• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
    • Cymryd rhan
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
      • Anableddau dysgu
      • Iechyd meddwl
      • Plant a phobl ifanc
    • Gofalwyr
    • Dementia
    • Comisiynu
    • Gweithlu
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Blog / Lansio adnodd digidol newydd i gefnogi arloesi ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a diwydiant

Lansio adnodd digidol newydd i gefnogi arloesi ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a diwydiant

08/07/2021

Mae Cyflawni Arloesedd yn adnodd newydd a ddatblygwyd gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i lywio ac arwain y rheini sy’n gweithio ar arloesi ar draws meysydd iechyd a gofal cymdeithasol a diwydiant.

Mae’n crynhoi ymchwil allweddol, yn rhoi cipolwg beirniadol ac yn cyflwyno safbwyntiau ffres gan arweinwyr agweddau ar draws sectorau.

Mae’r adnodd digidol newydd hwn yn adolygu’r cyfoeth o wybodaeth sydd ar gael am arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn rhoi’r wybodaeth fwyaf perthnasol a phwysig i’r rheini sydd ei hangen. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi gweithio’n agos gyda chyfranwyr ar draws meysydd iechyd, diwydiant, academia a gofal cymdeithasol, gan ddarparu mewnbwn.

Mae llawer o randdeiliaid yn credu bod arloesi yn hanfodol ar gyfer sbarduno newid ar draws y system a gwneud gwahaniaeth i gleifion a phobl. Mewn arolwg diweddar a gomisiynwyd gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar gyfer Beaufort Research, gwelwyd bod 97% ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn ystyried bod arloesi yn bwysig iawn, ynghyd â 91% o ddiwydiant.

Ond, gall rhwystrau wneud arloesi’n anoddach, gan gynnwys diffyg iaith gyffredin, adnoddau, ac ymgysylltu ar draws sectorau. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi creu’r adnodd Cyflawni Arloesedd i helpu i fynd i’r afael â’r heriau hyn, gan ddod o hyd i ddatrysiadau ac atebion sy’n seiliedig ar dystiolaeth i helpu i lywio’r ecosystem arloesi a diogelu ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol at y dyfodol.

Bydd yr adnodd yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd gyda deunydd newydd, ac yn cael ei lansio gydag:

  • adolygiad o lenyddiaeth gyfredol ar arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol– sy’n crynhoi hyn i ddarparu 14 o themâu allweddol mewn dogfen hawdd ei darllen sy’n hwylus i bawb,
  • adolygiad polisi sy’n edrych ar bolisïau’r llywodraeth sy’n effeithio ar sefyllfa arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru,
  • cyfeiriadur sy’n rhestru’r holl sefydliadau a’u gwasanaethau ledled Cymru sy’n gallu cefnogi arloesi, a
  • chyfres o flogiau gan arweinwyr agweddau ar draws meysydd diwydiant, iechyd a gofal
    cymdeithasol.

Yn ôl Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

Gall yr adnodd newydd hwn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o helpu rhanddeiliaid o bob cefndir i lywio drwy ecosystemau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru a thu hwnt. Mae arloeswyr yn allweddol i drawsnewid iechyd, gofal a lles ar raddfa fawr yng Nghymru a bydd yr adnodd hwn yn eu helpu i gyflawni hyn.

Yn ôl Dr. Chris Subbe, Meddyg Ymgynghorol ym maes Meddygaeth Gofal Critigol, Anadlol ac Acíwt ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Uwch Ddarlithydd Clinigol ym Mhrifysgol Bangor:

Roeddwn yn falch iawn o gyfrannu at yr adnodd Cyflawni Arloesedd trwy archwilio pwysigrwydd gwneud arloesi yn arfer bob dydd.

Yn yr amser hwn o bwysau eithriadol ar ein gallu i ddarparu gofal o safon mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o ddatblygu talent a syniadau o bob man. Dylai’r adnodd newydd hwn rymuso arloeswyr amlddisgyblaethol o gefndiroedd diwydiant a gofal iechyd gyda’r wybodaeth, y cyd-destun a’r iaith sy’n ofynnol.

Wrth i ni ddechrau’r broses adfer, mae’n hanfodol ein bod yn manteisio ar gyfleoedd i wella’r gwasanaethau a ddarperir, effeithlonrwydd, canlyniadau i gleifion, lles staff, ac annog diwylliant o ddysgu a rhannu arferion gorau ar draws ffiniau sefydliadol.

Daw’r adnodd ar adeg gyffrous ar gyfer arloesi yng Nghymru, gyda lansio’r Academïau Dysgu Dwys yn gynharach yn 2021. Y cyntaf o’u math yn y byd, mae’r academïau hyn sydd gyda’r gorau yn y byd yn darparu cyrsiau dysgu sy’n canolbwyntio ar arloesi, yn ogystal ag ymchwil a gwasanaethau ymgynghori pwrpasol, gyda Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cefnogi partneriaid perthnasol.

Os hoffech chi archwilio’r adnodd Cyflawni Arloesedd, ewch i: https://lshubwales.com/cy/Adnodd-Cyflawni-Arloesedd

Ffeiliwyd dan: Blog

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Primary Sidebar

Chwilio

Negeseuon Diweddar

Gofalwyr – Rydym eisiau clywed gennych!

Cronfa Seibiant Byr Amser

Tai – Problem Pawb … neb yn gyfrifol

  • Fframwaith Iechyd, Lles a Gwytnwch Emosiynol
  • Camu i’r Gwaith
  • Ffocws ar ofalwyr ifanc

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

Co-production Network for Wales

Copyright © 2023 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital