Dechreuodd NEWCIS eu prosiect Cynllunio Brys Dementia ym mis Ionawr 2021. Bydd gofalwyr sy’n gofalu am rywun annwyl sy’n byw gyda Dementia yn cael eu cefnogi gan NEWCIS i drafod a chwblhau dogfen cynllunio brys a fydd yn cofnodi pa gefnogaeth sydd ar gael pe bai argyfwng yn digwydd a bod angen cefnogaeth ar gyfer y rhai sy’n derbyn gofal. Mae’r ddogfen yn fesur ataliol gan ei bod yn annog gofalwyr i feddwl am y gefnogaeth a fyddai ar gael pe bai argyfwng yn codi a rhoi cynlluniau ar waith tra nad oes argyfwng yn digwydd.
Mae gofalwyr sy’n mynychu’r prosiect hwn a gofalwyr Dementia NEWCIS eraill hefyd wedi gallu cael gafael ar gyllid ar gyfer ‘Bridging the Gap’ (BTG), cymorth seibiant hyblyg i ofalwyr gan lawer o ddarparwyr gofal. Addaswyd BTG yn ddiweddar yn ystod y pandemig, er mwyn i deulu neu ffrindiau eu cefnogi gyda seibiant ac mae hyn wedi galluogi gofalwyr i ddewis pwy, sut a phryd y cânt y gefnogaeth, a fu yn amhrisiadwy yn ystod y cyfyngiadau diweddar. Dywed gofalwyr wrthym fod gallu bod yn greadigol a phwrpasol gyda’r gefnogaeth seibiant a gânt yn eu helpu i gynnal eu rôl ofalu.
Hefyd, mae NEWCIS wedi cefnogi gofalwyr yn y prosiect uchod o arian allanol ychwanegol trwy gynnig blychau Cadw’n Dda (blychau bwyd ffres) a blychau Cadw’n Brysur (blychau gweithgaredd). Roedd y blychau hyn yn sicrhau yn ystod y pandemig bod gofalwyr a oedd angen y gefnogaeth hon arnynt a mynediad ffrwythau a llysiau ffres a ddanfonwyd i’w cartrefi a hefyd weithgareddau yn darparu seibiant o’r rôl ofalu.
