• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
    • Cymryd rhan
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
      • Anableddau dysgu
      • Iechyd meddwl
      • Plant a phobl ifanc
    • Gofalwyr
    • Dementia
    • Comisiynu
    • Gweithlu
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Blog / iPads newydd yn cael eu darparu i gadw pobl mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu

iPads newydd yn cael eu darparu i gadw pobl mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu

23/04/2020

Mae cynllun arloesol i ddarparu iPads i breswylwyr cartrefi gofal a chleifion mewn ysbytai er mwyn iddynt allu cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu tra bod ymweliadau’n cael eu cyfyngu yn ystod yr achos coronafeirws yn cael ei lansio gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.

Disgwylir 365 i-pads gyrraedd cartrefi gofal a wardiau ysbyty ar draws y rhanbarth yr wythnos nesaf, gyda mwy o ddyfeisiau yn cyrraedd yn fuan wedyn.

Tyfodd y syniad o brosiect a oedd yn cael ei gynnal gan y Bwrdd Partneriaeth i ddarparu iPads i gefnogi pobl yn y gymuned i helpu i reoli eu cyflyrau iechyd ac i leihau unigedd cymdeithasol.   Gyda’r achosion o coronafeirws, cafodd cyllid awdurdodau lleol ei ailgyfeirio’n gyflym i alluogi prynu rhai iPads ar gyfer ymweliadau rhithiol. Cefnogodd tîm caffael y Bwrdd Iechyd y prosiect drwy gyrchu’r iPads drwy eu cadwyn gyflenwi o fewn ychydig ddyddiau.

Mae Macmillan hefyd wedi buddsoddi fel y gall y prosiect gynnwys wardiau ysbytai a hosbisau ar draws y rhanbarth.

Roedd Canolfan Cydweithredol Cymru yn bartner allweddol yn y prosiect gwreiddiol ac mae wedi darparu cyngor a chymorth i’r tîm i sefydlu’r iPads i’w gwneud mor hawdd â phosibl i’w defnyddio.

Mae cynllun tymor hir ar waith i wneud yn siŵr bod y prosiect gwreiddiol yn gallu parhau a bydd yr iPads yn mynd lle mae’r angen mwyaf yn y gymuned, gyda chefnogaeth Canolfan Cydweithredol Cymru, fel y gall y rhai sy’n eu derbyn manteisio i’r eithaf ar y dechnoleg newydd.

Bydd yr iPads hyn hefyd yn cefnogi’r fenter ‘ Attend Anywhere ‘ sy’n wasanaeth ymgynghori o bell sy’n cael ei gyflwyno ar hyn o bryd gan y Bwrdd Iechyd i feddygon teulu. Bydd pum cartref gofal yn treialu’r cynllun i alluogi ymgynghoriadau iechyd o bell ddigwydd yn y cartrefi hyn.

Mae’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol hefyd yn gweithio gydag uned cynhwysiant digidol Llywodraeth Cymru sy’n darparu 1,100 o iPads ychwanegol i gartrefi gofal a hosbisau ledled Cymru.

Dywedodd Bethan Jones Edwards, Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol ar ran y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol:

“Rydym yn falch iawn o ddod â’r prosiect gwydnwch cymunedol ymlaen yn ein rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Cymunedol a dod â chyllid ynghyd o grantiau a ddyfarnwyd i Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru  a gyda chyllid Macmillan rydym wedi gallu symud ymlaen yn gyflym ar y prosiect hwn. Rydym yn dosbarthu’r rhain i gartrefi gofal a wardiau dros y dyddiau nesaf.

“Bydd hyn yn galluogi preswylwyr a chleifion i gadw cysylltiad â’u teuluoedd tra na allant dderbyn ymwelwyr ar yr adeg anodd hon. Dyma enghraifft wych o weithio ar y cyd rhwng Awdurdodau Lleol, y Bwrdd Iechyd, Macmillan a chanolfan Cydweithredol Cymru ac mae hefyd yn galluogi’r Bwrdd Iechyd i dreialu ei brosiect ‘Attend Anywhere’.

Mae pryniant y dyfeisiau hyn wedi cael ei groesawu gan Dr Ambalavanan, Meddyg mewn Meddygaeth Resbiradol yn Ysbyty Glan Clwyd:

“Fel clinigwyr, rydym i gyd yn ymwybodol iawn o ganlyniadau ehangach cleifion yn yr ysbyty yn methu â chael mynediad at gefnogaeth eu hanwyliaid yn ystod eu salwch ac adferiad. Er mwyn lleddfu eu trallod (mewn unrhyw ffordd fach bosibl), rydym yn defnyddio’r adnoddau a ddarparwyd i ganiatáu i gleifion gael cyswllt fideo â’u teuluoedd. Rydym hefyd wedi dechrau cyfathrebu â theuluoedd fel gweithwyr proffesiynol i ateb eu hymholiadau gyda chymorth y dyfeisiau hyn”.

Ffeiliwyd dan: Blog, Casgliad o syniadau da, covid-19-cy, CSD Covid-19, CSD digidol

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Primary Sidebar

Chwilio

Negeseuon Diweddar

YN EISIAU: CYNRYCHIOLYDD TRYDYDD SECTOR CENEDLAETHOL

Cynhwysiant Digidol

Trigolion DINBYCH – rydym eich angen chi!

  • Ffocws ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches
  • Rhagflas i Ofal
  • Gofalwyr – Rydym eisiau clywed gennych!

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

@CoproNetWales Member logo

Copyright © 2023 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital