Bydd MtM yn cynnal ei ail Reithgor Dinasyddion yn Stadiwm Dinas Caerdydd, rhwng Mai 18fed a Mai 22ain 2020 ac rydym yn chwilio am bobl i gymryd rhan fel Rheithwyr.

Fel Rheithiwr byddwch yn gweithio gyda 12 i 15 o gyfranogwyr eraill i ateb cwestiwn y byddwn yn ei osod ichi ar ddechrau’r broses. Byddwch chi a’r Rheithwyr eraill, gyda chefnogaeth Hwylusydd, yn holi Tystion, yn ystyried y dystiolaeth y maen nhw’n ei chyflwyno ac yna’n dod i gasgliadau ac yn gwneud eich argymhellion.
Rydym yn chwilio am unigolion 18 oed a hŷn a hoffai fod yn Rheithwyr. Rydym am i’r Rheithgor adlewyrchu poblogaeth Cymru ac rydym yn chwilio am gronfa amrywiol o unigolion sydd â diddordeb. Dewisir y Rheithwyr terfynol ym mis Ebrill.
Nid oes angen unrhyw wybodaeth na phrofiad blaenorol arnoch o ofal cymdeithasol yng Nghymru – darperir yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch fel rhan o’r broses.
Rydyn ni am i’r profiad o fod yn Rheithiwr fod yn un diddorol a phleserus – mae hwn yn gyfle cyffrous, ac yn gyfle i chi fod yn rhan o ddull arloesol ac anghyffredin o drafodaethau polisi, a dweud eich dweud ar fater critigol.
Ewch i www.mtm.wales/citizens-jury-2020 i ddarganfod mwy ac i gofrestru’ch diddordeb mewn cymryd rhan.
Neu cysylltwch â Katie gydag unrhyw ymholiadau neu gwestiynau – Katie.cooke@southwales.ac.uk / 07964 407 739.