Yn ystod yr Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia hon, byddwn yn canolbwyntio ar ddiagnosis, gan annog y rhai sy’n pryderu y gallent hwy neu rywun sy’n agos atynt fod yn profi arwyddion o ddementia i ddod atom am gymorth.
Pam diagnosis?
Mae ymchwil diweddar, a gynhaliwyd gyda dros 1000 o bobl yr effeithir arnynt gan ddementia, yn dangos mai’r camsyniad bod symptomau fel colli cof yn arwydd o heneiddio normal yw’r rhwystr mwyaf i bobl sy’n ceisio diagnosis dementia.
Gyda chyfraddau diagnosis ar ei isaf ers pum mlynedd, mae degau o filoedd o bobl bellach yn byw gyda dementia heb ei ddiagnosio. Mae hyn yn golygu nad oes ganddyn nhw fynediad at y gofal a’r cymorth hanfodol y gall diagnosis eu cynnig.
Gall cael diagnosis fod yn frawychus, ond credwn ei bod yn well gwybod. Ac felly hefyd 91% o bobl yr effeithir arnynt gan ddementia.
Rydyn ni wedi creu 3 fideo sy’n canolbwyntio ar fywydau pobl sy’n byw gyda dementia neu’n cael eu heffeithio ganddo, a manteision cael diagnosis.
Mae yna hefyd ffilm esbonio sy’n cynnwys yr Athro Louise Robinson ar ‘Awgrymiadau da ar gyfer siarad â’ch Meddyg Teulu’ i’r rhai sy’n poeni y gallent hwy neu rywun agos fod yn profi arwyddion o ddementia.
