Dolenni i wefannau a all eich helpu i ddarganfod, deall a chyflwyno data. Os oes angen help arnoch gydag unrhyw ran o hyn gallwch gysylltu â ni.
Peidiwch ag anghofio edrych ar ein tudalennau ystadegau ac ymchwil ein hunain. Mae gan rai o’n partneriaid hefyd arbenigwyr ymchwil ac ystadegau a all eich helpu.
Lle i ddarganfod data
StatsCymru
Storfa ar-lein Llywodraeth Cymru ar gyfer data ystadegol manwl i Gymru. Mae’n cwmpasu bron i 1,000 set o ddata, ac yn cynnwys gwybodaeth allweddol am boblogaeth, yr economi, perfformaid a gwariant llywodraeth ganolog a lleol Cymru, yn ogystal ag iechyd, tai, yr amgylchedd, addysg, a thrafnidiaeth.
Porth data gofal cymdeithasol cenedlaethol Cymru
Mae’r porth yn cynnwys data ar bynciau sy’n gysylltiedig â’r angen am ofal a chymorth, gan gynnwys cyflyrau iechyd fel dementia, data ar amddifadedd a data am y boblogaeth. Mae hefyd yn cynnwys modelu i ddarparu rhagamcanion ar gyfer anghenion y dyfodol.
Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dadansoddi data, yn canfod tystiolaeth ac yn rheoli gwybodaeth i gynorthwyo gwneuthurwyr penderfyniadau a’r cyhoedd gyda gwybodaeth iechyd.
DataCymru
Mae DataCymru yn cynnal amrywiaeth o ddangosfyrddau a phyrth data i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus Cymru, gan gynnwys InfoBaseCymru, Llefydd Llewyrchus Cymru a porth data sector gwirfoddol CGGC.
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG/ONS) (Ar gael yn Saesneg yn unig.)
Mae SYG yn gyfrifol am gasglu a chyhoeddi ystadegau sy’n ymwneud â’r economi, poblogaeth a chymdeithas ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol ledled y DU. Nhw yw cynhyrchydd ystadegau swyddogol annibynnol mwyaf y DU a’i sefydliad ystadegol cenedlaethol cydnabyddedig.
Cyfrifiad poblogaeth
Data a dadansoddiad ar gyfer Cyfrifiad 2021. Cynhelir y cyfrifiad bob 10 mlynedd. Mae’n rhoi darlun inni o’r holl bobl ac aelwydydd yng Nghymru a Lloegr. Mae hwn yn rhan o brif safle SYG.
Stat-Xplore (Ar gael yn Saesneg yn unig.)
Cronfa ddata o ddata budd-daliadau’r Adran Gwaith a Phensiynau i lawr i lefel ardal fach (lefel ardal cynnyrch ehangach is).
NOMIS (Ar gael yn Saesneg yn unig.)
Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth Gweithlu Ar-lein Cenedlaethol (NOMIS) yn canolbwyntio ar ddata’r gweithlu ond mae hefyd yn cynnwys data poblogaeth arall, gan gynnwys data cyfrifiad yn ôl i 1961.
MapDataCymru
Mae MapDataCymru yn rhoi gwybodaeth ddaearyddol a gwasanaethau cysylltiedig. Mae gwybodaeth ddaearyddol yn cynnwys popeth y gellir ei ddangos ar fap, er enghraifft meddygfeydd, parthau llifogydd, llygredd sŵn ac ardaloedd o amddifadedd.
Deall data
Crumbs! Understanding Data (Ar gael yn Saesneg yn unig)
Canllaw byr i ddeall a gwerthfawrogi data, o ddiffinio’r gwahanol fathau o ddata i ddelio â data gwael a thuedd. Ysgrifennwyd gan y Labordy Gwyddoniaeth a Thechnoleg Amddiffyn (Dstl).
Deall eich gwybodaeth: cyflwyniad i ystadegau cryno
Lefel dechreuwyr. Lawrlwythwch y llyfryn canllaw neu cofrestrwch ar gyfer cwrs ar-lein rhad ac am ddim a fydd yn eich cyflwyno i rai offer ac adnoddau i’ch helpu i grynhoi data a darparu ystadegau hawdd eu deal. Mae cyrsiau hyfforddi arall DataCymru’n cynnwys ‘deall a defnyddio data perfformiad’.
More or Less – BBC Radio 4 (Ar gael yn Saesneg yn unig)
Rhaglen radio a phodlediad sy’n esbonio – ac weithiau’n dadelfennu – y niferoedd a’r ystadegau a ddefnyddir mewn dadl wleidyddol, y newyddion a bywyd bob dydd. Yn cynnwys dolenni i dudalennau gwe defnyddiol eraill.
Cyflwyno data
Cyflwyno data (DataCymru)
Lefel dechreuwyr. Lawrlwythwch y llyfryn canllaw neu cofrestrwch ar gyfer cwrs ar-lein rhad ac am ddim a fydd yn eich cyflwyno i rai awgrymiadau, offer ac adnoddau i’ch helpu i gyflwyno data’n effeithiol – mewn tablau, siartiau, mapiau neu destun.
E-ddysgu delweddu data (Ar gael yn Saesneg yn unig)
Lefel canolradd+. Cwrs modiwlar ar-lein i unrhyw un sy’n gorfod creu delweddu data. Cynhyrchwyd gan Wasanaeth Sifil y DU.
‘A bite-sized guide to visualising data’ (Ar gael yn Saesneg yn unig)
Arweiniad i rai ffyrdd gwahanol o ddelweddu data a’u cryfderau a’u gwendidau priodol. Ysgrifennwyd gan y Labordy Gwyddoniaeth a Thechnoleg Amddiffyn (Dstl).
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol – delweddu data (Ar gael yn Saesneg yn unig)
Canllawiau ar gyfer creu siartiau a thablau ac arfer gorau ar gyfer defnyddio lliw yn eich gwaith.
Canllawiau Swyddogaeth Dadansoddi’r Llywodraeth (Ar gael yn Saesneg yn unig)
Canllawiau a chymorth ar gyfer gwella cyfathrebu a hygyrchedd data, ystadegau a dadansoddiadau ar draws y llywodraeth. Cynhyrchwyd gan Wasanaeth Sifil y DU.
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol – canllaw arddull cynnwys (Ar gael yn Saesneg yn unig)
Dysgwch am arddull tŷ sefydliad ystadegol cenedlaethol y DU, naws y llais a chonfensiynau sillafu a gramadeg.
Cysyllwtwch a ni
Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol Gogledd Cymru
Ebost: hcargc@sirddinbych.gov.uk
Ffôn: 01824 712432