cyntaf o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr.
Lawrlwythwch crynodeb pwnc demograffi a mudo 2021 ar gyfer Gogledd Cymru
Mae’r bwletin hwn yn edrych ar y data cryno ar bynciau demograffeg a mudo o Gyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr a gyhoeddwyd ar 2 Tachwedd 2022 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). Mae’n darparu amcangyfrifon poblogaeth ac aelwydydd heb eu talgrynnu ar lefel Gogledd Cymru ac awdurdod unedol, gan gynnwys nodweddion aelwydydd a phreswylwyr a throsolwg o’r boblogaeth na anwyd yn y DU.
Prif bwyntiau
- Mae’r strwythur poblogaeth yng Ngogledd Cymru yn sylweddol hŷn na’r cyfartaledd cenedlaethol, gydag oedran canolrifol o 46 yn 2021 (Cymru = 42; Cymru a Lloegr = 40). Bwrdeistref Sirol Conwy sydd â’r oedran canolrif hynaf (49) a Wrecsam sydd â’r ieuengaf (42).
- Maint cyfartalog aelwydydd wedi gostwng ers 2011. Mae tua dwy ran o dair o’r holl aelwydydd yn cynnwys un neu ddau o bobl yn unig. Mae cyfran yr aelwydydd sy’n cynnwys pump neu fwy o bobl wedi gostwng.
- Cynyddodd cyfran yr aelwydydd a oedd yn cynnwys pensiynwyr yn unig i 27.1%, sy’n uchel o gymharu â ffigurau cenedlaethol (Cymru yn 2021 = 24.8% a Chymru a Lloegr = 22.1%). Pensiynwyr a oedd yn byw ar eu pen eu hunain oedd y rhan fwyaf o’r aelwydydd hyn (47,676 neu 15.8% o’r holl aelwydydd). Roedd gan Fwrdeistref Sirol Conwy yr ail ganran uchaf o aelwydydd pensiynwyr yn unig yng Nghymru yn 2021.
- Roedd cyfran yr aelwydydd yn cynnwys plant dibynnol yn 2021 yn is yng Ngogledd Cymru na’r cyfartaledd cenedlaethol (Gogledd Cymru = 24.0%; Cymru = 26.5%; Cymru a Lloegr = 28.4%). Mae nifer a chyfran yr aelwydydd sy’n cynnwys plant dibynnol wedi gostwng ers 2011 ar gyfer holl ardaloedd awdurdodau unedol Gogledd Cymru. Fodd bynnag, mae nifer a chyfran y teuluoedd un rhiant wedi cynyddu.
- Cynyddodd cyfran y preswylwyr arferol a aned y tu allan i’r DU rhwng 2011 a 2021 o 4.5 i 5.8%. Mae’r gyfran hon yn isel o gymharu â ffigurau cenedlaethol (Cymru a Lloegr = 16.8%). Roedd y gyfran uchaf yn Wrecsam ar 7.9% ac isaf yn Ynys Môn ar 3.3%.
- Ar gyfer Gogledd Cymru gyfan, parhaodd Gwlad Pwyl i fod y wlad enedigol fwyaf cyffredin y tu allan i’r DU yn 2021 (7,423 o bobl, 1.1% o’r holl breswylwyr arferol). Gwlad Pwyl hefyd oedd y canlyniad mwyaf cyffredin ar gyfer Wrecsam, Sir y Fflint a Gwynedd. Roedd Iwerddon ym Mwrdeistref Sirol Conwy ac Ynys Môn Iwerddon, ac ar gyfer Sir Ddinbych roedd yn Ynysoedd y Philipinau.
Lawrlwythwch crynodeb pwnc demograffi a mudo 2021 ar gyfer Gogledd Cymru
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd wedi cyhoeddi Demograffeg a mudo: Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr sydd yn cynnwys data hyd at ardal gynnyrch.
Lawrlwythwch crynodeb pwnc cyn-filwyr Cyfrifiad 2021 ar gyfer Gogledd Cymru
Mae’r bwletin hwn yn edrych ar y data cryno ar bynciau cyn aelodau o luoedd arfog y DU o Gyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr a gyhoeddwyd ar 10 Tachwedd 2022 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). Mae’n darparu amcangyfrifon poblogaeth ac aelwydydd heb eu talgrynnu ar lefel Gogledd Cymru ac awdurdod unedol.
Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr oedd yr un cyntaf i ofyn i bobl a oeddent wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU yn y gorffennol. Gofynnwyd i bobl 16 mlwydd oed neu hŷn a oeddent wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog rheolaidd neu wrth gefn y DU, neu’r ddau, yn y gorffennol. Cynghorwyd pobl sy’n gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU ar hyn o bryd a phobl nad oeddent erioed wedi gwasanaethu i ddewis “nac ydw”.
Prif bwyntiau
- Yn 2021, dywedodd 29,194 o bobl yng Ngogledd Cymru eu bod wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU yn y gorffennol. Mae hyn tua 5.1% o breswylwyr arferol 16 mlwydd oed neu hŷn.
- Roedd y ganran o gyn aelodau o luoedd arfog y DU yn uwch nag yr oedd yng Nghymru (4.5%) neu yn Lloegr (3.8%).
- O blith poblogaeth cyn aelodau o luoedd arfog y DU yng Ngogledd Cymru, roedd 78.1% (22,802 o bobl) wedi gwasanaethu yn y lluoedd rheolaidd yn y gorffennol, 17.6% (5,152 o bobl) wedi gwasanaethu yn y lluoedd wrth gefn yn y gorffennol, a 4.2% (1,240 o bobl) wedi gwasanaethu yn y lluoedd rheolaidd a’r lluoedd wrth gefn.
- Roedd 613 o gyn aelodau o luoedd arfog y DU (2.1%) yn byw mewn sefydliadau cymunedol ac roedd y gweddill (28,581, 97.9%) yn byw mewn aelwydydd. Mae cyn-filwyr ychydig yn fwy tebygol o fyw mewn sefydliadau cymunedol na’r boblogaeth yn gyffredinol.
- Roedd y ganran o aelwydydd a oedd yn cynnwys un neu ragor o bobl a oedd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU yn 9.1% (27,424 o aelwydydd). Roedd hyn yn uwch nag yr oedd yng Nghymru (8.1%) neu yn Lloegr (7.0%).
- Ledled Cymru, mae’r awdurdodau lleol sydd â’r gyfran fwyaf o gyn aelodau o’r lluoedd arfog yn cynnwys Bwrdeistref Sirol Conwy (5.9%, 5,649 o bobl), ac Ynys Môn (5.6%, 3,221 o bobl).
Lawrlwythwch crynodeb pwnc cyn-filwyr Cyfrifiad 2021 ar gyfer Gogledd Cymru
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd wedi cyhoeddi Cyn aelodau o luoedd arfog y DU yng Nghymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021.
Lawrlwythwch crynodeb pwnc grŵp ethnig Cyfrifiad 2021 ar gyfer Gogledd Cymru
Mae’r bwletin hwn yn edrych ar y data cryno ar bynciau o Gyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr ar gyfer ethnigrwydd, hunaniaeth genedlaethol, a chrefydd unigolion ac aelwydydd a gyhoeddwyd ar 29 Tachwedd 2022 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). Mae’n darparu amcangyfrifon poblogaeth ac aelwydydd heb eu talgrynnu ar lefel Gogledd Cymru ac awdurdod unedol.
Ers 1991, mae cyfrifiad Cymru a Lloegr wedi cynnwys cwestiwn am grŵp ethnig.
Prif bwyntiau
- Mae poblogaeth Gogledd Cymru yn llawer llai amrywiol o ran ethnigrwydd nag ar draws Cymru a Lloegr yn gyffredinol. Ni fu llawer o newid yn y degawd diwethaf yn y cyfrannau cyffredinol o fewn pob grŵp ethnig lefel uchel.
- Nododd 96.8% o’r boblogaeth (665,147 o bobl) fel “Gwyn” yn y Cyfrifiad 2021. Mae’r gyfran hon yn uchel o gymharu â ffigurau cenedlaethol (Cymru a Lloegr = 81.7% a Chymru = 93.8%). Roedd y gyfran uchaf yn Ynys Môn ar 98.1% ac isaf yn Wrecsam ar 96.0%.
- O fewn y categori “Gwyn”, dewisodd 93.3% o boblogaeth gyfan “Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig”. (Cymru yn 2021 = 90.6% a Chymru a Lloegr = 74.4%). Roedd y gyfran uchaf yn Ynys Môn ar 96.3% ac isaf yn Wrecsam ar 90.7%.
- Er bod cyfran gyffredinol y bobl yng Ngogledd Cymru a nododd eu bod yn Wyn wedi gostwng ychydig rhwng 2011 (97.5%) a 2021 (96.8%) cynyddodd cyfran y bobl a uniaethodd â’r is-gategori “Unrhyw gefndir Gwyn arall” o 1.9% yn 2011 i 2.9% neu 19,802 o bobl yn 2021. Mae hyn yn debygol o fod yn adlewyrchiad o’r cynnydd yn y degawd diwethaf yn nifer y bobl yng Ngogledd Cymru a aned yn y gwledydd a ymunodd â’r UE rhwng Ebrill 2001 a Mawrth 2011 (yn enwedig Gwlad Pwyl a Rwmania). Gwnaethon ni adrodd ar hyn yn ein hadroddiad pwnc Cyfrifiad 2021 ar ddemograffeg a mudo.
- Yng Ngogledd Cymru, roedd y cyfrannau uchaf o bobl o “Unrhyw gefndir Gwyn arall” yn 2021 yn Wrecsam (4.8%) a Sir y Fflint (3.9%).
- Ar gyfer Gogledd Cymru gyfan, “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig” oedd yr ail gategori grŵp ethnig lefel uchel mwyaf yn 2021 (9,400 o bobl, 1.4% o’r holl drigolion arferol). Hwn hefyd oedd yr ail gategori lefel uchel mwyaf cyffredin ar gyfer holl ardaloedd awdurdodau unedol Gogledd Cymru ac eithrio Ynys Môn, lle’r oedd yn “Grwpiau ethnig cymysg neu amlethnig”. Mae 1.4% o boblogaeth Gogledd Cymru yn y grŵp hwn yn cymharu â 2.9% ar gyfer Cymru a 9.3% ar gyfer Cymru a Lloegr yn gyffredinol.
- Er bod nifer a chyfran y bobl ym mhob categori grŵp ethnig lefel uchel ac eithrio “Gwyn” wedi gweld cynnydd yng Ngogledd Cymru rhwng 2011 a 2021, roedd y cynnydd yn fach iawn, (pob un rhwng 0.1% a 0.3%). Gwelodd rhai grwpiau ostyngiadau bach ar gyfer rhai ardaloedd awdurdodau unedol, ond roedd y gyfradd newid ar y lefel fwy lleol hon hefyd yn isel iawn, yn amrywio o isafswm -0.2% i uchafswm +0.4% dros y degawd.
Lawrlwythwch crynodeb pwnc grŵp ethnig Cyfrifiad 2021 ar gyfer Gogledd Cymru
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd wedi cyhoeddi Grŵp ethnig: Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr sydd yn cynnwys data hyd at ardal gynnyrch.
Lawrlwythwch crynodeb pwnc crefydd Cyfrifiad 2021 ar gyfer Gogledd Cymru
Mae’r bwletin hwn yn edrych ar y data cryno ar bynciau o Gyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr ar gyfer crefydd preswylwyr arferol a chyfansoddiad crefyddol aelwydydd. Cyhoeddwyd y data ar 29 Tachwedd 2022 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). Mae’n darparu amcangyfrifon poblogaeth ac aelwydydd heb eu talgrynnu ar lefel Gogledd Cymru ac awdurdod unedol.
Cyflwynodd y cyfrifiad gwestiwn gwirfoddol am grefydd yn 2001. Yn nata’r cyfrifiad, mae crefydd yn cyfeirio at ymlyniad crefyddol person. Dyma’r grefydd y maent yn cysylltu neu’n uniaethu â hi, yn hytrach na’u credoau neu eu harferion crefyddol gweithredol.
Prif bwyntiau
- Bu cynnydd sylweddol rhwng 2011 a 2021 yn nifer a chyfran y bobl a ddywedodd nad oedd ganddynt unrhyw grefydd yng Ngogledd Cymru. Cydbwyswyd hyn gan leihad sylweddol yn y rhai a nododd eu bod yn Gristnogion.
- Yn 2021, nododd 286,722 o breswylwyr arferol dim crefydd. Roedd hyn yn 41.7% o’r boblogaeth ac yn gynnydd sylweddol o 26.9% yn 2011. Roedd y gyfran uchaf yng Ngwynedd ar 44.2% ac isaf yn Sir y Fflint ac Ynys Môn ar 40.7%.
- Ar draws Cymru gyfan dywedodd mwy o bobl nad oedd ganddynt unrhyw grefydd (46.5%) nag unrhyw ymlyniad crefyddol unigol. Ar gyfer Cymru a Lloegr y gyfran oedd 37.2%.
- Cyfran y bobl a nododd eu bod yn Gristnogion oedd 49.8% neu 341,972 o bobl. Roedd hyn yn ostyngiad sylweddol o gymharu â 2011 pan oedd y ffigyrau yn 63.9%. Roedd y gyfran uchaf yn Sir y Fflint ac Ynys Môn ar 51.5% ac isaf yng Ngwynedd ar 46.2%. Roedd gan Sir Ddinbych a Wrecsam hefyd lai na hanner y boblogaeth yn nodi eu bod yn Gristnogion. (Cymru yn 2021 = 43.6% a Chymru a Lloegr = 46.2%).
- Mae poblogaeth Gogledd Cymru yn llai amrywiol o ran crefydd na’r cyfartaleddau cenedlaethol. Roedd cyfanswm o 12,353 o bobl neu 1.8% o’r boblogaeth yn uniaethu â chrefydd heblaw Cristnogaeth. Mae hyn yn cymharu â 3.6% ar draws Cymru a 10.6% ar gyfer Cymru a Lloegr y gyfran.
- Yn 2021 oedd hyn yn cynnwys 0.8% o’r boblogaeth a nododd eu bod yn Fwslimaidd (5,326 o breswylwyr arferol) sef yr ail grefydd fwyaf. Roedd y gyfran uchaf yn Wrecsam ar 1.1% ac isaf yn Sir y Fflint ac Ynys Môn ar 0.5%. (Cymru yn 2021 = 2.2% a Chymru a Lloegr = 6.5%).
- Ychydig o newid a welwyd ers 2011 yng nghyfrannau’r boblogaeth a oedd yn uniaethu â grwpiau crefyddol heblaw Cristnogion ar gyfer Gogledd Cymru gyfan neu ar gyfer ardaloedd awdurdodau unedol unigol.
Lawrlwythwch crynodeb pwnc crefydd Cyfrifiad 2021 ar gyfer Gogledd Cymru
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd wedi cyhoeddi Crefydd, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr sydd yn cynnwys data hyd at ardal gynnyrch.
Lawrlwythwch crynodeb pwnc prif iaith Cyfrifiad 2021 ar gyfer Gogledd Cymru
Mae’r bwletin hwn yn edrych ar y data cryno ar bynciau o Gyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr ar gyfer prif iaith, hyfedredd Cymraeg neu Saesneg, ac iaith yr aelwydydd. Cyhoeddwyd y data ar 29 Tachwedd 2022 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). Mae’n darparu amcangyfrifon poblogaeth ac aelwydydd heb eu talgrynnu ar lefel Gogledd Cymru ac awdurdod unedol.
Mae’r ffigurau ar gyfer iaith ar gyfer pobl tair oed a throsodd.
Yng Nghymru, gofynnwyd i bobl oedd eu prif iaith yn unrhyw beth heblaw Cymraeg neu Saesneg. Felly, nid oes modd pennu o’r cwestiwn hwn faint o bobl yng Nghymru a oedd yn ystyried y Gymraeg fel eu prif iaith. Roedd cwestiwn ar wahân i bobl yng Nghymru yn gofyn iddyn nhw am eu gallu yn y Gymraeg.
Prif bwyntiau
- Mae’r gyfran o breswylwyr Gogledd Cymru tair oed a throsodd sydd â’r Gymraeg neu’r Saesneg yn brif iaith iddynt yn uwch na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru a Lloegr yn gyffredinol.
- Roedd 97.1% o breswylwyr arferol tair oed a throsodd (648,555 o bobl) yn siarad Cymraeg neu Saesneg fel eu prif iaith. Mae hyn yn ostyngiad o gymharu â 2011, pan oedd gan 97.7% y Gymraeg neu’r Saesneg yn brif iaith. (Cymru yn 2021 = 96.7% a Chymru a Lloegr = 91.1%).
- Yng Ngogledd Cymru yn 2021 roedd y gyfran â Saesneg neu Gymraeg yn brif iaith uchaf yn Ynys Môn ar 99.1% ac isaf yn Wrecsam ar 94.9%. O gymharu â 2011, dim ond Wrecsam a Sir y Fflint welodd ostyngiad o fwy na 0.1%. Y gostyngiad yn Sir y Fflint (1.6 pwynt canran) oedd yr uchaf a welwyd ledled Cymru.
- Gallai 2.2% arall (14,894) o boblogaeth gyffredinol Gogledd Cymru siarad Cymraeg neu Saesneg naill ai’n “dda” neu’n “dda iawn”, ond nid oeddent yn ei siarad fel eu prif iaith. Mae hyn yn mynd â’r ffigwr ar gyfer y rhai sydd â lefel dda o hyfedredd yn y Gymraeg neu’r Saesneg i 99.3%.
- Nid oedd 0.6% o’r boblogaeth (3,746 o bobl) yn gallu siarad Cymraeg na Saesneg yn dda, a chanran fechan (0.1% neu 709 o bobl) yn methu â siarad Cymraeg na Saesneg o gwbl – cyfanswm o 0.7% o’r boblogaeth tair oed a throsodd. Roedd y gyfran uchaf yn Wrecsam ar 1.3% ac isaf yn Ynys Môn ar 0.2%. (Cymru = 0.7% a Chymru a Lloegr = 1.8%)
- Fel yn 2011, Pwyleg oedd y brif iaith fwyaf cyffredin ar ôl Cymraeg neu Saesneg ar gyfer Gogledd Cymru gyfan (1.0%), ac ar gyfer pob un o ardaloedd awdurdodau unedol y rhanbarth (yr uchaf yn Wrecsam ar 2.5% ac isaf yn Ynys Môn yn 0.1%).
- Yn ogystal ag ieithoedd llafar, Iaith Arwyddion Prydain (BSL) oedd prif iaith 169 (0.03%) o’r preswylwyr arferol tair oed a throsodd ar draws Gogledd Cymru. Adroddodd 83 o drigolion arferol pellach a ddewisodd iaith ddi-siarad fel eu prif iaith fod iaith arwyddion neu system gyfathrebu ar wahân i BSL.
Lawrlwythwch crynodeb pwnc prif iaith Cyfrifiad 2021 ar gyfer Gogledd Cymru
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd wedi cyhoeddi Iaith, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr sydd yn cynnwys data hyd at ardal gynnyrch.
Lawrlwythwch crynodeb pwnc addysg Cyfrifiad 2021 ar gyfer Gogledd Cymru
Mae’r bwletin hwn yn edrych ar y data crynodeb pynciau o Gyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr ar gyfer addysg. Cyhoeddwyd y data ar 10 Ionawr 2023 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). Mae’n darparu amcangyfrifon poblogaeth heb eu talgrynnu ar lefel Gogledd Cymru ac awdurdod unedol.
Mae’n cynnwys amcangyfrifon o ganran y boblogaeth 16 oed ac yn hŷn sydd wedi cael cymwysterau academaidd, galwedigaethol, neu broffesiynol, yn ogystal a nifer y plant ysgol a myfyrwyr amser llawn.
Prif bwyntiau
- Rhwng 2011 a 2021 gwelodd pob ardal awdurdod unedol yng Ngogledd Cymru welliant sylweddol mewn lefelau cymwysterau, a gostyngiad cyfatebol yn nifer a chanran y bobl heb unrhyw gymwysterau. Caiff hyn ei adlewyrchu mewn ffynonellau data eraill sy’n monitro lefelau cymwysterau (er enghraifft yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth).
- Ar draws Gogledd Cymru gyfan roedd cyfran y bobl a nododd eu cymhwyster uchaf ar lefel 4 neu uwch ar ddiwrnod cyfrifiad 2021 (er enghraifft Tystysgrif Genedlaethol Uwch, Diploma Cenedlaethol Uwch, gradd Baglor a chymwysterau ôl-raddedig) yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol. Ar gyfer Gogledd Cymru roedd hyn yn 31.1% neu 176,740 o bobl, tra bod Cymru yn 31.5% a Chymru a Lloegr yn 33.8%. Roedd y gyfran uchaf yng Ngwynedd ar 34.5% ac isaf yn Wrecsam ar 29.1%.
- Eglurir rhan o’r gwahaniaeth o gymharu â chyfartaledd Cymru gan y gyfran o brentisiaethau sydd â’r lefel uchaf o gymwysterau yng Ngogledd Cymru. Roedd hyn yn uwch na’r cyfartaleddau cenedlaethol, sef 6.3% neu 35,791 o bobl o gymharu â 5.6% ledled Cymru a 5.3% ar gyfer Cymru a Lloegr.
- Roedd gan Sir y Fflint ac Ynys Môn y gyfran fwyaf o bobl yng Nghymru a roddodd eu cymhwyster uchaf fel prentisiaeth (6.6%).
- Nid oedd gan 18.7% (106,341) o breswylwyr arferol 16 oed neu hŷn unrhyw gymwysterau. Roedd hyn yn is na chyfartaledd Cymru. (Cymru = 19.9% a Chymru a Lloegr = 18.2%). Roedd y gyfran uchaf yn Wrecsam ar 20.9% ac isaf yng Ngwynedd ar 16.3%.
- Yn 2021, roedd 121,157 o blant ysgol a myfyrwyr mewn addysg amser llawn (5 oed a throsodd) yng Ngogledd Cymru. Mae hyn yn cynrychioli 18.5% o’r preswylwyr arferol 5 oed a throsodd. Y gyfran oedd 19.9% ar gyfer Cymru a 20.4% ar gyfer Cymru a Lloegr yn gyffredinol.
- Ledled Gogledd Cymru roedd cyfran y plant ysgol a’r myfyrwyr uchaf yng Ngwynedd (21.4%) ac isaf ym Mwrdeistref Sirol Conwy (16.6%). Effeithir ar gyfran y plant ysgol a’r myfyrwyr yn y boblogaeth gan lleoliad sefydliadau addysg uwch a strwythur oedran cyffredinol yr ardal (mae strwythur oedran hŷn/llai o bobl ifanc yn y boblogaeth yn debygol o olygu llai o fyfyrwyr).
Lawrlwythwch crynodeb pwnc addysg Cyfrifiad 2021 ar gyfer Gogledd Cymru
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd wedi cyhoeddi Addysg: Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr sydd yn cynnwys data hyd at ardal gynnyrch.
Mae’r bwletin hwn yn edrych ar y data crynodeb pynciau o Gyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr ar gyfer pynciau cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd. Cyhoeddwyd y data ar 6 Ionawr 2023 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). Mae’n darparu amcangyfrifon poblogaeth heb eu talgrynnu ar lefel Gogledd Cymru ac awdurdod unedol.
Gofynnwyd cwestiynau gwirfoddol ar gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd am y tro cyntaf yng Nghyfrifiad 2021.
Prif bwyntiau
Cyfeiriadedd rhywiol
- Ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, ymatebodd 522,025 miliwn o breswylwyr arferol yng Ngogledd Cymru i’r cwestiwn gwirfoddol ar gyfeiriadedd rhywiol (91.9% o’r boblogaeth sy’n 16 oed a throsodd).
- Disgrifiodd 507,769 o bobl eu hunain yn “Strêt/Heterorywiol” (89.4% o’r boblogaeth sy’n 16 oed a throsodd). Cymru, a Chymru a Lloegr = 89.4%.
- Disgrifiodd 7,282 (1.3%) eu hunain yn “Hoyw neu Lesbiaidd”.
- Disgrifiodd 5,725 (1.0%) eu hunain yn “Ddeurywiol”.
- Nododd 1,249 (0.2%) gyfeiriadedd rhywiol arall, ac o’r rhain yr ymatebion mwyaf cyffredin oedd “Panrywiol” (0.1%), “Arywiol” (0.05%) a “Cwiar” (0.02%).
- Dewisodd gyfanswm o 14,256 o breswylwyr arferol (2.5% o’r boblogaeth sy’n 16 oed a throsodd) gyfeiriadedd rhywiol LHD+ (“Hoyw neu Lesbiaidd”, “Deurywiol” neu gyfeiriadedd rhywiol arall). Cymru = 3.0% a Chymru a Lloegr = 3.2%.
- Nid oedd y 46,215 o bobl eraill 16 oed a throsodd (8.1%) wedi ateb y cwestiwn ar gyfeiriadedd rhywiol.
- Yng Ngogledd Cymru, Gwynedd oedd a’r gyfran uchaf o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd yn uniaethu a chyfeiriadedd rhywiol LHD+ yn 2021 (3.3%).
Hunaniaeth o ran rhywedd
- Cafwyd ymatebion gan 528,983 o bobl i’r cwestiwn gwirfoddol ar hunaniaeth o ran rhywedd yng Ngogledd Cymru (93.1% o’r boblogaeth 16 oed a throsodd). Ni atebodd 6.9% y cwestiwn.
- Atebodd 92.8% o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd “Ydy”, gan nodi bod eu hunaniaeth o ran rhywedd yr un fath a’r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni.
- Atebodd mwy na 1,826 o bobl (0.3%) “Nac ydy”, gan nodi bod eu hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol i’r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni (Cymru = 0.4% a Chymru a Lloegr = 0.5%).
- Nododd 343 o bobl eu bod yn uniaethu a rhywedd dyn traws, 358 o bobl eu bod yn uniaethu a rhywedd menyw draws, a 254 o bobl eu bod yn uniaethu a rhywedd anneuaidd. Atebodd 705 o bobl “Nac ydy” ond ni nodwyd eu hunaniaeth o ran rhywedd.
- Yng Ngogledd Cymru yr awdurdodau lleol a’r cyfrannau mwyaf o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd wedi nodi rhywedd gwahanol i’r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni oedd Gwynedd a Wrecsam (0.4% yr un).
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd wedi cyhoeddi Cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd: Cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr.
Data Cyfrifiad arall
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu dadansoddiad Cymru gyfan o ganlyniadau Cyfrifiad 2021.
Mae rhagor o wybodaeth am y Cyfrifiad, gan gynnwys mynediad at ddata’r DU gyfan ar gael ar wefan Cyfrifiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Tudalennau cysylltiedig
Proffiliau ystadegol ar gyfer Gogledd Cymru
Ystadegau cydraddoldeb ac amrywiaeth
Cysyllwtwch a ni
Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol Gogledd Cymru
Ebost: hcargc@sirddinbych.gov.uk
Ffôn: 01824 712432