• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
    • Cymryd rhan
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
      • Anableddau dysgu
      • Iechyd meddwl
      • Plant a phobl ifanc
    • Gofalwyr
    • Dementia
    • Comisiynu
    • Gweithlu
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Blog / Newyddlen Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru – Chwefror 2021

Newyddlen Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru – Chwefror 2021

17/02/2021

Gwella iechyd a lles pobl a chymunedau gyda’n gilydd

Bu 2020 yn flwyddyn eithriadol o brysur i Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.

Fe wnaethom fabwysiadu ffyrdd newydd, creadigol ac arloesol o gefnogi dinasyddion a hoffem rannu ychydig o’r hyn a gyflawnwyd yn ystod y 12 mis diwethaf gyda chi.

Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Plant

Dangosyddion cynnar llwyddiant:

Ffrwd waith 1: ymyrraeth gynnar ac atal

  • Cyflawni’r gwaith cychwynnol i adeiladu dull gweithredu gydweithredol ar draws asiantaethau partner.
  • Roedd hyn yn golygu ymgynghori gyda budd-ddeiliaid allweddol o wasanaethau i rannu’r cynllun a gwrando ar eu barn. Bu’r ymarfer hwn yn llwyddiant a chyfrannodd at siapio’r prosiect a nododd ymrwymiad clir i’r broses o gydgynhyrchu.
  • Adeiladu dealltwriaeth aeddfed, dryloyw a cholegaidd o pam nad yw’r system i gefnogi iechyd a lles emosiynol plant yn gweithio’n effeithiol ar hyn o bryd a pham fod angen y prosiect hwn.
  • Grŵp Llywio gyda phresenoldeb gan uwch arweinyddion ar draws y bartneriaeth gan gynnwys yr holl awdurdodau lleol, y Bwrdd Iechyd, a’r Sector Gwirfoddol a Chymunedol.
  • Sefydlu’r lefel iawn o arweinyddiaeth ar y Grŵp Llywio, gyda’r meddylfryd cywir.
  • Ennill ymrwymiad i fabwysiadu un dull cydlynol ar draws sefydliadau i helpu i gefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd wella eu iechyd emosiynol, eu lles, a’u gwytnwch ar draws y bartneriaeth.

Ffrwd Gwaith 2: Ymyraethau ffiniau gofal

  • Ymchwil a datblygiadau manwl i lywio’r dewis o fodelau gofal.
    Cynlluniau gweithredu manwl wedi eu llunio gan bob ardal i amlinellu model ar gyfer gwasanaethau gan gynnwys gofynion staffio a manylion costau .
  • Cyfnod dwys o weithio mewn partneriaeth i ddatblygu cyd-ddealltwriaeth, gweledigaeth a iaith gyffredin fel sail ar gyfer sefydlu ffyrdd newydd o weithio a fydd yn hwyluso newid yn y system ac yn sicrhau fod teuluoedd yn cael y cymorth gorau posib i newid ymddygiad a gwella canlyniadau.
  • Gweithredu gwasanaethau newydd a ddarperir gan dimau amlddisgyblaethol; mae hyn yn cynnwys model gwasanaeth Therapi Aml-systemig yn un o’r ardaloedd is ranbarthol sydd yn weithredol, y cyntaf i sefydlu Therapi Aml-Systemig yng Nghymru.

Ffrwd Gwaith 3: Amddiffyn Plant yn Effeithiol

Creu rôl mentor bwrpasol i ddarparu mentora i staff yn unigol ac mewn grŵp.

  • Datblygu a darparu modelau newydd ar gyfer ymyraethau mentora i unigolion a grwpiau o staff, a’u gwerthuso
  • Sefydlu dwy wefan, ar gyfer Effective Child Protection a Gwynedd Risk Model a safle mewnrwyd i staff.
  • Darparu digwyddiadau briffio aml-asiantaeth
  • Ad-drefnu mentora unigol a grwpiau i lwyfan ar-lein

Gofalwyr di-dâl:

Mae’r cyfnod clo wedi bod yn eithriadol o anodd i lawer o ofalwyr; maent wedi teimlo yn anweledig neu wedi eu gadael; ac wedi colli annibyniaeth. Mae llawer ohonynt yn poeni am y tymor hir, hynny yw swyddi, arian, ac ati. Mae lefelau o straen yn uchel iawn ymhlith gofalwyr ar hyn o bryd.

Mae Covid-19 wedi cynyddu y nifer o ofalwyr di-dâl o 196,000 yng Nghymru. Erbyn Mehefin 2020, roedd 98,000 o ofalwyr di-dâl yn dal i weithio yn ogystal â gofalu.

Ymatebodd gwasanaethau drwy:

Ddarparu gwasanaethau gofalu gymorth

  • drwy symud ar-lein a thrwy weithio o bell

Cefnogodd awdurdodau lleol ofalwyr drwy:

  • greu timau cymorth Covid-19
  • rhannu gwybodaeth ynglŷn â pha wasanaethau sydd ar gael;
  • rhoi cymorth ariannol brys lle roedd angen;
  • rhannu adnoddau gyda sefydliadau eraill.

Bu sefydliadau elusennol a gwirfoddol yn casglu meddyginiaethau, yn siopa ar ran pobl, yn gwneud galwadau fideo a llawer mwy

“Yn sydyn mae eich rhwydwaith gefnogi, allai fod yn deulu neu ffrindiau, yn diflannu, dydy’r awdurdod lleol ddim yn gallu darparu gwasanaethau i’ch cartref, dydy’r unigolyn rydych yn ofalu amdanynt ddim yn gallu mynd am ofal seibiant neu i ganolfan ddydd dair gwaith yr wythnos; dydych chi ddim yn gallu mynd i siopa oherwydd na allwch chi adael yr un rydych yn gofalu amdanynt; yn sydyn rydych yn unig ac ar eich pen eich hun; mae’n bosib fod yr un rydych yn eu caru wedi marw neu yn yr ysbyty.”

Mae gofalwyr ifanc wedi gofyn am:

  • fwy o gymorth o ran lles;
  • help i gadw mewn cysylltiad;
  • seibiant;
  • cymorth i gydbwyso gofalu gydag addysg a gwaith;
  • cymorth i gadw’n ffit ac iach.

Cymunedau Digidol :

Yn ystod Covid-19 mae ysbytai, cartrefi gofal a thai â chymorth wedi cael effaith enfawr ar bobl sy’n derbyn cymorth iechyd a gofal cymdeithasol ar draws Gogledd Cymru. Nid yw cleifion, trigolion na thenantiaid wedi gallu gweld ffrindiau a theulu pan maent ei angen fwyaf.

Drwy gymorth Rhaglen Drawsnewid Gwasanaethau Cymunedol ‘Menter Cymunedau Digidol’, rydym wedi prynu a dosbarthu tua 500 o iPads i bobl hŷn, a grwpiau eraill sydd ‘mewn peryg’, ar draws Gogledd Cymru. Mae’r rhain wedi bod yn hanfodol bwysig i nifer o bobl gadw mewn cysylltiad drwy gydol y pandemig; rhoi cyfle i bobl hŷn sydd yn hunan-ynysu, neu sydd yn yr ysbyty neu’n byw mewn cartref gofal, i gynnal cysylltiad gyda’r rhai sy’n annwyl iddynt, yn ogystal â pharhau i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol.

Mae trigolion a staff ar draws Gogledd Cymru bellach yn mwynhau defnyddio technoleg ddigidol, sydd wedi newid bywydau nifer ohonynt. Mae’r galwadau fideo wedi dod â budd emosiynol gan gynnwys cefnogi lles meddyliol:

“Pan dderbyniais alwad yn cynnig iPad er mwyn galluogi’r trigolion i gadw mewn cysylltiad gyda’u hanwyliaid yn ystod y cyfnod clo presennol, roeddwn wrth fy modd. Mae eu hwynebau yn goleuo pan maent yn gweld aelodau’r teulu yn ymddangos ar y galwadau fideo. Mae cael iPad i gysylltu gyda’r byd tu allan yn ystod cyfnod mor anodd wedi bod o fudd emosiynol sylweddol i’n trigolion”

I lawer o blant a phobl ifanc, mae defnyddio technoleg yn dod yn rhwydd. Dyna pam fod Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chymunedau Digidol Cymru i hyfforddi plant a phobl ifanc i ddod yn Arwyr Digidol fel y gallwn newid bywydau pobl gyda’u cymorth nhw.

Gallai dod yn Arwr Digidol fod mor syml â threulio amser gyda pherthynas mewn oed, egluro wrthynt sut i ddefnyddio dyfais symudol; neu gallai olygu helpu pobl hŷn o fewn y gymuned i allu mynd ar-lein.

Er mwyn darganfod mwy am ddod yn Arwr Digidol a chofrestru ar gyfer hyfforddiant am ddim, ewch i: Arwyr Digidol

Ffeiliwyd dan: Blog

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Primary Sidebar

Chwilio

Negeseuon Diweddar

Gofalwyr ifanc sy’n gofalu am oedolion â phroblemau iechyd meddwl

Plant nad ydyn nhw’n mynd i’r ysgol

Cynhwysiant Digidol

  • YN EISIAU: CYNRYCHIOLYDD TRYDYDD SECTOR CENEDLAETHOL
  • Trigolion DINBYCH – rydym eich angen chi!
  • Ffocws ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

@CoproNetWales Member logo

Copyright © 2023 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital