North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Anableddau dysgu
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
      • Am asesiad poblogaeth Gogledd Cymru
      • Ymgynghoriad
      • Themâu a phenodau
      • Cynllun Rhanbarthol
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
    • Comisiynu
    • Cymryd rhan
    • Diogelu
    • Gweithlu
    • Gofalwyr
    • Integreiddio
  • Blog
  • Digwyddiadau
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Blog / Mae Hac Iechyd Cymru yn ei ôl!

Mae Hac Iechyd Cymru yn ei ôl!

22/10/2020

Mae 8fed Hac Iechyd Cymru yn cael ei gynnal ar-lein ar 10 ac 17 Tachwedd ac mae’n gyfle gwych i staff y GIG, prifysgolion a’r diwydiant gydweithio a rhwydweithio i ddatblygu syniadau cam cynnar a allai ddatrys heriau iechyd gweithredol yng Nghymru.

Mae Hac Iechyd Cymru yn dod â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a chwmnïau digidol, technegol a seiliedig ar ddata ynghyd i ddatrys heriau clinigol ar draws y sector iechyd a gofal yng Nghymru.

Cam cyntaf Hac Iechyd Cymru yw gofyn i gydweithwyr ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyflwyno heriau sy’n effeithio ar eu gwaith. I gyflwyno eich her, y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw llenwi holiadur byr ar-lein. Ar ôl cyflwyno eich her, bydd aelod o’r tîm trefnu yn cysylltu â chi. Ar ôl cyhoeddi eich her, bydd cydweithwyr yn cael cyfle i ddechrau sgwrsio a rhwydweithio cyn y digwyddiad.

Mae rhan gyntaf y digwyddiad yn canolbwyntio ar gyflwyno eich her a dod o hyd i bartner i gydweithio ag ef i ddatblygu ateb i’w rannu â chynulleidfa a phanel o feirniaid yn ystod ail gam y digwyddiad, ar 17 Tachwedd. Yn ogystal â’r £200,000 o gyllid ar y cyd gan Lywodraeth Cymru ac Agor IP (i’w rannu ymysg yr holl heriau buddugol), bydd arbenigwyr allanol hefyd yn cynnig cyngor ar sut i fwrw ymlaen â’r atebion arfaethedig. Bydd tîm Hac Iechyd Cymru wrth law i ddarparu cefnogaeth ac arweiniad parhaus ar ôl i’r digwyddiad ddod i ben.

Dysgwch fwy a chyflwyno eich her nawr!

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, gallwch gysylltu â’r trefnwyr yn events@lshubwales.com

Ffeiliwyd dan: Blog

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Chwilio

Negeseuon Diweddar

Recriwtio gofal

Arolwg

Canllawiau Ymarfer Diogelu Oedolion Newydd Gogledd Cymru

Labordai, labordai, labordai

  • Recriwtio gofal
  • Labordai, labordai, labordai
  • Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gogledd Cymru: Cynrychiolwyr Gofalwyr
  • Gwneud yr hyn sy’n wirioneddol bwysig ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru – sut mae gwneud iddo ddigwydd gyda’n gilydd?

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

Copyright © 2020 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital