Gofynnwch a chwi a gewch. Mewn ymateb i geisiadau ar drefnu cyfarfodydd a digwyddiadau i arddangos yr hyn rydym yn ei gyflawni o fewn Llwybr Cefnogi Cof Gogledd Cymru ynghyd â rhoi cyfle i bobl ofyn cwestiynau
Bydd nifer o sesiynau Eventbrite yn cael eu cynnal yn ystod mis Medi a mis Hydref. Cyfle i gwrdd â’r darparwyr a dysgu mwy am yr hyn rydym yn ei wneud.
Cliciwch ar y DDOLEN hon i ymuno â’r sesiynau.
Mae gennym gyflwyniadau Cymraeg a Saesneg.
Bydd y cyflwyniadau Cymraeg yn cael eu traddodi ar yr 21ain a 27ain o Fedi.
Mae croeso i chi rannu’r cyswllt â’ch timau a’ch rhwydweithiau fel y gallant hwythau hefyd archebu lle ar y digwyddiad. (SYLWCH: mae’r sesiynau yn union yr un fath, felly dim ond un sydd angen i chi ei archebu.)
Bydd dolen Zoom yn cael ei anfon allan 2 ddiwrnod cyn y sesiwn.
Os byddai’n well gan unrhyw bartneriaid neu dimau penodol gael cyflwyniad a thrafodaeth wyneb yn wyneb, gellir trefnu hyn, fodd bynnag, efallai yn hwyrach yn y flwyddyn oherwydd y galw, cysylltwch â Luke Pickering-Jones yn uniongyrchol ar Luke.Pickering-Jones@denbighshire.gov.uk
