• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
    • Cymryd rhan
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
    • Anableddau dysgu
    • Iechyd meddwl
    • Plant a phobl ifanc
    • Gofalwyr
    • Dementia
    • Comisiynu
    • Gweithlu
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Blog / Anabledd dysgu / Mesur y mynydd

Mesur y mynydd

14/11/2019

Mae pob stori yn bwysig

Y llynedd, rhannodd pobl ledled Cymru 473 o straeon anhygoel gyda Mesur y Mynydd (MtM). Straeon a amlygodd natur gymhleth a phersonol iawn bod yn ofalwr ac o ddefnyddio gwasanaethau gofal a chymorth. Cynorthwyodd y straeon hyn i baentio llun o sut beth yw gofal cymdeithasol mewn gwirionedd i bobl.

Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb a rannodd straeon gyda ni. Er nad oedd pob stori yn yr adroddiad terfynol, darllenwyd pob un ohonynt, dadansoddwyd pob un ohonynt a chyfrannodd pob un ohonynt at y canfyddiadau, y casgliadau a’r argymhellion a wnaed gan y prosiect.

Cyflwynodd MtM y canfyddiadau hyn i Lywodraeth Cymru yn gynharach eleni. Gallwch ddod o hyd i’n hadroddiad llawn, gan gynnwys ein hargymhellion, ar ein gwefan www.mym.cymru/adnoddau.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ymateb ffurfiol i ganfyddiadau blwyddyn gyntaf y gwaith yr hydref hwn. Byddwn yn rhannu’r ymateb hwn pan fyddwn yn ei dderbyn a’i gyhoeddi ar ein gwefan – gallwch ein dilyn ar Trydar @mtmcymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr holl newyddion a digwyddiadau diweddaraf.

Ers hynny, rydym wedi derbyn cyllid pellach i’r prosiect barhau â’i waith tan fis Hydref 2020.

Ym mis Medi, ffurfiodd MtM ran o’r agenda yng Nghynhadledd Genedlaethol Gofal Cymdeithasol 2019. Mae hwn yn ddigwyddiad pwysig, yn enwedig i arweinwyr o bob rhan o’r sector gofal cymdeithasol sy’n gweithio i drawsnewid darpariaeth gwasanaethau yng Nghymru. Ar Ddiwrnod 2 y gynhadledd, rhannodd Katie Cooke ganfyddiadau ac argymhellion MtM o 2018. Amlinellodd Katie rai o’r ffactorau a gyfrannodd at brofiadau cadarnhaol neu negyddol pobl gyda thua 130 o weithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol, aelodau cabinet awdurdodau lleol a phobl o Lywodraeth Cymru.

Bydd y cam cyfredol hwn o’r prosiect yn canolbwyntio ar gasglu straeon pellach, cynnal ail Reithgor Dinasyddion ym mis Mai 2020 a pharhau i rannu canfyddiadau’r cam cyntaf. Er mwyn helpu i adeiladu’r darlun ymhellach o sut beth yw bod yn ofalwr neu ddefnyddio gwasanaethau gofal a chymorth, rydym yn gofyn ichi rannu straeon gyda ni eto. Gallwch wneud hyn trwy fynd ar-lein a chlicio ar y cyswllt ar ein gwefan – www.mym.cymru/rhannu-fy-stori – neu gallwch wahodd Katie (Katie.cooke@southwales.ac.uk) i ymweld â grŵp rydych chi’n rhan ohono i glywed straeon.

Byddai MtM wrth ei fodd yn clywed gan bobl a gyfrannodd y tro diwethaf a chan bobl sy’n gyfranwyr newydd. Mae pob stori yn bwysig, mae pob stori yn dweud rhywbeth gwerthfawr wrthym a gallai pob stori helpu i lunio dyfodol gofal cymdeithasol a darparu gwasanaethau cymorth.

Am wybodaeth bellach, i wahodd MtM i’ch grŵp neu os oes gennych unrhyw gwestiynau ewch i www.mym.cymru, dilynwch ni ar Trydar – @mtmcymru neu cysylltwch â Katie –

Katie.cooke@southwales.ac.uk / 07964 407 739.

Ffeiliwyd dan: Anabledd dysgu, Blog

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Primary Sidebar

Negeseuon Diweddar

Digwyddiad Dweud Straeon

Canolbwyntio ar niwroddatblygiad

Elderly man using RITA

Defnyddwyr RITA yng Ngogledd Cymru yn uno

  • Y Bws Dementia – gofalwyr yn gweld y goleuni
  • Dewch o hyd i Gartrefi Gofal yng Nghymru sy’n diwallu’ch anghenionchi.
  • Canolbwynt ar anabledd a salwch

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

@CoproNetWales Member logo

Copyright © 2023 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital